Cymorth gyrfa yn helpu Kordy i ddewis y cwrs coleg cywir
Mae Kordy yn 16 oed ac mae’n byw yng Nghasnewydd. Pan oedd yn ei flwyddyn olaf yn yr ysgol, nid oedd yn siŵr beth i’w wneud ar ôl gadael.
Roedd gan Kordy ddiddordeb mewn gwneud cwrs drama neu gwrs coginio. Roedd yn gwybod bod angen iddo wneud penderfyniad ond roedd yn ansicr ynghylch pa opsiwn fyddai orau iddo.
Cyngor yn yr ysgol
Cafodd Kordy ei annog gan athro i siarad â Shawney, cynghorydd Gyrfa Cymru yn ei ysgol.
Eglurodd,“Roeddwn i’n siarad ag un o fy athrawon ynglŷn â sut doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud, ac fe awgrymodd Shawney.”
Cafodd sawl cyfarfod gyda Shawney i drafod ei opsiynau. Esboniodd sut mae coleg yn gweithio a gwahanol golegau y gallai wneud cais iddynt.
Dywedodd Kordy, “Helpodd hi fi i ddeall sut fyddai mynd i’r coleg ar ôl ysgol ac eglurodd bethau fel Lwfans Cynhaliaeth Addysg a pha gefnogaeth y gallwn i ei chael.”
Archwilio opsiynau
Gyda chymorth Shawney, archwiliodd Kordy opsiynau mynd i’r coleg ar gyfer y ddau ddiddordeb, actio a choginio.
Dywedodd, “Dywedais wrthi am y pethau oedd o ddiddordeb i mi, ac awgrymodd hi wahanol golegau a gwahanol ffyrdd o ddilyn y diddordebau hynny.”
Anogodd Shawney ef i fynd i nosweithiau agored ac i gael mwy o wybodaeth cyn penderfynu. Ar ôl bod mewn noson agored yng Ngholeg Gwent, sylweddolodd Kordy mai coginio oedd y dewis cywir iddo.
Teimlo’n hyderus am y dyfodol
Mae Kordy bellach yn astudio cwrs coginio proffesiynol yn y coleg.
Dywedodd, “Ar hyn o bryd rydyn ni tua 60 y cant drwy’r cwrs ac mae wedi bod yn hwyliog iawn. Rydw i wedi cwrdd â llawer o ffrindiau newydd, rydw i wedi bod yn cael graddau da iawn, ac rydw i wedi dysgu sut i goginio cymaint o bethau.”
Mae hefyd wedi ennill profiad ymarferol o weithio yn nhŷ bwyta’r coleg.
Ychwanegodd Kordy, “Rydw i wedi bod yn gweini pobl go iawn yn y bwyty ac yn coginio bwyd iddyn nhw hefyd.”
Dywed Kordy fod y gefnogaeth wedi ei helpu i deimlo’n hyderus ynghylch ei benderfyniad.
Mae’n bwriadu cwblhau ei gwrs a symud ymlaen i Lefel 2. Yn y dyfodol, hoffai redeg ei fwyty ei hun.
Cyfaddefodd, “Un o fy mreuddwydion yw i gael fy nhŷ bwyta fy hun.”
Cyngor i eraill
Mae Kordy yn annog pobl ifanc eraill sy’n teimlo’n ansicr ynghylch eu camau nesaf i ofyn am gefnogaeth.
Dywedodd, “Gwnaeth Shawney i mi deimlo’n hyderus ynof fy hun i fynd allan ac edrych ar gyrsiau. Hebddi hi, ni fyddwn i ddim lle rydw i nawr. Dw i’n gwneud yn wych ar y cwrs.”
Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa cysylltwch â ni heddiw.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Archwiliwch opsiynau dysgu a gyrfaoedd ar ôl eich TGAU.
Archwilio opsiynau ariannu ar gyfer cyrsiau yng Nghymru.
Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth