Mae ein Cynghorwyr Gyrfa yn gweithio gyda phobl ifanc mewn ysgolion, colegau ac yn y farchnad lafur. Mae ein gwasanaethau yn rhad ac am ddim ac yn ddiduedd.
Mae rhai o'r ffyrdd y gallwn eich helpu yn cynnwys:
Cyfweliad cyfarwyddyd
Gall cyfarfod â chynghorydd gyrfa helpu'ch plentyn i ddysgu mwy am eu syniadau gyrfa a'r opsiynau sydd ar gael iddyn nhw. Gall cynghorwyr gefnogi pobl ifanc ag anghenion ychwanegol i wneud ceisiadau a, lle bo angen, gallan nhw nodi anghenion cymorth parhaus ac eirioli ar ran eich plentyn.
Gall cyfweliad cyfarwyddyd helpu hefyd gyda:
- Chymhelliant - helpu'ch plentyn i baratoi ar gyfer newid a mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau posibl
- Gwneud Penderfyniadau - cefnogi'ch plentyn i wneud penderfyniadau gwybodus
- Hunan ymwybyddiaeth - datblygu ymwybyddiaeth eich plentyn o'u diddordebau, eu hanghenion a'u galluoedd
- Ymwybyddiaeth o gyfle - datblygu gwybodaeth eich plentyn am y farchnad lafur
- Ceisiadau - helpu'ch plentyn i gael mynediad i gyfleoedd a gwneud ceisiadau
- Cydnerthedd - cefnogaeth i reoli anawsterau a delio â chyfnodau pontio
Mynychu cyfarfodydd cynllunio pontio
Os ydych plentyn yn yr ysgol neu'r coleg a bod ganddyn nhw Gynllun Datblygu Unigol (CDU) byddan nhw’n cael adolygiad blynyddol o'r ddogfen honno a'r cymorth a ddarperir. Mae’n bosibl y gwahoddir Cynghorwyr Gyrfa i’r adolygiadau hynny i amlinellu opsiynau a chefnogi’ch plentyn gyda’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Cefnogi pontio
Os oes gan eich plentyn Gynllun Datblygu Unigol (CDU) gall yr ysgol neu'r awdurdod lleol rannu'r CDU gyda'r darparwr newydd fel eu bod yn ymwybodol o anghenion cymorth eich plentyn. Bydd Gyrfa Cymru ond yn rhannu gwybodaeth am anghenion eich plentyn gyda'u caniatâd nhw.
Os ydych plentyn yn bwriadu mynd i wneud Twf Swyddi Cymru+ gall y Cynghorydd Gyrfa drafod eu angehenion, a gyda chaniatad eich plentyn, ei rannu gyda'r darparwr.
Os ydyn nhw'n bwriadu mynd i ddysgu pellach yna bydd yr ysgol neu'r Awdurdod Lleol yn rhannu'r CDU gyda'r darparwr.
Cefnogaeth i'r rhai yn y farchnad lafur
Os ydych plentyn eisoes wedi gadael addysg ac yn chwilio am waith gall ein tîm Cymru'n Gweithio helpu. Gallan nhw ddarparu cyfarwyddyd gyrfaoedd a chefnogaeth cyflogadwyedd. Gallan nhw helpu pobl ifanc i ysgrifennu CV, chwilio am swyddi a gwneud cais am swyddi gwag.
Gall pob un o’n cynghorwyr hefyd helpu eich plentyn i drefnu ymweliadau â darparwyr, siarad â darparwyr am eu hanghenion cymorth a chyfeirio at asiantaethau eraill a allai helpu hefyd.