Darganfu Chanelle lwybr newydd i fusnes drwy brentisiaeth
Mae Chanelle yn byw yn Wrecsam. Wrth iddi baratoi ar gyfer ei harholiadau TGAU, roedd hi'n ansicr ynglŷn â’r hyn i'w wneud nesaf. Nid oedd ganddi syniad clir o'i gyrfa yn y dyfodol.
Dywedodd, “Cyn i mi gael cymorth, doedd gen i ddim syniad o gwbl beth roeddwn i am ei wneud. Dewisais opsiynau roeddwn i'n eu mwynhau, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i am ei wneud yn yr hirdymor.”
Darganfod diddordeb mewn busnes
Clywodd Chanelle am Gyrfa Cymru drwy ei hysgol. Cafodd ei chyfeirio at Ryan, cynghorydd gyrfa, am gymorth. Gyda'i gilydd, fe wnaethon nhw drafod y gwahanol opsiynau sydd ar gael ar ôl ysgol.
Dywedodd Chanelle, “Gofynnodd Ryan i mi beth oedd fy niddordebau a pha opsiynau a ddewisais i. Helpodd hynny i fy nhywys tuag at wahanol opsiynau yn seiliedig ar yr hyn roeddwn i'n ei fwynhau.
“Dysgais i fwy am yrfaoedd mewn busnes. Cyfeiriodd Ryan fi at swyddi mewn busnes a chyrsiau yn y coleg a allai fod o ddiddordeb i mi.”
Darganfod prentisiaethau
Un o'r opsiynau a drafododd Ryan â Chanelle oedd prentisiaethau.
Dywedodd Chanelle, “Siaradodd â mi am brentisiaethau, ac fe helpodd hynny’n fawr oherwydd doeddwn i wir ddim yn gwybod llawer amdanyn nhw o’r blaen.”
Po fwyaf y dysgodd Chanelle, y mwyaf yr hoffai hi'r syniad o ennill profiad yn y gweithle wrth barhau i ddysgu. Fe wnaeth cymorth Ryan ei helpu i archwilio'r llwybr hwn ymhellach a gwneud cais am gyfleoedd.
Cymryd y cam nesaf
Mae Chanelle bellach wedi sicrhau prentisiaeth gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Dywedodd, “Rwy’n llawn cyffro. Petawn i ddim wedi siarad â Ryan, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi mynd am rôl prentisiaeth. “Mae cael cymorth yn agor mwy o ddrysau.”
Mae Chanelle yn edrych ymlaen at ennill profiad yn y gweithle a datblygu ei sgiliau mewn amgylchedd busnes.
Teimlo'n hyderus am y dyfodol
Dywedodd Chanelle, “Rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus bellach. Rydw i'n gwybod beth ydw i'n ei wneud, felly rydw i'n teimlo'n well ynof i fy hun.”
Mae hi hefyd yn annog pobl ifanc eraill a allai fod yn poeni am eu canlyniadau neu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol i aros yn bositif. Dywedodd Chanelle, “Allwch chi ddim ei newid, felly meddyliwch yn bositif a gweithiwch gyda'r hyn sydd gennych chi. Os na chewch y canlyniadau rydych chi eu heisiau, gallwch chi addasu.”
Ychwanegodd, “Helpodd Gyrfa Cymru fi’n fawr a byddwn i’n ei argymell i unrhyw un arall.”
Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.
Efallai i chi hefyd hoffi
Mae prentisiaeth yn swydd lle rydych chi'n ennill cymwysterau cydnabyddedig tra byddwch chi'n gweithio. Dysgwch am gymhwysedd, cyflog, gwybodaeth am hyfforddiant a'r amrywiaeth o brentisiaethau sydd ar gael.
Gwybod ble i chwilio am brentisiaethau, a sut i wneud y gorau o’ch cais.
Archwiliwch ein rhestr o gwmnïau mwy sy'n cynnig prentisiaethau yng Nghymru. Mae ystod eang o brentisiaethau gwag yn cael eu hysbysebu ar wahanol adegau o'r flwyddyn.