Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Jack E

Jack E

Cafodd Jack yr help i ddod o hyd i brentisiaeth mewn digwyddiad gyrfaoedd yn yr ysgol.

Mae Jack yn byw ger Crucywel. Wrth iddo baratoi i adael yr ysgol, roedd yn ansicr ynglŷn â beth i'w wneud nesaf.

Dod o hyd i lwybr ymarferol

Cyfarfu Jack â Vicky, cynghorydd Gyrfa Cymru yn ei ysgol. I ddechrau, fe wnaethon nhw edrych ar gyrsiau modurol yn y coleg.

Dywedodd, “Mae’n well gen i wneud gwaith ymarferol. Doeddwn i ddim yn hoffi bod yn eistedd o gwmpas. Roeddwn i’n teimlo na fyddai cwrs modurol yn y coleg wedi bod yn ddigon ymarferol i mi.” 

Roedd gan Jack ddiddordeb cryf eisoes mewn cynnal a chadw cyfarpar. Tyfodd hyn o'i brofiad o beiriannau ar fferm ei deulu.

O ddigwyddiad gyrfaoedd i brofiad gwaith

Mewn digwyddiad gyrfaoedd yn yr ysgol, cyfarfu Jack ag aelodau o dîm W.B.C. Plant Hire. Helpodd Vicky Jack i gadw mewn cysylltiad â'r cwmni ar ôl y digwyddiad.

Dywedodd, “Helpodd Vicky fi i ddod o hyd i’r unigolyn sy’n gyfrifol am brentisiaethau yn y cwmni a rhoi gwybod i’r person hwnnw fod rhywun â diddordeb. Cysylltais i â’r cwmni a dechreuodd y cyfan o'r fan honno.

"Helpodd Vicky fi i gael gafael ar fy lle yn y cwmni. Helpodd hi fi i gysylltu â'r bobl gywir a gwneud y broses gyfan yn llawer yn haws.”

Ymwelodd Jack â'r cwmni a chynigiwyd pythefnos o brofiad gwaith iddo. Yn ystod y lleoliad, fe wnaeth argraff ar y tîm gyda'i ethos gwaith, ei agwedd gadarnhaol a'i ddiddordeb yn y diwydiant. 

Pan orffennodd y lleoliad, cynigiwyd prentisiaeth iddo.

Mae Jack bellach wedi dechrau ar ei brentisiaeth (Lefel 2) Cynnal a Chadw Peiriannau. Mae ei astudiaethau ar Gampws Pencoed Coleg Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd, “O ddydd i ddydd, mae’n newid llawer. Efallai y byddaf i’n cynnal a chadw peiriannau ar rai dyddiau, ac ar ddyddiau eraill efallai y byddaf i’n gwneud rhywbeth mwy heriol. Mae gen i bobl yn helpu ym mhobman, ac mae'n braf cael newid.”

Edrych i'r dyfodol

Mae Jack bellach yn canolbwyntio ar gwblhau ei gymhwyster. Mae eisiau annog pobl ifanc eraill i ddod o hyd i rywbeth maen nhw'n ei fwynhau:

"Ceisiwch ddod o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb i chi. Weithiau mae'n anodd, ond dw i wedi dod o hyd i rywbeth sydd o ddiddordeb i mi ac rydw i'n ei fwynhau.”

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd â chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.

Archwiliwch

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth