Rydyn ni i gyd yn dda am wneud pethau gwahanol. Mae sgil yn golygu dy fod yn gwneud rhywbeth yn dda.
Bydd gwybod pa sgiliau sydd gennyt yn dy helpu yn y dyfodol i:
- Feddwl pa swyddi allai fod yn addas i ti - beth wyt ti’n ei fwynhau ac yn gwneud yn dda
- Wneud cais am y coleg - cei di nodi dy sgiliau ar dy gais i ddweud wrthyn nhw pam y byddet ti’n dda ar y cwrs hwnnw
- Wneud cais am swydd - cei di nodi dy sgiliau ar ffurflen gais neu CV i ddweud wrth y cyflogwr pam mai ti yw'r person iawn ar gyfer y swydd
Edrych ar rai sgiliau a beth maen nhw'n ei olygu
Cyfathrebu
Cyfathrebu yw sut wyt ti gyda phobl eraill. Gall fod y ffordd rwyt ti’n siarad ac yn gwrando ar bobl a sut wyt ti’n ymddwyn o flaen eraill.
Cymhelliant
Mae cymhelliant yn golygu dy fod yn hapus i wneud rhywbeth heb i unrhyw un orfod dweud wrthyt ti am wneud.
Datrys problemau
Mae datrys problemau yn golygu dod o hyd i atebion i bethau. Mae angen i ti ddeall beth yw'r broblem a meddwl am beth gelli di ei wneud i ddatrys y broblem.
Gwaith Tîm
Mae gwaith tîm yn golygu dy fod yn gweithio'n dda gyda phobl eraill i wneud rhywbeth, fel gweithio ar dasg.
Gwytnwch
Mae gwytnwch yn golygu dy fod yn gallu mynd drwy gyfnodau anodd. Mae'n golygu dy fod yn gallu newid sut wyt ti'n gweithredu a meddwl i dy helpu i ymdopi pan fydd pethau'n anodd.
Dyfalbarhad
Mae dyfalbarhad yn golygu bo' ti ddim yn rhoi'r gorau iddi pan mae pethau'n anodd. Ti'n cario 'mlaen ac yn gwneud dy orau.
Blaengaredd
Mae blaengaredd yn golygu dy fod yn gwneud pethau heb fod rhywun yn gofyn i ti eu gwneud. Rwyt ti’n gweld beth sydd angen ei wneud a'i wneud cyn bod unrhyw un yn gofyn i ti.
Hyblygrwydd
Hyblygrwydd yw sut wyt ti’n gallu newid i wneud pethau gwahanol neu i ffitio mewn gyda phobl eraill.
Creadigrwydd
Creadigrwydd yn bod yn dda am feddwl am syniadau newydd neu wahanol ffyrdd o wneud pethau.