Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Blwyddyn i ffwrdd

Blwyddyn i ffwrdd yw pan fyddwch yn cymryd seibiant ar ôl cwblhau astudiaethau yn y chweched dosbarth neu goleg. Ond gall unrhyw un eu cymryd ar unrhyw adeg o'u bywyd.

Gellir defnyddio blwyddyn i ffwrdd i ddatblygu sgiliau a phrofiad a gall eich galluogi i arbed arian. Gall eich helpu i benderfynu a pharatoi ar gyfer eich camau nesaf.

Dysgwch am flwyddyn i ffwrdd

Mae rhai enghreifftiau o sut y treulir blynyddoedd i ffwrdd yn cynnwys:

  • Profiad gwaith – gall cael profiad perthnasol helpu i benderfynu ar lwybr gyrfa. Gall hefyd eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o sut beth yw gyrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi. Mae'n ffordd dda o wneud cysylltiadau newydd, datblygu sgiliau a chwrdd â phobl newydd. Dysgwch fwy am sut i gael profiad
  • Teithio – teithio’r byd, cyfarfod â phobl newydd a phrofi pethau newydd. Gall teithio wella hyder a sgiliau annibyniaeth ond gall gostio arian
  • Gweithio – ennill arian. Gall hyn fod yn y DU neu dramor. Mae'n ffordd wych o brofi'r byd gwaith a datblygu sgiliau. Gallai ennill cyflog fod yn ffordd o arbed arian cyn i chi ddychwelyd i addysg
  • Gwirfoddoli – gallech wirfoddoli yn y DU neu dramor. Mae'n ffordd wych o gael profiad wrth helpu eraill. Dysgwch fwy am fanteision Gwirfoddoli
  • Cyrsiau neu ailsefyll - gall astudio cwrs neu ailsefyll eich helpu i adeiladu ar gymwysterau y gallai fod eu hangen arnoch ar gyfer eich camau nesaf

Ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i mi?

Meddyliwch am pam rydych chi'n ystyried blwyddyn i ffwrdd a beth rydych chi am gael allan ohoni. Beth bynnag eich rheswm bydd angen i chi gynllunio'ch blwyddyn i ffwrdd i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau ohoni.

Manteision cymryd blwyddyn i ffwrdd

Gallai rhai o fanteision cymryd blwyddyn i ffwrdd gynnwys:

  • Datblygu eich annibyniaeth a'ch aeddfedrwydd
  • Canolbwyntio mwy ar yrfa yn y dyfodol
  • Cyfle i weithio ac ennill arian i helpu gyda chost addysg uwch yn y dyfodol
  • Ennill profiad gwaith i'ch helpu i benderfynu ar lwybr gyrfa
  • Datblygu sgiliau pellach i ychwanegu at eich CV
  • Codi eich hyder trwy wneud pethau newydd fel cwrdd â phobl newydd, cael profiad o weithle neu gynllunio eich trefniadau teithio
  • Bydd teithio yn caniatáu ichi gwrdd â phobl newydd a chael profiad a dysgu pethau newydd
  • Gallai gwneud ffrindiau a chysylltiadau newydd fod o fudd i chi pan fyddwch chi’n chwilio am waith yn y dyfodol
  • Gorffwys ac adfer, felly pan fyddwch yn dychwelyd i addysg byddwch yn ffres ac yn barod i astudio
Anfanteision cymryd blwyddyn i ffwrdd

Gallai rhai o anfanteision cymryd blwyddyn i ffwrdd gynnwys:

  • I rai gall blwyddyn i ffwrdd fod yn rhy hir a gallai effeithio ar gynlluniau hirdymor
  • Gall ennill cyflog ei gwneud hi’n anodd dychwelyd i addysg gan y byddwch wedi arfer â threfn arferol a bod gennych arian
  • Oni bai ei fod wedi'i gynllunio'n ofalus gall blwyddyn allan gael ei gwastraffu
  • Mae rhai cynlluniau blwyddyn i ffwrdd yn costio arian er enghraifft, gall teithio fod yn ddrud yn dibynnu ar yr hyn y byddwch yn penderfynu gwneud. Gall hyn fod yn gost ychwanegol i ffioedd addysg uchel.
  • Gall newidiadau i gyllid myfyrwyr ddigwydd felly mae’n werth edrych i mewn i hyn cyn penderfynu ar flwyddyn i ffwrdd
     

Y pethau i'w hystyried cyn cymryd blwyddyn i ffwrdd

Defnyddiwch eich amser yn gall. Efallai y bydd cyflogwr eisiau gwybod beth wnaethoch chi yn ystod eich blwyddyn i ffwrdd. I gael y gorau o’ch blwyddyn i ffwrdd mae’n bwysig cynllunio.

Mae'n rhaid i chi ystyried pethau fel:

  • Costau
  • Yr hyn yr hoffech ei brofi yn ystod eich blwyddyn i ffwrdd
  • Pryd i wneud cais am brofiad gwaith
  • Pa mor hir rydych chi eisiau bod i ffwrdd o addysg
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n rhoi digon o amser i chi'ch hun i gynllunio.

Wrth gynllunio:

  • Gwnewch eich ymchwil os ydych chi’n bwriadu teithio. Darllenwch am y wlad a'u gofynion teithio cyn i chi gynllunio teithio. Dysgwch fwy am Cyngor teithio tramor ar - Foreign travel advice GOV.UK (www.gov.uk) (dolen Saesneg yn unig)
  • Ceisiwch siarad â rhywun sydd wedi bod ar flwyddyn i ffwrdd, chwiliwch am ysbrydoliaeth ar gyfryngau cymdeithasol a fforymau ac ymchwiliwch i'ch opsiynau yn llawn trwy edrych ar y gwefannau isod
  • Bydd rhai cwmnïau’n trefnu blwyddyn i ffwrdd i chi ond daw hyn am gost ychwanegol

Gohirio Mynd i’r Brifysgol - os ydych yn siŵr eich bod am fynd i'r Brifysgol ar ôl eich blwyddyn i ffwrdd, mae'n bwysig cysylltu â’r brifysgol o’ch dewis i esbonio'r gohiriad. Mae gan bob prifysgol ddulliau gwahanol o asesu. Edrychwch ar mynd i brifysgol.

Cyllid Myfyrwyr - gall cyllid myfyrwyr newid felly mae'n werth cael y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa bresennol cyn cynllunio blwyddyn allan cyn y brifysgol. Edrychwch ar Cyllid Myfyrwyr Cymru.



Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gwirfoddoli

Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill. 

Sut i gael profiad

Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad. Cewch wybod sut mae ei gael, gan gynnwys drwy brofiad gwaith, gwirfoddoli ac interniaeth.

Cael Swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr a mwy.