Nid yw'n anarferol i bobl ifanc fod heb unrhyw syniadau am y swydd yr hoffent ei gwneud.
Beth i ganolbwyntio arno
Mae'n dda dechrau gyda rhywbeth sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Trafodwch beth mae nhw'n ei hoffi a beth dydyn nhw ddim yn ei hoffi. Yna gallwch archwilio’r hyn sy'n eu cymell.
Dechrau sgwrs
Dewiswch y cwestiwn rydych chi'n ei hoffi orau i weld i ba gyfeiriad eiff y sgwrs. Does dim rhaid i chi ofyn pob cwestiwn na'u defnyddio nhw yn y drefn isod.
Cwestiynau y gallech eu gofyn i ddechrau sgwrs:
- Pa fath o bethau wyt ti’n caru gwneud?
- Pa bwnc wyt ti’n ei fwynhau orau?
- Beth wyt ti’n ei hoffi am dy hoff bwnc?
- Pa wers wyt ti wedi ei mwynhau orau? Pam oeddet ti'n ei hoffi gymaint?
- Pa brosiect wyt ti wedi bod yn fwyaf cyffrous i wneud yn yr ysgol?
- Sut wyt ti'n teimlo am weithio mewn grŵp?
- Pa wersi neu bynciau wyt ti ddim yn eu mwynhau? Pam wyt ti ddim yn eu hoffi nhw?
- Pan ti'n meddwl am y dyfodol, beth sy'n bwysig i ti?
- Meddylia am rywun wyt ti'n ei adnabod, a’u swydd nhw. Beth wyt ti’n meddwl mae nhw’n gwneud yn eu swydd? Wyt ti'n meddwl yr hoffet wneud swydd debyg? Pam? Pam ddim?
Offer i roi cynnig arnynt
Cwis Buzz
Cwis personoliaeth yw Cwis Buzz i ganfod pa fath o bersonoliaeth sydd gennych a pha swyddi allai fod yn gweddu i chi. Bydd Cwis Buzz yn cymryd tua 5 munud i'w gwblhau.
Cwis Pwy Ydw i?
Mae’r Cwis Pwy Ydw i? yn seiliedig ar broffil personoliaeth y Cwis Buzz ond mae'n fwy syml. Bydd yn rhoi syniadau i'ch plentyn am y mathau o swyddi a allai fod yn gweddu iddyn nhw.
Cwis Paru Gyrfa
Mae’r Cwis Paru Gyrfa yn gofyn cwestiynau ac yn cynhyrchu rhestr o swyddi a gyrfaoedd sy'n cyfateb i sgiliau a diddordebau eich plentyn. Mae’r Cwis Paru Gyrfa yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Mae yno adran sgiliau hefyd lle gall eich plentyn raddio ei sgiliau.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dysgwch beth yw gwaith cynghorydd gyrfa, y gwahanol ffyrdd rydyn ni'n cefnogi'ch plentyn a'r manylion sydd gennym amdanynt.
Dysgwch sut a pham i baratoi ar gyfer cyfarfod gyda chynghorydd gyrfa.
Cyfle i gael awgrymiadau i gefnogi'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa da.