Er mwyn meddwl beth yr hoffech ei wneud yn y dyfodol, mae'n ddefnydiol gwybod pa fath o berson ydych chi nawr.
Sut berson ydych chi?
Ydych chi yn:

Hoffi sgwrsio hefo llawer o bobl

Ddoniol ac yn hoffi gwneud i bobl chwerthin

Dawel ac mae'n well gennych chi siarad gyda theulu a ffrindiau agos

Hoffi helpu eraill
Beth rydych chi yn hoffi ei wneud?
Ydych chi'n hoffi:

Gwylio neu gymryd rhan mewn chwaraeon

Chwarae'r gemau cyfrifiadurol newydd

Gwrando ar gerddoriaeth

Gwario amser hefo teulu a ffrindiau
Beth ydych chi'n dda am ei wneud?
Ydych chi'n dda am:

Gyfathrebu- siarad a gwrando ar bobl eraill

Technoloeg Gwybodaeth (TG) - defnyddio cyfrifiadur a thechnoleg

Waith tîm - gweithio fel rhan o dîm o bobl

Dynnu lluniau - bod yn greadigol a meddwl am syniadau newydd
Beth yr hoffech chi allu ei wneud yn well?
Ydych chi eisiau:

Dysgu mwy am ddefnyddio cyfrifiadur

Gweithio'n well fel rhan o dîm

Gwybod mwy am bwnc yn yr ysgol

Teimlo'n hyderus yn siarad hefo pobl newydd
Eich sgiliau
Bydd gwybod pa fath o berson ydych chi yn eich helpu i wybod y sgiliau sydd gennych. Bydd hyn yn eich helpu yn y dyfodol pan fyddwch yn gwneud cais am goleg neu waith. Edrych ar:

Bydd gwybod pa sgiliau sydd gennyt yn dy helpu yn y dyfodol. Edrych ar rai sgiliau a beth maen nhw'n ei olygu.
Pwy sydd angen gwybod sut berson ydw i?
Mae llawer o bobl a allai fod eisiau gwybod mwy amdanoch chi er mwyn gallu eich helpu. Edrychwch ar:

Dewch i wybod pwy sydd eisiau gwybod mwy amdanoch chi fel eu bod yn gallu eich helpu.
Gwyliwch y fideos
Sgiliau mae cyflogwyr ei eisiau
Gwyliwch y fideo i wybod pa sgiliau mae cyflogwyr yn hoffi eu gweld.
Pe bawn i'n 16 oed eto
Gwyliwch y fideo i wybod pa gyngor fyddai cyflogwyr yn rhoi i'w hunain pe bydden nhw'n 16 oed eto.