Mae'r adroddiad hwn wedi'i baratoi yn seiliedig ar y gweithlu ar 31 Mawrth 2023 a'r cyfnod cymharu uniongyrchol yw 31 Mawrth 2022.
Rydym yn cadarnhau bod y data bwlch cyflog rhywedd sy’n cael ei gynnwys yn yr adroddiad hwn yn gywir ac wedi cael ei lunio yn unol â'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg.
Pwrpas adrodd ar y bwlch cyflog rhywedd yw darparu cymhariaeth o'r cydbwysedd rhwng dynion a menywod o fewn ein strwythur graddau cyflog mewnol yn hytrach na thynnu sylw at anghydbwysedd o ran cydraddoldeb cyflog ar gyfer rolau cyfartal.
O'i gymharu â 2022, mae ein bwlch cyflog rhywedd wedi cynyddu 0.1% o 1.5% i 1.6%.
Datgeliad, rwy’n cadarnhau bod ein data wedi'i gyfrifo yn unol â gofynion Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth am y Bwlch Cyflog Rhywedd) 2017.
Nikki Lawrence Prif Weithredwr
Trosolwg
Cyfanswm nifer y staff ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2023 oedd 629 o gymharu â 617 ym mis Mawrth 2022.
Gweithlu benywaidd sydd gennym yn bennaf (76.94% yn 2023, cynnydd bach o 76.17% yn 2022), gall newid yn y gyfran o staff benywaidd i ddynion, neu i'r gwrthwyneb gael effaith sylweddol ar y bwlch cyflog rhywedd. Cynyddodd y bwlch eleni oherwydd cynnydd yn nifer y dynion gradd 6 o 41.5% i 42.6% a gradd 8 o 37.5% i 42.8%.
Wrth recriwtio, er mwyn sicrhau tegwch i bawb, rydym yn penodi ar sail teilyngdod ac mae ein ffocws ar y gallu a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r swydd. Rydym yn sicrhau bod ein prosesau recriwtio yn dileu tuedd annheg drwy sicrhau bod pob ffurflen gais yn cael ei gwneud yn ddienw cyn cael eu hasesu ac rydym yn defnyddio cyfweliadau strwythuredig a chanolfannau asesu sgiliau lle bo'n briodol.
Yn ystod ein proses recriwtio, rydym yn cydnabod anghenion amrywiol gwahanol aelodau’r gweithlu, a'n hegwyddorion sylfaenol yw sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a thegwch wedi'u hymwreiddio ymhob rhan o Gyrfa Cymru.
Hunaniaeth o ran rhywedd
Rydym yn cydnabod bod rhywedd yn fwy cymhleth na dim ond "dynion" a "menywod". Mae'n debygol bod gennym ni aelodau staff nad ydynt yn ffitio o fewn y categorïau deuaidd ac sydd o bosib yn diffinio eu hunain fel anneuaidd ac eraill sydd efallai’n ystyried nad ydynt yn cyd-fynd â'r rhywedd a neilltuwyd iddynt pan gawsant eu geni. Fodd bynnag, oherwydd y ddeddfwriaeth sydd ar waith, mae'n rhaid i ni adrodd am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau o ran dynion a menywod. Rydym wedi defnyddio'r data hawl i weithio a ddarparwyd ar ddechrau cyflogaeth i ddyrannu staff fel dynion neu fenywod at ddibenion yr adroddiad hwn.
Newidiadau i'r gweithlu yn y cyfnod hwn
Ymunodd 12 aelod newydd o'r staff â ni o gymharu â gweithlu 2023. Roedd y newid mwyaf arwyddocaol yng ngradd 3 lle gostyngodd nifer y staff o 50 yn 2022 i 25 yn 2023 oherwydd bod y cynghorwyr gyrfaoedd dan hyfforddiant yn cael eu hailraddio i radd 4 ar ôl cwblhau eu hastudiaethau i ddod yn gymwys ar lefel 6. Yn gyffredinol rhwng gradd 3 a 4 bu cynnydd o 12 aelod staff benywaidd rhwng 2022 a 2023 a gostyngiad o ddau ddyn. Ychydig iawn o newid oedd yn y graddau rheoli 6-10.
Bwlch cyflog cymedrig
Mae'r bwlch cyflog cymedrig yn cael ei gyfrifo trwy adio cyflog yr awr yr holl fenywod mewn sefydliad a'i rannu â nifer y menywod, gan wneud yr un swm ar gyfer y dynion, ac yna cymharu'r ddau ffigur. Er mai dim ond 23% o'r gweithlu sy’n ddynion, mae cyflog cymedrig y dynion hynny 1.6% yn uwch na chyflog y menywod. Rydym wedi nodi nifer o resymau pam mae hyn yn wir. Nid yw cyfran y dynion yn y graddau cyflog uwch 6 ac 8 yn gynrychiadol o’r boblogaeth gyffredinol. Mae mwy na 40% o ddynion mewn swyddi ar y ddwy radd hyn ac mae hyn wedi cynyddu o gymharu â 2022. Mae'r cynnydd yn y grwpiau hyn wedi'i wrthbwyso ryw fymryn gan y cynnydd yn nifer y dynion sydd ar radd 3. Mae hyn arwain at gynnydd yn y bwlch cyflog o 0.1%.
| Gradd | % Menywod 2023 | % Menywod 2022 | % Dynion 2023 | % Dynion 2022 |
| 1 | 82.3 | 82.1 | 17.7 | 17.9 |
| 2 | 77.8 | 77.1 | 22.2 | 22.9 |
| 3 | 72.0 | 76.0 | 28.0 | 24 |
| 4 | 79.3 | 78.2 | 20.7 | 24 |
| 5 | 70.79 | 66.7 | 29.03 | 21.8 |
| 6 | 57.4 | 58.5 | 42.6 | 33.3 |
| 7 | 85.2 | 85.2 | 14.8 | 41.5 |
| 8 | 57.14 | 62.5 | 42.86 | 37.5 |
| 9 | 100 | 100 | 0 | 0 |
| 10 | 100 | 100 | 0 | 0 |
Bwlch Cyflog Canolrifol
Mae'r bwlch cyflog canolrifol yn cael ei gyfrifo trwy ddod o hyd i'r union bwynt canol rhwng y fenyw ar y cyflog isaf a’r fenyw ar y cyflog uchaf mewn sefydliad a'r dyn ar y cyflog isaf ac ar y cyflog uchaf, yna cymharu'r ddau ffigur i gyfrifo'r gwahaniaeth mewn cyflogau. Rydym yn adrodd gwahaniaeth o 0% yn y bwlch cyflog canolrifol. O'r strwythur graddio a nodir isod (Ffigur 2) mae 64.38% o'r staff benywaidd a 55.47% o'r staff gwrywaidd yn cael eu cyflogi ar radd 4, felly mae'r cyflog ar gyfer yr aelod canolrifol o staff gwrywaidd a benywaidd yr un peth. Mae ein darpariaeth gwasanaeth craidd yn cynnwys rhoi cyngor a chyfarwyddyd arweiniad gyrfaoedd felly mae’r canran uchaf o'n staff, yn seiliedig ar swydd benodol, yn gynghorwyr gyrfaoedd gradd 4.
| Gradd | Cyfanswm staff 2023 | Cyfanswm staff 2022 | Nifer y menywod 2022 | Nifer y menywod 2023 | Nifer y dynion 2022 | Nifer y dynion 2023 |
| 1 | 34 | 39 | 28 | 32 | 6 | 7 |
| 2 | 54 | 48 | 42 | 37 | 12 | 11 |
| 3 | 25 | 50 | 18 | 38 | 7 | 12 |
| 4 | 392 | 357 | 311 | 279 | 81 | 78 |
| 5 | 31 | 30 | 22 | 20 | 9 | 10 |
| 6 | 54 | 53 | 31 | 31 | 23 | 22 |
| 7 | 27 | 27 | 23 | 23 | 4 | 4 |
| 8 | 7 | 8 | 4 | 5 | 3 | 3 |
| 9 | 3 | 2 | 3 | 0 | 0 | 0 |
| 10 | 1 | 1 | 1 | 0 | 0 | 0 |
| Total | 628 | 615 | 483 | 468 | 145 | 147 |
Chwartelau Cyflog
Yn hanesyddol, menywod sy'n darparu cyngor gyrfaoedd yn bennaf, a bydd yn cymryd peth amser i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn. Nid yw'r ganran uchel o fenywod o gymharu â dynion yn golygu na allwn ni gyrraedd cydraddoldeb cyflog. Yr hyn sy’n bwysig er mwyn sicrhau tegwch yw cyfran y staff sy’n cael eu seilio ar gymhariaeth chwartel i chwartel. Y gymhareb o aelodau staff benywaidd i aelodau staff gwrywaidd yw 7:23 ar gyfer y cwmni yn ei gyfanrwydd, mae hyn wedi cynyddu o 75:25 yn 2021. Fodd bynnag, yn y sefydliad cyfan mae menywod mewn 71.34% o swyddi'r chwartel uchaf, gan arwain at fwlch cyflog rhywedd o 1.6%.
| Chwartelau cyflog | Benywaidd 2023 | Gwrywaidd 2023 | Benywaidd 2022 | Gwrywaidd 2022 |
| Uchaf | 71.34 | 28.66 | 70.16 | 29.87 |
| Canol uchaf | 78.34 | 21.66 | 78.57 | 21.43 |
| Canol isaf | 77.71 | 22.29 | 79.22 | 20.78 |
| Chwartel isaf | 79.75 | 20.25 | 76.77 | 23.23 |
Strwythur Cyflog
- Mae'r Cwmni wedi negyddu effaith rhywedd ar gyflogau trwy roi pob gweithiwr ar yr un pwynt ar y raddfa gynyddrannol, heb wahaniaethu cyflog rhwng gwaith o werth cyfartal a symud pob gweithiwr trwy'r pwyntiau cynyddol ar gyfnodau cyfartal
- Mae gweithwyr newydd neu weithwyr sy'n symud i'r strwythur gradd cyflog bob amser yn dechrau ar bwynt cynyddrannol cyntaf y radd ar gyfer eu rôl
- Nid oes tâl ar sail oed
- Mae'r graddfeydd cynyddrannol yn fyr, a'r pwynt uchaf yn cael ei gyrraedd mewn 4 blynedd
- Nid oes pwynt cyflog o dan yr isafswm cyflog
- Nid oes unrhyw fonysau
- Ni chaiff unrhyw drafodaethau unigol eu gwneud
- Mae gweithwyr yn camu ymlaen yn awtomatig trwy'r raddfa gynyddrannol ar ddyddiad eu penodiad bob blwyddyn nes iddynt gyrraedd y gyfradd uchaf ar gyfer eu rôl. Nid yw hyn yn agored i drafodaeth ac nid yw'n gysylltiedig â pherfformiad
- Nid yw cynnydd yn cael ei atal gan absenoldeb sy'n gysylltiedig â theulu (mabwysiadu/mamolaeth/tadolaeth etc.)
- Nid yw cynnydd yn cael ei effeithio gan gyfnodau o absenoldeb sy'n gysylltiedig â salwch chwaith
- Mae gan rai rolau raddau penodol i hyfforddeion lle nad oes modd symud ymlaen i’r radd person cymwys nes bod y cymhwyster gofynnol wedi'i gyflawni
- Mae'r raddfa yn llinol ac nid oes ganddi raddfeydd gwahanol ar gyfer rolau corfforaethol/cyflenwi/technegol
- Mae taliad cyfartal yn cael ei wneud am waith o werth cyfartal yn ôl gwerthusiad annibynnol
- Mae yn gwneud cynnydd i fyny'r raddfa yn digwydd trwy gais cystadleuol ar gyfer swyddi dyrchafiad
- Mae trefn apelio ar gael i unigolion neu grwpiau
Explore
Gwybod mwy am Gyrfa Cymru, beth rydym yn ei wneud, ein polisïau a gweithio i ni.
Gwybod mwy am ein gwaith, y prosiectau rydym yn eu cefnogi a'r partneriaid rydym yn gweithio gyda hwy.
Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth