Mae gennym ni 2 dîm sy’n gweithio gyda staff mewn ysgolion a lleoliadau i ddatblygu’r modd y darperir gyrfaoedd yn y cwricwlwm.
Cydlynwyr Cwricwlwm
Mae Cydlynwyr Cwricwlwm yn gweithio gyda phob ysgol uwchradd, ysgol arbennig, unedau cyfeirio disgyblion (UCD), a cholegau addysg bellach ledled Cymru. Mae gan ein tîm wybodaeth arbenigol am addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith a gyrfaoedd a’r byd gwaith (GBG). Gallant gynnig ymgynghoriaeth, hyfforddiant ac adnoddau i'ch cefnogi. Cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gallwn weithio gyda'ch ysgol neu goleg.
Partneriaeth Addysg Busnes (PAB)
Mae PAB yn wasanaeth sydd ar gael i bob ysgol uwchradd, ysgol arbennig ac UCD. Ei nod yw dod ag ysgolion a busnesau ynghyd i hysbysu, ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc am eu cyfleoedd gyrfa.
Dysgwch fwy am ein PAB a chymorth cyflogwyr i ysgolion neu gallwch gysylltu â'n Tîm Busnes Addysg i ddarganfod sut y gallwn weithio gyda chi.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dysgwch am y pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith a sut y gall eich helpu.
Trosolwg o wybodaeth am y farchnad lafur, sut y gall gefnogi eich myfyrwyr a ble i ddod o hyd i GML cyfredol.
Dod o hyd i adnoddau defnyddiol i gefnogi addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith.