Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Mae gan fy mhlentyn rai syniadau gyrfa

Os oes gan eich plentyn ychydig o syniadau gyrfa yn barod, mae hynny'n fan cychwyn da.

Beth i ganolbwyntio arno

Archwiliwch pam mae ganddyn nhw ddiddordeb yn y syniadau sydd ganddyn nhw. Ai diwydiant, rôl, math o waith neu weithle sy'n eu hysbrydoli nhw?

Bydd cael mwy o wybodaeth am swydd yn eu helpu nhw i benderfynu a yw'n rhywbeth y maent am ei wneud. Gallant ystyried a yw'n opsiwn realistig iddynt, unrhyw rwystrau a allai fodoli a sut y gallant eu goresgyn.

Os ydyn nhw'n darganfod mwy, a bod dal diddordeb gyda nhw, gallan nhw feddwl am yr hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud nesaf i roi'r cyfle gorau iddyn nhw lwyddo.

Dechrau sgwrs

Dyma gwestiynau y gallech eu gofyn i ddechrau’r sgwrs:

  • Beth hoffet ti ei wneud neu ei astudio nesaf?
  • Ble wyt ti’n gobeithio y gallai hynny arwain?
  • Pa swyddi neu feysydd wyt ti’n meddwl yr hoffet weithio ynddyn nhw?
  • Beth wyt ti’n ei wybod am y swyddi hynny a ble ddes ti o hyd i'r wybodaeth honno?
  • Beth fyddai angen i ti wybod am swydd i benderfynu os oes gennyt ddiddordeb yn y swydd honno?

Anogwch eich plentyn i feddwl am:

  • Y galw yn y dyfodol am y swyddi y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt
  • Y gystadleuaeth i gael swydd y mae nhw'n meddwl y bydden nhw'n hoffi
  • Lleoliad – ble mae'r cyfleoedd hynny? A fyddai angen symud neu deithio?
  • Cyflog
  • Patrwm gwaith - sut fyddai'ch plentyn yn teimlo am weithio gyda'r nos neu ar benwythnosau?
  • Cymwysterau, sgiliau, a llwybrau i mewn i rôl - ydy'r rhain yn ymddangos yn realistig?

Offer i roi cynnig arni

Gwybodaeth am Swyddi

Defnyddiwch Gwybodaeth am Swyddi i gael mwy o wybodaeth am unrhyw swyddi y mae'ch plentyn yn eu hystyried. Cewch wybodaeth am:

  • Sut i gael y swydd honno
  • Y sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen
  • Pynciau perthnasol
  • Swyddi cysylltiedig i’w harchwilio

Cwis Paru Gyrfa

Mae’r Cwis Paru Gyrfa yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Bydd yn cynnig rhestr o syniadau gyrfa sy'n gysylltiedig â sgiliau a diddordebau'ch plentyn. Dewch o hyd i syniadau gyrfa eich plentyn ar y rhestr. Oes yna rai eraill efallai nad ydyn nhw'n gyfarwydd â nhw yna gallwch chi'ch dau ddysgu mwy amdanyn nhw?

Swyddi Dyfodol Cymru

Defnyddiwch Swyddi Dyfodol Cymru i archwilio rhai o ddiwydiannau pwysicaf Cymru. Gallwch hefyd ddod o hyd i swyddi a gwybodaeth sgiliau yn ôl rhanbarth ac awdurdod lleol. Dysgwch pa swyddi sydd eu hangen nawr ac yn y dyfodol.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi