Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-16 Cymru

Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn a’n awyddus i barhau â'ch addysg a'ch hyfforddiant, mae amrywiaeth o ddarpariaethau y gallech chi ddewis o’u plith, gan gynnwys colegau, ysgolion, darparwyr hyfforddiant, a phrifysgolion.

I'ch helpu i ganfod beth sydd ar gael yn eich ardal chi, a ledled Cymru, rydym wedi coladu rhestr o ysgolion, colegau, a darparwyr hyfforddiant.

Darparwyr addysg rhanbarthol

Darparwyr addysg Cymru gyfan

Prifysgol

Mynd i brifysgol

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.

Cyllid i fyfyrwyr yn y brifysgol

Cyllid prifysgol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau Cyllid Myfyrwyr Cymru am ffioedd dysgu a chostau byw, sut mae ymgeisio ac ad-dalu. 

UCAS

Ewch i UCAS i chwilio am gyrsiau prifysgol. (Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i safle allanol)

Mynd i gyflogaeth

Efallai eich bod yn ystyried gadael addysg i chwilio am waith neu fod yn hunangyflogedig. Rhagor o wybodaeth:

Cael Swydd

Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr a mwy.

Gwefannau Swyddi

Defnyddiwch ein rhestr o wefannau swyddi poblogaidd i'ch helpu i chwilio am swydd.