Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cyflogi pobl ifanc

Ni ellir cyflogi pobl ifanc yn amser llawn tan ar ôl iddynt gyrraedd eu dyddiad gadael ysgol gorfodol. Y dyddiad hwn, bob amser, yw’r dydd Gwener olaf ym mis Mehefin ym mlwyddyn academaidd eu pen-blwydd yn 16. Mae’r dyddiad gadael hwn hefyd yn berthnasol i bobl ifanc nad ydynt yn sefyll eu harholiadau TGAU (neu gywerth) a’r rheini a fydd yn cael eu pen-blwydd yn 16 yn ystod mis Gorffennaf neu fis Awst.

O dan 16

Mae rheolau caeth yn llywodraethu’r oriau y caiff plentyn eu gweithio a’r math o waith y gall plentyn ei wneud ar Gov.uk (dolen Saesneg).

  • Mae’n anghyfreithlon cyflogi plentyn o dan 13 oed, heblaw ei fod yn cymryd rhan mewn perfformiad, chwaraeon neu fodelu am dâl ac, mewn amgylchiadau felly, rhaid ichi gael trwydded perfformio plentyn
  • Ni cheir cyflogi plant 13 oed heblaw bod eich awdurdod lleol yn caniatáu hynny
  • Os yw’ch awdurdod lleol yn ei ganiatáu, efallai y cyfyngir ar yr oriau, yr amseroedd a’r mathau o waith. Efallai y bydd hyd yn oed angen trwydded waith plentyn arnoch

Bydd gan eich awdurdod lleol fwy o wybodaeth a chymorth.

Oriau gwaith

Ni all gweithwyr ifanc (dros oedran gadael ysgol ond o dan 18) weithio mwy nag 8 awr y dydd neu 40 awr yr wythnos. Mae gwybodaeth am seibiannau gorffwys i weithwyr ifanc (dolen Saesneg) ar wefan Gov.uk.

Mae’r oriau gwaith a ganiateir ar gyfer plant (y rhai sydd o dan yr oedran gadael ysgol gofynnol) yn dibynnu ar:

  • Oed y plentyn
  • Boed yn ystod y tymor, gwyliau ysgol neu'r penwythnos
  • Is-ddeddfau lleol

Mae gwybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru am yr oriau gwaith a ganiateir i blant
 

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r tâl lleiaf yr awr y gall bron pob gweithiwr ei hawlio’n gyfreithiol. Ni waeth pa mor fach ydych chi’r cyflogwr, bydd rhaid ichi dalu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Bydd cyfradd yr isafswm cyflog yn dibynnu ar oedran y gweithiwr ac a yw’n brentis ai peidio. Rhaid i weithwyr fod o leiaf oedran gadael ysgol i gael yr isafswm cyflog ac o leiaf 25 i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol.

Ceir yr wybodaeth ddiweddaraf am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, pwy sy’n gallu ei hawlio, a’r cyfraddau cyfredol,ar dudalen Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyflog Byw ar Gov.uk.

Cyflog cyfartal a Deddf Cydraddoldeb 2010

Fel cyflogwr, rydych hefyd yn gyfrifol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, am sicrhau bod menyw sy’n gwneud yr un gwaith â dyn, yn yr un gyflogaeth, yn cael cydraddoldeb o ran cyflog a thelerau ac amodau eraill. I gael gwybod rhagor, trowch at y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Iechyd a Diogelwch

Fel cyflogwr, neu berson hunangyflogedig, rydych yn gyfrifol am iechyd a diogelwch yn eich busnes. Rhaid i bob busnes gymryd y rhagofalon cywir i leihau risgiau peryglon yn y gweithle, ni waeth pa mor fach yw’r busnes.

I lawer o fusnesau, efallai na fydd angen ond addasiadau sylfaenol i ddarparu amgylchedd gwaith diogel. Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (dolen Saesneg) yn egluro’r camau ichi ac yn eich helpu i sicrhau eich bod wedi gwneud yr hyn sy’n angenrheidiol.

Bydd pobl ifanc (dolen Saesneg), yn enwedig y rheini sy’n newydd i’r gweithle, yn dod ar draws risgiau anghyfarwydd o’r swyddi y byddant yn eu gwneud ac o’r amgylchedd gwaith.

Gall risgiau allweddol godi i bobl ifanc wrth ddechrau’r gwaith oherwydd eu diffyg profiad neu aeddfedrwydd, a hwythau heb yr hyder i ofyn am help, neu heb wybod ble y gallant gael help. 



Efallai y byddech hefyd yn hoffi