Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Grace

Grace

Helpodd cymorth gyrfa Grace i gymryd ei chamau cyntaf tuag at ddyfodol mewn ffiseg.

Roedd Grace yn gwybod ei bod hi’n mwynhau ffiseg, ond doedd hi ddim yn siŵr i ble y gallai ei harwain. Felly gwnaeth apwyntiad gyda’i chynghorydd gyrfa yn yr ysgol, Claire O’Brien.

Dywedodd Grace, “Roeddwn i’n gwybod bod gen i ddiddordeb mewn ffiseg yn ystod fy arholiadau TGAU. Doeddwn i ddim yn hollol siŵr i ble roeddwn i eisiau mynd â’r diddordeb hwnnw na pha bynciau Safon Uwch y dylwn i fod yn eu dewis. Felly es i i siarad â Claire.”

Archwilio opsiynau

Ar y dechrau, roedd gan Grace ddiddordeb mewn peirianneg chwaraeon moduro. Yn ystod ei sesiynau gyrfaoedd, cafodd Grace help gan Claire i ystyried yr opsiwn hwn. Fe wnaethon nhw edrych ar leoliadau posibl.

Pan ddaeth hi’n bryd dewis ei phynciau Safon Uwch, anogwyd Grace gan Claire i gadw ei hopsiynau ar agor.

Eglurodd Grace, “Cefais gyngor gan Claire i ddewis hanner fy mhynciau Safon Uwch mewn ffiseg ac yna hanner arall fy Safon Uwch mewn pwnc arall. Bioleg oedd y pwnc yma, ac roeddwn i rhwng dau feddwl am y ddau faes.

“Wrth astudio fy mhynciau Safon Uwch, sylweddolais mai astroffiseg oedd fy mhrif ddiddordeb. Roedd llawer gwell gen i hyn nag ochr peirianneg ffiseg.”

Prifysgol a meithrin hyder

Wrth i Grace ddechrau meddwl am y brifysgol, parhaodd Claire i’w chefnogi. Helpodd Grace i ddod o hyd i gyfleoedd a fyddai’n cryfhau ei chais i’r brifysgol.

“Fe wnaeth hi fy nghyfeirio at rai ysgolion haf gyda phrifysgolion y gallwn wneud cais iddynt. Es i i un ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna un ym Mhrifysgol Caerfaddon. Fe wnaeth hyn helpu fy nghais i’r brifysgol yn aruthrol.”

“Rhoddodd Claire hwb i’m hyder yn bendant. Fe wnaeth hi fy annog i anelu at brifysgolion Grŵp Russell, sydd ag ymchwil o’r ansawdd uchaf. Dywedodd fod gen i’r perfformiad academaidd i wneud cais.

“Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig i mi, gan fy mod i nawr eisiau gweithio ym maes ymchwil yn y dyfodol.”

Fe helpodd y cymorth hwn Grace i deimlo’n fwy hyderus ynglŷn â’r broses ymgeisio i’r brifysgol hefyd.

“Mae proses UCAS yn eithaf brawychus. Gwnaeth Claire hyn yn hawdd iawn, gyda rhestr wirio o’r hyn yr oedd angen i mi ei wneud.”

Ysbrydoli eraill

Mae Grace bellach yn astudio ffiseg yn un o brifysgolion Grŵp Russell. Mae hi’n ymwybodol bod menywod yn dal i gael eu tangynrychioli yn y pwnc. Mae Grace wedi dod o hyd i gefnogaeth drwy rwydweithiau prifysgolion ac mae’n mwynhau annog myfyrwyr iau drwy waith allgymorth.

“Mae maes ffiseg yn gyffredinol yn cynnwys tua 70% o ddynion a 30% o fenywod, a all fod braidd yn frawychus. Dw i’n meddwl ei bod hi’n wirioneddol bwysig i ferched iau weld merched eraill yn rhagori mewn gwyddoniaeth.”

Mae cyngor Grace i unrhyw un sy’n ansicr ynglŷn â siarad â chynghorydd gyrfa yn syml.

“Rhowch gynnig arno. Ni all dim byd drwg ddigwydd os ewch chi. Mwy o wybodaeth a mwy o gymorth a gewch chi yn y pen draw. Fe welwch chi gyfleoedd nad oeddech chi o bosibl yn gwybod amdanyn nhw o’r blaen.”

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth