Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Sut i wneud penderfyniadau gyrfa da

Gall fod yn anodd gwneud penderfyniadau pan fyddwch yn gwybod eu bod am effeithio eich dyfodol. Mae'r pecyn cymorth hwn ar wneud penderfyniadau yn awgrymu camau i’ch arwain trwy'r broses.

Mae angen i bob un ohonom wneud penderfyniadau a dewisiadau am ein gyrfaoedd ar wahanol adegau o’n bywydau. Gall y penderfyniad rydych chi’n ei wneud nawr effeithio ar eich llwybr gyrfa yn y dyfodol.

Nodi’r penderfyniad y mae angen i chi ei wneud

Dechreuwch drwy ysgrifennu beth yw’r penderfyniad y mae angen i chi ei wneud.

Y penderfyniad y mae’n rhaid i mi ei wneud yw...

Bydd hyn yn eich helpu i wneud popeth yn glir yn eich meddwl.

Rhaid i mi wneud fy mhenderfyniad erbyn...

Os oes rhaid i chi wneud y penderfyniad cyn rhyw ddyddiad penodol, nodwch y dyddiad hwnnw.

Rhaid derbyn na fydd unrhyw benderfyniad yn berffaith

Cofiwch nad yw'r rhan fwyaf o benderfyniadau gyrfa yn barhaol. Mae llawer o bobl yn newid gyrfaoedd, yn ennill cymwysterau newydd neu'n symud i swyddi gwahanol trwy eu hoes.

Dylech ganolbwyntio ar wneud y penderfyniad gorau gyda'r wybodaeth sydd gennych nawr.

Meddyliwch am eich hun

Pan fyddwch chi'n gwneud penderfyniadau am eich gyrfa yn y dyfodol, meddyliwch amdanoch chi eich hun a'r hyn sy'n bwysig yn eich bywyd.

Dyma fy mlaenoriaethau i...

Beth sydd bwysicaf i chi? Ai cyfleoedd am ddyrchafiad, cyflog, cydbwysedd gwaith-bywyd ynteu rywbeth arall?

Dyma fy ngwerthoedd i...

Beth sy'n bwysig i chi? Meddyliwch am gyrsiau a gyrfaoedd sy'n cyfateb â'ch gwerthoedd chi. Er enghraifft, os ydych chi'n poeni am yr hinsawdd, gallech chwilio am opsiynau sy'n helpu i'w diogelu.

Dyma fy niddordebau...

Weithiau gall eich diddordebau awgrymu i ba gyfeiriad y dylech fentro.

Fy mhrif sgiliau yw...

Gall y sgiliau rydych wedi’u hennill trwy fywyd, addysg, diddordebau a gwaith roi syniadau o ran beth hoffech ei wneud yn y dyfodol. Cymorth i adnabod eich sgiliau a'ch cryfderau.

Fy math personoliaeth yw...

Cymerwch y Cwis Buzz i weld pa fath o bersonoliaeth sydd gennych chi.

Fy hoff ffordd o ddysgu yw...

Efallai mai astudio yn yr ystafell ddosbarth sydd orau gennych chi, neu astudio ar-lein, neu gallwch ffafrio dysgu wrth weithio.

Dyma sut rwy’n gwneud penderfyniadau...

Gall gwybod sut rydych chi’n gwneud penderfyniadau eich helpu i osgoi camgymeriadau a gwella sut rydych chi'n gwneud penderfyniadau. Cymerwch ein Cwis Gwneud Penderfyniadau i ddysgu sut rydych chi’n gwneud penderfyniadau.

Dysgwch am yr opsiynau sydd ar gael i chi

Ystyriwch yr opsiynau sydd ar gael. Os nad ydych chi'n gwybod ble i ddechrau, gallwn helpu:

  • Mae Cynllunio eich Gyrfa yn cynnig opsiynau ar gyfer gwahanol gyfnodau bywyd, gan gynnwys pan fyddwch yn 16 a 18 oed, pan fyddwch eisiau newid gyrfa, yn cael eich diswyddo, yn dychwelyd i fyd gwaith, ac yn graddio
  • Gall y Cwis Paru Gyrfa eich helpu i ddod o hyd i yrfaoedd sy'n gweddu i'ch sgiliau a'ch diddordebau chi
  • Mae Gwybodaeth am Swyddi yn cynnig gwybodaeth fanwl am yr hyn sy'n gysylltiedig â gwahanol yrfaoedd, gan gynnwys cyflogau a'r cymwysterau a'r pynciau angenrheidiol
  • Mae Swyddi Dyfodol Cymru yn dweud wrthych pa swyddi sydd mewn galw yng Nghymru a'ch ardal leol
  • Gall Opsiynau pwnc Blwyddyn 9 eich helpu i benderfynu pa bynciau i'w cymryd os ydych chi'n dal yn yr ysgol
  • Cysylltwch â ni i gael sgwrs am eich opsiynau. Gall ein cyngoryddion gyrfa profiadol a chymwys roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i chi am eich camau nesaf a'ch opsiynau gyrfa

Rhestrwch fanteision ac anfanteision pob dewis

Gallwch lunio restr manteision ac anfanteision mewn gwahanol ffyrdd. Rhowch gynnig ar un neu rai o'r rhain ar gyfer yr opsiynau rydych chi'n eu hystyried:

  • Ysgrifennwch restr o'r manteision a'r anfanteision
  • Ystyriwch eich teimladau am bob opsiwn, rhowch y teimladau cadarnhaol ar yr ochr manteision, a’r teimladau negyddol ar yr ochr anfanteision. Er enghraifft, 'pryder' ar yr ochr anfanteision, a 'cyffrous' ar yr ochr manteision
  • Penderfynwch pa mor dda mae'r opsiynau yn cyd-fynd â'ch blaenoriaethau, eich gwerthoedd, eich diddordebau a’ch dull dysgu. Rhowch y rhai sy'n cyd-fynd â'r opsiwn ar yr ochr manteision, a'r rhai sy'n gwrthdaro ar yr ochr anfanteision
  • Meddyliwch am y pethau ymarferol. E.e. "a alla i fforddio'r opsiwn hwn?" ac "a alla i deithio yno ar drafnidiaeth gyhoeddus?"
  • Ystyriwch y cyfleoedd a'r risgiau. Er enghraifft, defnyddiwch Swyddi Dyfodol Cymru i weld pa swyddi sy’n boblogaidd yn awr a pha rai fydd yn boblogaidd yn y dyfodol
  • Gwiriwch eich ffeithiau. Ystyriwch "a yw hyn yn ffaith ynteu’n dybiaeth?"

Cyfyngwch ar eich opsiynau

Gall fod yn anodd cyfyngu ar eich opsiynau pan fyddwch yn ceisio penderfynu ar yrfa, pa gwrs neu bynciau i'w cymryd, neu’n ystyried a ddylech aros mewn addysg neu chwilio am swydd neu brentisiaeth:

  • Defnyddiwch eich rhestr manteision ac anfanteision i gael gwared ar opsiynau sydd â llawer o anfanteision, neu sy'n gwrthdaro â'ch gwerthoedd neu flaenoriaethau. Cofiwch nodi eich ymateb pan fyddwch chi'n tynnu opsiwn oddi ar y rhestr. Er enghraifft, os ydych chi'n teimlo'n ddrwg ei fod wedi'i ddileu, gallai hynny awgrymu y dylech ei ailystyried
  • Siaradwch â’ch teulu a phobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw am eich opsiynau. Ni ddylen nhw wneud y penderfyniad ar eich rhan, ond gallan nhw roi golwg newydd i chi ar eich dewisiadau
  • Ewch ati i drafod eich syniadau gydag arbenigwr fel cynghorydd gyrfa, neu athro (os ydych chi yn yr ysgol)

Dychmygwch eich hunan yn y dyfodol wedi dewis pob opsiwn. Gall hyn eich helpu i ystyried yr hirdymor wrth edrych ar eich opsiynau. Gofynnwch y canlynol am bob opsiwn:

Sut fydda i’n teimlo am yr opsiwn hwn mewn 10 munud?

Sut fydda i’n teimlo am yr opsiwn hwn mewn blwyddyn?

Sut fydda i’n teimlo am yr opsiwn hwn mewn degawd?

Gwnewch gynllun wrth gefn (rhag ofn)

Mae’n syniad da i wneud cynllun wrth gefn. Weithiau, ni fydd eich dewis cyntaf yn bosibl. Er enghraifft, gallai cwrs gael ei ganslo, efallai na fydd lle ar brentisiaeth, neu efallai y bydd eich amgylchiadau yn newid.

Bydd opsiwn wrth gefn yn golygu y byddwch chi'n barod os na fydd eich dewis cyntaf yn bosibl mwyach.

Gweithredu ar eich penderfyniad

Rydych chi wedi gwneud eich penderfyniad. Nawr, mae angen i chi weithredu arno. Er enghraifft, gallai hyn olygu ceisio am swydd, cofrestru ar gyfer cwrs neu ddewis eich pynciau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Gallai’r cam cyntaf fod mor syml â chysylltu â choleg neu brifysgol i ddysgu mwy am ddiwrnodau agored.

Y peth pwysicaf yw cymryd y cam cyntaf hwnnw.

Adolygwch eich cynnydd

Mae cynllun gyrfa da yn rhywbeth parhaus, mae’n fwy na dim ond un penderfyniad. Ar ôl i chi gymryd cam, meddyliwch am eich penderfyniad. Ystyriwch:

Beth rydw i wedi'i ddysgu?

A oes unrhyw beth y byddwn i wedi ei wneud yn wahanol?

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gemau gwneud penderfyniadau

Rhowch gynnig ar ein gemau gwneud penderfyniadau i ddysgu mwy am eich steil o wneud penderfyniadau, ac i wella eich sgiliau gwneud penderfyniadau.