Os mai cael swydd a cychwyn weithio yw'r hyn yr hoffet ti ei wneud ar ôl gadael yr ysgol, mae'n rhaid i ti gynllunio ymlaen llaw.
Amseroedd pwysig yn ystod y flwyddyn
- Siarad gyda dy rieni neu ofalwyr am adael yr ysgol
- Gofyn i weld Cynghorydd Gyrfa yn yr ysgol i wybod mwy am hyfforddiant
- Dewch i wybod mwy am Chwilio am waith
Prif awgrym
Ceisia gael swydd neu leoliad gwirfoddoli rhan amser. Bydd hyn yn ffordd dda i wybod mwy am y byd gwaith.
Dylan, Cynghorydd Gyrfa
- Gwna yn siwr bod gennut CV yn barod i wneud cais am swyddi. Edrych ar y dudalen Ysgrifennu CV i gael mwy o wybodaeth
- Edrych ar wefannau swyddi i weld pa fath o swyddi sydd ar gael. Edrych ar Sut ydw i'n dod o hyd i swydd am fwy o wybodaeth
- Dewch i wybod mwy am Cefnogaeth Cyflogaeth a Mynediad at Waith i weld os y gallen nhw dy helpu. Gall eich Cynghorydd Gyrfa siarad mwy am hyn gyda ti. Edrych ar Dechrau gweithio i wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael mewn gwaith
Prif awgrym
Gofyn i deulu neu athro i edrych ar dy CV. Gallent edrych am gamsillafu ac awgrymu pethau i'w hychwanegu.
Jayne, Cynghorydd Gyrfa
- Mae gan Gyrfa Cymru Gynghorwyr Gyrfa Cymru'n Gweithio sy'n helpu pobl i chwilio am waith pan fyddant wedi gadael yr ysgol. Byddant yn cysylltu â ti i weld a oes angen cefnogaeth arnot
- Anfona dy CV allan i gwmniau
- Gwna gais am swyddi ar-lein neu holi cwmniau lleol i ofyn oes ganddyn nhw swyddi gwag. Edrych ar sut ydw i'n dod o hyd i swydd am help
Dewch i wybod mwy am chwilio a gwneud cais am swyddi ar Chwilio am waith.
Prif awgrym
Ysgrifenna lythyr i fynd hefo dy CV. Mae hyn yn helpu'r cyflogwyr wybod pa swydd wyt ti'n ymgeisio amdani. Edrych ar Ysgrifennu CV i wybod mwy.
Stephen, Cynghorydd Gyrfa
- Cysyllta gyda Gyrfa Cymru os yr hoffet ti siarad gyda un o'n Anogydd Cyflogadwyedd fydd yn gallu dy helpu i chwilio am waith
Prif awgrym
Gall Gyrfa Cymru dy helpu i chwilio am waith, dy gefnogi i ysgrifennu CV a ffurflen gais a dweud wrthyt am asiantaethau eraill fydd yn gallu dy helpu.
Ceri, Anogydd Cyflogadwyedd