Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Prentisiaethau - gwybodaeth i gyflogwyr

Mae cyflogi prentis yn ffordd gost-effeithiol i chi recriwtio staff newydd. Gallwch adeiladu gweithlu gyda'r sgiliau sydd eu hangen ar eich busnes.

Mae busnesau o bob maint yng Nghymru yn gymwys.

Mae gan Gymru ei rhwydwaith ei hun o ddarparwyr hyfforddiant dan gontract sy’n darparu ac yn gweinyddu prentisiaethau.

Y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru

Mae gan wefan Busnes Cymru wybodaeth am brentisiaethau i gyflogwyr.

Mae'r offer a'r wybodaeth yn cynnwys:

  • Ffurflen mynegi diddordeb
  • Manylion cyswllt ar gyfer darparwyr hyfforddiant Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru ledled Cymru
  • Pecyn cymorth i gyflogwr

Recriwtio prentis

Mae canllawiau recriwtio prentis ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'n cynnwys:

  • Y manteision
  • Cyllid a chymhwystra
  • Lefelau a fframweithiau prentisiaeth
  • Yr Ardoll Brentisiaethau
  • Sut i recriwtio – Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag

Hysbysebu prentisiaeth

Gall cyflogwyr ddefnyddio'r Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag i hysbysebu cyfleoedd prentisiaeth. Mae cyflogwyr sy'n cynnig prentisiaethau yn cael eu hannog i lanlwytho crynodeb o'u sefydliad. 

Prentisiaethau Gradd

Gall cyflogwyr gynnig prentisiaeth gradd mewn partneriaeth â phrifysgol yng Nghymru. Gallant fod mewn TG, peirianneg neu weithgynhyrchu uwch. Mae gan wefan Busnes Cymru wybodaeth am brentisiaethau gradd. Mae yna hefyd ffurflen mynegi diddordeb.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cyflogi pobl ifanc

Dysgu am reoliadau ar gyfer cyflogi pobl ifanc gan gynnwys oriau gwaith, oedran a chyflog.