Mae profiad perthnasol yn bwysig am ei fod yn dweud wrth gyflogwyr bod gennych y sgiliau a’r wybodaeth am y swydd maen nhw’n ei hysbysebu. Byddent yn fwy tebygol o ystyried eich cais.
Mae tri prif ffordd o gael profiad
Profiad gwaith yw ennill profiad o fywyd gwaith. Cewch wybod sut mae cael y profiad gwaith sydd ei angen arnoch i gael y swydd rydych am ei chael.
Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill.
Math o brofiad gwaith yw interniaethau i fyfyrwyr yn y brifysgol neu raddedigion. Maen nhw'n ffordd wych o gael profiad sy'n berthnasol i'ch gradd.
Archwilio ymhellach
Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd.
Rhwng 16 ac 19 oed? Hyfforddiant a phrofiad gwaith ar gael i'ch helpu i benderfynu ar eich dyfodol chi ar eich telerau chi.
Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.