Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Mae gan fy mhlentyn syniadau gyrfa clir

Os oes gan eich plentyn syniadau clir am yr yrfa yr hoffai ddilyn, dyma ambell syniad i'w helpu i gyflawni eu huchelgais.

Beth i ganolbwyntio arno

Y camau nesaf a'r gofynion mynediad.

Ydyn nhw wedi gwirio a oes angen iddyn nhw wneud pynciau penodol, neu gyflawni graddau penodol, ar gyfer cyrsiau sydd o ddiddordeb iddyn nhw? A oes ganddyn nhw’r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen? A ydyn nhw'n debygol o fodloni unrhyw ofynion mynediad?

Dechrau sgwrs

Dyma gwestiynau y gallech ofyn i ddechrau sgwrs:

  • Beth sy'n dy wneud yn gyffrous am yr yrfa hon?
  • Wyt ti'n adnabod unrhyw un sy'n gwneud y swydd hon er mwyn i ti gael sgwrs gyda nhw am fwy o wybodaeth?
  • Oes unrhyw beth a fyddai'n dy rwystro rhag cael y swydd fyddet ti’n dymuno’i chael? Beth?
  • Ydy'r cyfleoedd yn lleol? Os na, ble mae nhw? Fyddet ti’n hapus i symud?
  • Os nad yw pethau'n mynd yn ôl y bwriad, wyt ti wedi meddwl am unrhyw ddewisiadau eraill?

Offer i roi cynnig arni

Gwybodaeth am Swyddi

Defnyddiwch Gwybodaeth am Swyddi am wybodaeth fanwl am y swyddi mae'ch plentyn yn eu hystyried. Gallant ddod o hyd i’r:

  • Cyflog a’r oriau gwaith
  • Y cymwysterau, y sgiliau, a’r rhinweddau sydd eu hangen
  • Y galw yn y dyfodol
  • Cysylltiadau â ffynonellau gwybodaeth eraill ar gyfer y swydd neu'r diwydiant
  • Gwefannau swyddi perthnasol

Defnyddiwch wefannau swyddi i archwilio swyddi sy'n cael eu hysbysebu nawr. Bydd hyn yn eu helpu nhw i ddod o hyd i’r cyflog presennol, y galw, a lleoliad y cyfleoedd. 

Gall ddangos y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdano. Gall hyn helpu i adnabod meysydd datblygu os oes unrhyw fylchau.

Swyddi Dyfodol Cymru

Defnyddiwch Swyddi Dyfodol Cymru i archwilio rhai o ddiwydiannau pwysicaf Cymru. Gallwch hefyd ddod o hyd i swyddi a gwybodaeth sgiliau yn ôl rhanbarth ac awdurdod lleol. Dysgwch pa swyddi sydd eu hangen nawr ac yn y dyfodol.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi