Comisiynodd Gyrfa Cymru Thornacre i gynnal archwiliad hygyrchedd ar draws gwefan Gyrfa Cymru a'i rhaglenni rhwng 2024 a 2025.
Mae'r archwiliad yn cael ei gynnal mewn sypiau fel yr amlinellir isod.
Rhagfyr 2024 - roedd yr archwiliad yn ymdrin â phrofiadau allweddol defnyddwyr ar draws y wefan, gan gynnwys:
- Gwefan, hafan a llywio Gyrfa Cymru
- Cwis Buzz ac offer rhyngweithiol
- Chwilio am Brentisiaethau
- Tudalennau Gwybodaeth am Swyddi
- Ffurflenni cyswllt a mecanweithiau adborth
- Adnoddau addysgol a chanllawiau
Chwefror 2025 - roedd yr archwiliad yn ymdrin â phrofiadau allweddol defnyddwyr ar draws y wefan, gan gynnwys:
- Mewngofnodi
- Proffil
- Cwis Paru Gyrfa
- Cwis Syniadau Swyddi
- Adnoddau
Mehefin 2025 - roedd yr archwiliad yn ymdrin â phrofiadau allweddol defnyddwyr ar draws y wefan, gan gynnwys:
Gwnaethon ni hefyd asesu hygyrchedd sampl o ddogfennau sydd ar gael i'w lawrlwytho ar ein gwefan. Roedd y rhain yn cynnwys y dogfennau PDF, Word ac Excel sydd ar gael.
Bydd archwiliadau pellach yn cael eu cynnal drwy gydol 2025. Bydd y ddogfen samplu hon yn cael ei diweddaru yn unol â hynny.
Cynnwys cysylltiedig
Gweld cynnwys cysylltiedig arall: