Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Eisteddfod Genedlaethol 2026

Tri pherson ifanc ar liniaduron ar stondin Gyrfa Cymru

Dewch i weld Gyrfa Cymru yn Eisteddfod y Garreg Las, 2026.

Mae Gyrfa Cymru yn edrych ymlaen at weld pobl o bob oed yn ein stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol flynyddol fwyaf Cymru.

Bydd Eisteddfod 2026 yn Llandudoch, ger Aberteifi, Sir Benfro, o ddydd Sadwrn 1 Awst i ddydd Sadwrn 8 Awst 2026.

P’un a ydych chi’n ddisgybl ysgol gynradd, yn berson ifanc sy’n meddwl am eich opsiynau ar gyfer y dyfodol, yn rhiant, yn ofalwr, yn athro neu’n oedolyn sy’n chwilio am gymorth gyrfaoedd, dewch draw i’n gweld am sgwrs!

Ymwelwch â ni yn stondin 1003 - 1004 i fwynhau gweithgareddau hwyliog a rhyngweithiol a chael cymorth gyrfaoedd cyfeillgar sy'n addas ar gyfer bob oed. Gallwch:

  • Archwilio CrefftGyrfaoedd, ein byd gyrfaoedd Minecraft
  • Gwneud ein Cwis Buzz, cwis personoliaeth i ddarganfod pa anifail ydych chi fwyaf tebyg iddo
  • Chwarae ein gêm ‘Pa swydd ydw i?’
  • Profi eich sgiliau gyda’n gêm 'Career Pong'
  • Sgwrsio â’n tîm am yrfaoedd, opsiynau a chyfleoedd

Fe welwn ni chi yn yr Eisteddfod!

Yr iaith Gymraeg

P'un ai ydych chi'n rhugl, yn dysgu, neu'n newydd ddechrau, gall eich sgiliau Cymraeg eich helpu i sefyll allan a chael mwy o gyfleoedd. Mae bod yn ddwyieithog yn rhoi cyfleoedd i chi yn eich gyrfa ac yn gymdeithasol.

Dysgu Cymraeg

Darganfyddwch fanteision dysgu Cymraeg a ble i ddysgu Cymraeg yn eich ardal.