Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Dysgu Cymraeg

Cymraeg. Mae'n perthyn i ni gyd."

Llywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth i filiwn o bobl allu mwynhau siarad a defnyddio'r Gymraeg erbyn 2050. Felly, mae’r amser yn berffaith i ddechrau dysgu. Dysgwch fwy am Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Ble i ddysgu Cymraeg

P'un ai ydych chi'n dechrau neu’n dymuno gwella eich Cymraeg, mae yna lawer o opsiynau. Gallech chi:

Rhai o fanteision dysgu’r Gymraeg

Mae gan lawer o lefydd yng Nghymru draddodiad cryf o siarad Cymraeg. Gall dysgu a siarad Cymraeg eich helpu i archwilio ac ymgysylltu â'ch cymuned leol. Gallwch fwynhau rhaglenni teledu, radio, chwaraeon, cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg.

Dyma beth sydd gan rai dysgwyr Cymraeg i'w ddweud am eu profiad nhw o ddysgu’r iaith:

Dechreuais ddysgu Cymraeg 4 blynedd yn ôl mewn dosbarthiadau nos i oedolion. Mae'n deimlad gwych symud ymlaen o adnabod ambell air ar y teledu neu'r radio i allu deall cryn dipyn o'r hyn sy'n cael ei ddweud. Mae wedi bod yn wych cwrdd â dysgwyr eraill yng Nghymru a thu hwnt - mae'n gymuned hyfryd i fod yn rhan ohoni."

Sam, Caerffili

Dechreuais ddysgu Cymraeg oherwydd roedd yn bwysig i mi deimlo'n gysylltiedig â'm gwreiddiau. Bydd fy mab yn mynd i ysgol Gymraeg hefyd, felly hoffwn i siarad Cymraeg gydag ef a'r ysgol. Mae’n mynychu meithrinfa Gymraeg ar hyn o bryd ac mae fy ngwersi Cymraeg wedi fy helpu i ddefnyddio’r iaith wrth sgwrsio bob dydd gyda’r feithrinfa."

Fiona, Sir Gaerfyrddin
 

Y Gymraeg yn y gweithle

Siarad Cymraeg yn y gweithle

Gall meddu ar sgiliau Cymraeg arwain at fwy o gyfleoedd gwaith oherwydd:

  • Mae rhai swyddi a hysbysebir yng Nghymru yn aml yn gofyn am y Gymraeg fel sgil hanfodol neu ddymunol
  • Rhaid i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn annog gweithwyr i ddysgu Cymraeg drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
  • Gall sgiliau’r Gymraeg fod yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi mewn sectorau fel Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol, Addysg, Gwasanaethau Cyhoeddus a'r diwydiannau Creadigol
  • Bydd angen i bobl siarad neu fod yn barod i ddysgu lefel ‘cwrteisi’ sylfaenol o’r Gymraeg i gael swyddi gyda Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn annog pob aelod o staff i ddysgu drwy raglenni hyfforddi

Mae siarad a chysylltu â chydweithwyr a chwsmeriaid yn eu hiaith gyntaf yn bwysig. Nodwyd gan Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2019:

  • Roedd 80% o siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg ag o leiaf rhai o’u cydweithwyr a oedd yn siarad Cymraeg
  • Roedd 93% o weithwyr Cymraeg rhugl yn siarad rhywfaint o Gymraeg gyda phobl y tu allan i'w sefydliad

Darllenwch rai o’r blogiau mae cyflogwyr fel Boots a’r Principality wedi’u hysgrifennu am gael cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg gan Comisiynydd y Gymraeg am gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yn y Gymraeg. Edrychwch ar flogiau Cynnig Cymraeg ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.

Cymorth i gyflogwyr

Edrychwch ar rai o'r gwahanol ffyrdd y gall cyflogwyr gefnogi eu gweithwyr i ddysgu Cymraeg:

  • Mae Cymraeg Gwaith yn rhaglen sydd wedi'i chynllunio i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae Cymraeg Gwaith yn cynnig hyfforddiant amrywiol, hyblyg sydd wedi ei ariannu'n llawn. Dysgwch fwy ar Cymraeg Gwaith Work Welsh ar wefan Dysgu Cymraeg.
  • Mae Helo Blod yn wasanaeth cyfieithu a chynghori Cymraeg cyflym a chyfeillgar sy’n cynnig cyfieithu Cymraeg yn rhad ac am ddim i’ch busnes. Mynnwch gip ar wefan Helo Blod ar Fusnes Cymru.
  • Mae’r Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth gan y Comisiynydd a roddir i sefydliadau sy'n parchu'r iaith Gymraeg drwy gynnig gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg i'r cyhoedd. Cewch wybod mwy am y Cynnig Cymraeg ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.

Gwyliwch y fideo

Cymraeg yn y gweithle

Gwyliwch y fideo i wybod mwy am Cymraeg yn y gweithle a sut mae'r Gymraeg yn cael ei ystyried fel sgil.


 

 

Dangos trawsgrifiad

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Chwilio am Gwrs

Defnyddiwch ein chwiliad cyrsiau i ddod o hyd i gwrs sy'n iawn i chi. Mae'n cynnwys cyrsiau rhan-amser, cyrsiau byrion a dysgu yn y gymuned. (Saesneg yn unig)

Dysgu o bell ac ar-lein

Cewch wybod am astudio gartref ac yn eich amser eich hun. Cewch wybod am fanteision ac anfanteision, a ble mae canfod cyrsiau.