Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Stori Tammi

Tammi

Gwnaeth cymorth helpu Tammi i gymryd y cam nesaf tuag at ddyfodol nad oedd hi erioed wedi meddwl oedd yn bosibl.

Pan oedd Tammi yn meddwl am ei dyfodol, nid oedd hi'n siŵr pa opsiynau fyddai ar gael iddi.

Mae gan Tammi anableddau dysgu ac anableddau corfforol. Dros y blynyddoedd, mae hi wedi cael cymorth gan Alison, y cynghorydd gyrfaoedd yn ei hysgol.

Archwilio gwahanol gyfleoedd

Drwy sesiynau un-i-un rheolaidd, mae Alison wedi cefnogi Tammi i archwilio opsiynau ar gyfer y dyfodol. Mae hi hefyd wedi ei helpu i ddatblygu ei hyder, ei sgiliau a'i hannibyniaeth.

Dywedodd Tammi, "Siaradodd Alison â mi am wahanol lwybrau. Fe wnaethon ni siarad am ddechrau yn y coleg a dysgu am wahanol sgiliau bywyd. Fe helpodd hi fi i feddwl am yr hyn sydd ei angen arnaf pan fyddaf yn gadael yr ysgol.”

Fel rhan o'r cymorth, gwnaeth Alison helpu Tammi i feddwl am gyfleoedd profiad gwaith. Gwnaeth ei hannog i archwilio gwahanol amgylcheddau.

Gyda'i gilydd, gwnaethon nhw drafod syniadau gyrfa, gan gynnwys gweithio fel cynorthwyydd addysgu. Gwnaethon nhw nodi cyfleoedd a fyddai’n ei helpu i ddatblygu sgiliau a phrofiadau newydd.

Meithrin ei dealltwriaeth a'i phrofiad

Dros y blynyddoedd, mae Tammi wedi cymryd rhan mewn sesiynau gyrfaoedd grŵp yn y dosbarth. Mae hi hefyd wedi cymryd rhan mewn cyfweliadau ffug ac ymweliadau â chyflogwyr. Mynychodd ddigwyddiad "Beth Nesaf?" Gyrfa Cymru, lle cyfarfu â darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr.

Mae'r gweithgareddau hyn wedi cefnogi ei dealltwriaeth o sgiliau cyflogadwyedd, addysg a chyfleoedd hyfforddiant. Maen nhw wedi helpu i’w chyflwyno i fyd gwaith.

Cwblhaodd Tammi leoliad profiad gwaith â chymorth yn yr ysgol hefyd. Yna aeth ymlaen i wneud lleoliad annibynnol y tu allan i'r ysgol eleni.

Yn edrych ar y coleg

Mae Tammi wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cyswllt coleg. Yn ystod y rhain, darganfu ddiddordeb arbennig mewn cyfryngau creadigol. Dechreuodd ystyried a allai cwrs coleg prif ffrwd amser llawn fod yn opsiwn. Ar y dechrau, roedd hyn yn teimlo fel cam mawr.

Dywedodd Tammi, “Gydag anabledd, roeddwn i'n meddwl na fyddwn i'n gallu ei wneud. Ond wrth siarad ag Alison, wnes i lwyddo i ddeall y cwrs cyfan. Roeddwn i'n teimlo'n fwy hyderus ynglŷn â mynd i goleg prif ffrwd."

Gyda chymorth Alison, cwblhaodd Tammi ei chais i'r coleg. Llwyddodd i gael lle ar gwrs cyfryngau Lefel 1 amser llawn.

Ychwanegodd Tammi, "Heb Alison, doeddwn i ddim yn gallu ei wneud ar fy mhen fy hun."

Helpu unigolyn ifanc i ddod o hyd i'w lais

I fam Tammi, Dawn, aeth y cymorth y tu hwnt i helpu gyda phenderfyniadau addysg a gyrfa. Gwelodd gynnydd mawr yn hyder ei merch a'i gallu i eirioli drosti ei hun.

Dywedodd Dawn: "Sgyrsiau un-i-un Tammi gydag Alison oedd y rheswm mewn gwirionedd. Fe wnaeth y sgyrsiau ei helpu hi i sylweddoli beth roedd hi'n meddwl ei bod hi'n gallu ei wneud ac eisiau ei wneud.

"Y rheswm yw’r amser a gymerodd Alison i ddeall Tammi ac anghenion Tammi a'r hyn y mae hi eisiau ei wneud."

Mae Dawn yn credu bod y ffaith bod rhywun yn gwrando ar Tammi ac yn ei deall wedi ei helpu i feithrin ei hyder. Mae wedi ei galluogi i siarad am faterion sy'n bwysig iddi a pharhau yn ei rôl fel llysgennad ieuenctid.

Dyfodol disglair

Mae Tammi bellach wedi dechrau cwrs cyfryngau Lefel 1 amser llawn yn y coleg. Mae hi'n llawn cyffro am ddechrau yn y coleg, ond mae hi'n cadw meddwl agored am y dyfodol.

Dywedodd, "Does dim rhaid i mi benderfynu ar y fan a'r lle. Gallaf benderfynu beth rydw i eisiau ei wneud."

Am y tro, ei ffocws yw parhau â'i hastudiaethau a chefnogi eraill.

"Cynrychioli pobl ag anableddau dysgu, dyna rydw i eisiau parhau i'w wneud. A bod yn fi fy hun, mewn gwirionedd, a pharhau â'r hyn rydw i eisiau ei wneud."

Wrth edrych yn ôl, mae Tammi yn dweud bod y cymorth wedi ei helpu i ddeall beth oedd yn bosibl. Rhoddodd yr hyder iddi wneud penderfyniadau am ei dyfodol.

Byddai Dawn yn annog rhieni eraill i archwilio'r cymorth sydd ar gael drwy Gyrfa Cymru.

Dywedodd, "Mae Alison wedi dangos yr holl lwybrau gwahanol sydd ar gael i'n pobl ifanc.

"I ni, mae hi wedi ein helpu i gredu bod unrhyw beth yn bosibl."

Os hoffech chi drafod eich diddordebau a’ch cyfleoedd gyda chynghorydd gyrfa, cysylltwch â ni heddiw.

Archwiliwch

Fy Nyfodol

Defnyddiwch Fy Nyfodol i gael gwybodaeth gyrfaoedd hawdd ei darllen. Dysgwch am wahanol swyddi. Cael help i archwilio eich syniadau gyrfa a phenderfynu ar eich camau nesaf.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth