Cynhaliwyd y prosiect peilot ar gyfer y sgwrsfot Cari ym mis Medi 2026. Mae Cari mae'n methu yn erbyn nifer o feini prawf WCAG 2.2 lefel A ac AA.
Labeli ac enwau
Nodwyd y problemau canlynol:
- Nid yw labeli rhai enwau yr un fath â'r enwau hygyrch, felly ni all defnyddwyr sy’n rheoli gyda llais actifadu’r swyddogaethau, er enghraifft 'Dechrau sgwrs', 'Ynglŷn â'r sgwrs' a 'teipiwch eich neges'
- Mae rhai labeli ARIA yn anghywir, felly efallai na fydd meddalwedd y rhaglen darllen sgrin yn canfod yr ystyr
- Mae'r label Beta wedi ei farcio fel pennawd yn anghywir
- Nid yw'r botwm ‘Darllen mwy’ yn diweddaru i gyd-fynd â'i label gweladwy pan gaiff ei ehangu
- Nid oes gan yr eicon ‘Anfon neges’ ddewis testun amgen
- Mae angen i labelu ARIA fod yn gyson â'r enw ac yn enw y gall pobl ei ddarllen
- Mae’r enw ‘Cyn i ni ddechrau’ ar y ffenestr sgwrsio yn darllen yr holl gynnwys, gan ei gwneud hi’n aneglur sut i lywio
- Mae cyhoeddiadau'n cael eu gwneud ddwywaith ar gyfer pob neges
- Mae'r dangosydd llwytho 'bot yn teipio' yn ymddangos heb neges statws Dylai gyhoeddi i ddarllenwyr sgrin bod y bot yn teipio
Cyferbyniad lliw
Nodwyd y problemau canlynol:
- Nid oes gan y dangosydd ffocws dotiog ddigon o gyferbyniad lliw yn erbyn ei gefndir
- Nid oes gan rai ardaloedd ddigon o gyferbyniad rhwng y testun a’r cefndir
- Nid oes gan yr eicon ‘Anfon neges’ ddewis testun amgen
- Mae angen i labelu ARIA fod yn gyson â'r enw ac yn enw y gall pobl ei ddarllen
- Nid oes gan ddolenni a botymau ddigon o gyferbyniad lliw
- Nid oes gan y testun gwall 'methu cysylltu' ddigon o gyferbyniad lliw
Trefn Ffocws
Nodwyd y problemau canlynol:
- Mae actifadu 'Dechrau sgwrs' yn symud y ffocws i'r botymau opsiwn ateb ac yn colli cynnwys y neges
- Mae dewis 'Na, rydw i eisiau parhau â'r sgwrs' yn achosi i'r ffocws ddychwelyd i frig y dudalen
Chwyddo a maint testun
Nodwyd y problemau canlynol:
- Mae rhan uchaf ffenestr y sgwrsfot yn cael ei thorri i ffwrdd wrth chwyddo y tu hwnt i 150%
- Pan addasir bylchau testun i safonau WCAG, mae rhan o'r botwm ‘Dechrau sgwrs’ yn cael ei thorri i ffwrdd
Mae'r materion hygyrchedd hyn wedi'u codi, a bydd amserlen ar gyfer eu datrys yn cael ei rhoi ar waith.