Mae cyflogwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl ifanc i ddysgu am y byd gwaith.
Pam cysylltu ag ysgolion?
Sut mae cyflogwyr yn elwa
Gall gweithio gydag ysgolion helpu cyflogwyr i:
- Godi ymwybyddiaeth o'u busnes neu eu sector nhw
- Ddarparu mewnwelediad ac ysbrydoliaeth i ddylanwadu ar ddarpar weithwyr yn y dyfodol
- Rwydweithio gyda busnesau eraill
- Ddarparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol i staff
- Gefnogi cyflawniad nodau cymunedol
Sut mae dysgwyr yn elwa
Gall cwrdd â chyflogwyr ddod â phwnc yn fyw a rhoi gwell dealltwriaeth o sut mae'r pwnc hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn y gweithle.
Gall gweithgareddau cyflogwr helpu dysgwyr i:
- Ddatblygu sgiliau ymwybyddiaeth, hyder a chyflogadwyedd
- Anelu'n uchel a chroesawu dysgu gydol oes
- Gydnabod cyfleoedd sydd ar gael iddynt
- Ddeall pwysigrwydd gwytnwch a hyblygrwydd
- Fod yn ymwybodol o werth sgiliau Cymraeg
Cwricwlwm newydd i Gymru
Mae yna Gwricwlwm newydd i Gymru i bob dysgwr rhwng 3 a 16 oed. Dechreuodd y cwricwlwm newydd ym Medi 2022. Bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob disgybl ysgol uwchradd erbyn y flwyddyn academaidd 2026/27.
Rhaid i ysgolion gynnwys gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar draws y cwricwlwm newydd. Mae gweithgareddau gyda chyflogwyr yn un o'r ffyrdd y gall ysgolion ddarparu'r cyfleoedd dysgu hyn i'w dysgwyr.
Mae gwybodaeth i fusnesau am sut mae addysg yn newid ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Astudiaethau Achos Cyflogwr
Mae Canolfan S4C Yr Egin yn ganolfan greadigol a digidol yn Sir Gaerfyrddin. Maent yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, ac yn amlygu’r ffaith ei bod yn sgìl gwerthfawr i gyflogwyr.
Mae Morlais yn brosiect ynni adnewyddadwy sy’n canolbwyntio ar ynni’r llanw. Maent yn gweithio gydag ysgolion i dynnu sylw dysgwyr at swyddi a chyfleoedd i bobl leol.
Cwmni gwresogi a phlymio ym Mhontardawe yw Westward Energy Services. Maen nhw wedi cefnogi pobl ifanc trwy brofiad gwaith, gan gynnig sgiliau gwaith defnyddiol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio ledled Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Maent yn ysbrydoli pobl ifanc i archwilio cyfleoedd ym maes gofal iechyd a’r GIG.
Darllenwch fwy o astudiaethau achos cyflogwyr ar straeon go iawn.