Mae llawer o bobl a allai fod eisiau gwybod mwy amdanoch chi er mwyn gallu eich helpu.
Pobl rydych yn gweithio gyda nhw nawr

Athrawon a staff yr ysgol - i'ch helpu i wneud y mwyaf o'ch gwersi

Eich Cynghorydd Gyrfa - i'ch helpu gyda'ch camau nesaf ar ôl gadael yr ysgol

Eich Gweithiwr Cymdeithasol- i'ch helpu chi i baratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn
Pobl y byddwch yn cwrdd â nhw yn y dyfodol

Tiwtoriaid mewn coleg - i helpu i roi cymorth i chi yn y gwersi

Darparwyr hyfforddiant - i’ch helpu i ddysgu a gweithio yn y ffordd sydd orau i chi

Cyflogwyr – os byddwch yn gweithio byddent angen gwybod beth rydych yn gallu ei wneud yn dda
Sut y gallaf ddweud wrth bobl sut berson ydw i?
Gallwch sôn wrth bobl amdanoch chi eich hun mewn gwahanol ffyrdd.

Eich Athrawon, Cynghorydd Gyrfa a Gweithiwr Cymdeithasol - siaradwch gyda nhw, neu dangoswch iddynt beth rydych yn dda yn ei wneud

Cyflogwyr, Darparwyr Hyfforddiant, Tiwtoriaid coleg - dywedwch wrthyn nhw amdanoch eich hun mewn CV neu ffurflen gais. Gallwch ddweud wrthyn nhw a dangos iddynt mewn cyfweliad, er enghraifft os ydych chi'n greadigol fe allech chi ddangos peth o'ch gwaith celf iddyn nhw