Cymorth gyrfa wedi helpu Maggie i droi hobi yn yrfa ar gyfer y dyfodol.
Mae Maggie yn byw yng Nghrucywel. Ar ôl cwblhau ei harholiadau TGAU, roedd hi’n teimlo’n ansicr am ei dyfodol.
Dywedodd, “Roeddwn i wir yn cael trafferth gyda fy nghamau nesaf. Roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi cyrraedd y pen draw braidd. Doeddwn i ddim eisiau mynd i brifysgol na choleg. Roeddwn i’n ystyried cael swydd."
Ar ôl cael ei hannog gan ei hathrawon, cyfarfu Maggie â chynghorydd Gyrfa Cymru, Vicky, i drafod ei hopsiynau.
Dod o hyd i gyfeiriad
Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw archwilio gwahanol opsiynau sy’n gysylltiedig â diddordebau Maggie. Drwy un sgwrs, cafodd Maggie ei chyflwyno i opsiwn nad oedd hi erioed wedi’i ystyried o’r blaen.
Dywedodd Maggie, “Dechreuais i wau pan oeddwn i’n 14 oed oherwydd roeddwn i’n hoffi Harry Styles yn fawr iawn ac fe welais i e’n gwisgo cardigan wedi’i gwau. Fe wnes i ei gwau bron yn syth ac fe wnes i fwynhau’n fawr iawn.
“Dywedodd Vicky wrtha i am Goleg Celfyddydau Henffordd oherwydd fy niddordeb mewn gwau. Es i i gwpl o ddiwrnodau agored ac fe wnes i fwynhau hynny’n fawr iawn. Fe agorodd fy llygaid ychydig.”
Ar ôl ymweld â’r coleg, penderfynodd Maggie wneud cais am le.
Dywedodd Maggie, “Helpodd Vicky fi gyda fy nghais i’r coleg a chefnogodd fi i ysgrifennu fy natganiad personol. Roedd hi’n wych, yn ddefnyddiol iawn."
Roedd Maggie wrth ei bodd i sicrhau lle yng Ngholeg Celfyddydau Henffordd.
Dywedodd, “Yn bendant, fe wnes i ddatblygu a dod yn berson llawer mwy hyderus yn y coleg.”
O hobi i radd
Daeth yr hyn a ddechreuodd fel diddordeb yn nod gyrfa clir yn fuan.
Dechreuodd Maggie edrych ar brifysgolion a oedd yn cynnig graddau gwau arbenigol. Ar ôl gwneud cais a mynychu diwrnodau agored, derbyniodd le ym Mhrifysgol Nottingham Trent.
Dywedodd Maggie, “Chwiliais ar-lein i weld a allech chi mewn gwirionedd wneud gradd mewn gwau. Roedd dau le yn y wlad yn ei gynnig ac fe wnes i ddewis Nottingham yn y diwedd. Cefais gynnig diamod.”
Gweld mwy o bosibiliadau
Wrth edrych yn ôl, mae Maggie yn teimlo’n llawer mwy cadarnhaol am ei dyfodol nag yr oedd pan gyfarfu â Vicky gyntaf.
Dywedodd, “Rwy’n teimlo bod llawer mwy o gyfleoedd i mi nawr. Rydw i wedi delio â phopeth yn eithaf da ac rydw i’n teimlo llai o dan bwysau gyda’r holl benderfyniadau hyn.”
Yn y dyfodol, mae Maggie yn gobeithio cyfuno ei hangerdd dros wau â’i huchelgais i redeg ei busnes ei hun.
Cyngor ar gyfer diwrnod canlyniadau
Mae Maggie eisiau i bobl ifanc gofio nad diwrnod y canlyniadau yw diwedd y daith.
Dywedodd, “Roeddwn i wir yn poeni ar ôl fy nghanlyniadau TGAU. Wnes i ddim pasio mathemateg, ond llwyddais i’w hailsefyll yn y coleg a phasio yno. Nid yw’n ddiwedd y byd os ydych chi wedi gwneud un neu ddau gamgymeriad.”
Ychwanegodd, “Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud, edrychwch i weld a oes cynghorydd gyrfa yn eich ysgol neu’ch ardal, a gallwch siarad ag oedolyn y gallwch chi ymddiried ynddo.”
Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd â chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.
Archwilio
Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.
Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.