Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Wythnos Gwyddoniaeth Prydain 2020

"6-15 Mawrth Wythnos Gwyddoniaeth Prydain 2020"

Mae'n Wythnos Wyddoniaeth Prydain, felly beth am ymchwilio i swyddi sy'n defnyddio gwyddoniaeth? Oes gennych chi ddiddordeb mewn newid yn yr hinsawdd? Allech chi gyfrannu at ddod o hyd i frechlyn ar gyfer clefyd newydd? Yna gallai swydd sy'n ymwneud â gwyddoniaeth fod yn addas i chi. Mae mwy i swyddi mewn gwyddoniaeth nag y byddech chi'n ei ddisgwyl...

Oes gennych chi ddarlun o swydd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth fel person mewn cot wen yn syllu drwy ficrosgop? Mae llawer mwy i swyddi ym maes gwyddoniaeth na gweithio mewn labordy. Mae swyddi sy'n ymwneud â gwyddoniaeth i'w cael mewn sawl math o ddiwydiant. Gallech fod yn gweithio yn y maes:

  • Iechyd - swyddi fel Patholegydd, Gwyddonydd Biofeddygol a llawer o rolau eraill
  • Cyfryngau - swyddi ym maes Ymchwil wyddonol ar gyfer rhaglenni ar Seryddiaeth, Archeoleg a llawer o feysydd eraill
  • Elusennau - swyddi ym maes ymchwil canser, ymchwil i glefyd y galon a llawer o rai eraill
  • Prifysgolion - swyddi ym maes darlithio neu ymchwil
  • Gweithgynhyrchu - swyddi ym mhob math o feysydd fel cwmnïau lled-ddargludyddion cyfansawdd, diwydiant bwyd ac eraill
  • Adeiladu - swyddi fel Ecolegydd, Daearegwr a rolau eraill
  • Cadwraeth - swyddi fel Gwyddonydd Amgylcheddol, Archeolegydd ac eraill
  • Ffermio - swyddi fel Gwyddonydd Amaethyddol, Gwyddonydd Pridd ac eraill

Y 5 prif swydd yn gysylltiedig â gwyddoniaeth a hysbysebwyd yng Nghymru  yn 2019

Yn y flwyddyn 20019 yng Nghymru y prif swyddi Gwyddoniaeth ac Ymchwil a hysbysebwyd (Labour Insights 2020) oedd:

Swyddi a fydd yn defnyddio gwyddoniaeth yn y dyfodol

Edrychwch ar ein cipolwg ar y swyddi a fydd yn defnyddio gwyddoniaeth yng Nghymru erbyn 2025.

Y twf uchaf o ran % yng Nghymru erbyn 2025

Rhagwelir y bydd gan y swyddi canlynol sy'n defnyddio gwyddoniaeth rywfaint o'r twf uchaf o ran % yng Nghymru erbyn 2025:

Cyfleoedd swyddi a ddisgwylir erbyn 2025

Rhagwelir y bydd y nifer fwyaf o gyfleoedd ar gael yn y swyddi canlynol yng Nghymru erbyn 2025:

Canolbwyntiwch ar Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Beth am ystyried gyrfa mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd?

Defnyddir lled-ddargludyddion cyfansawdd mewn ffonau smart, ceir, lloerennau cyfathrebu, WIFI, teganau plant a llawer o ddyfeisiau a theclynnau electronig eraill rydyn ni'n eu defnyddio bob dydd.

Bydd llawer o ddatblygiadau newydd a rhai’r dyfodol fel ceir trydan, technoleg gwisgadwy, a chelloedd solar i'w defnyddio yn y gofod yn cynnwys lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Mae llawer o wyddoniaeth yn ymwneud â chreu lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Gallech chi fod yn rhan o ddatblygu technoleg newydd ar gyfer y dyfodol os ymunwch â'r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Gallai buddsoddiad sydd wedi'i gynllunio mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru greu hyd at 5,000 o swyddi yn ardal De Cymru erbyn 2025. (ffynhonnell: Compound Semiconductor Centre Limited)

Darllenwch fwy am y digwyddiadau a'r gweithgareddau sy'n digwydd yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain yn Science Live. (Dolenni Saesneg yn unig)

Efallai i chi hefyd hoffi