Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Astudio dramor

Gall astudio dramor dy helpu i gael profiadau newydd, archwilio'r byd ac ehangu dy ddysgu. Gallwch wneud hyn fel rhan o radd yn y DU neu drwy astudio am radd lawn mewn gwlad arall.

Manteision astudio dramor

Gall astudio dramor eich helpu i:

  • Ddatblygu hyder ac annibyniaeth
  • Gwella sgiliau cyfathrebu ac iaith
  • Profi diwylliant gwahanol
  • Datblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi

Mae gan UCAS wybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i benderfynu a yw astudio y tu allan i'r DU yn addas i chi (Dolen Saesneg yn unig).

Ffyrdd o astudio dramor

Bydd y dewis cywir yn dibynnu ar eich cwrs, ble rydych chi am fynd a pha mor hir rydych chi am astudio dramor. Edrychwch ar ganllaw cyflawn UCAS ar astudio dramor i gael gwybodaeth am astudio mewn gwahanol wledydd. (Doleg Saesneg yn unig).

Astudio dramor fel rhan o radd yn y DU

Mae llawer o brifysgolion yn y DU yn cynnig cyrsiau sy'n cynnwys cyfnod dramor. Gallai hyn gynnwys:

  • Tymor neu flwyddyn dramor
  • Cyfnewidfa astudio
  • Lleoliad gwaith

Fel arfer, byddwch yn gwneud cais am eich gradd yn y DU drwy UCAS. Bydd eich prifysgol yn egluro'r opsiynau astudio dramor sydd ar gael.

Os yw eich cyfnod dramor yn rhan o radd yn y DU, efallai y gallwch barhau i gael cymorth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru os ydych yn gymwys. Efallai y gallwch hefyd gael cymorth ychwanegol gyda chostau teithio, fisâu ac yswiriant meddygol drwy Grant Teithio Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Astudio gradd gyfan dramor

Efallai y byddwch yn dewis cwblhau eich gradd gyfan tu allan i'r DU.

Cynlluniwch yn ofalus, gan fod gan bob gwlad gostau, rheolau a phrosesau ymgeisio gwahanol. Edrychwch ar UCAS Astudio tu allan i'r DU:Ystyried eich opsiynau ac Ymgeisio i astudio tu allan i'r DU. (Dolenni Saesneg yn unig).

Bydd angen i chi wirio pethau fel:

  • Sut i wneud cais
  • Ffioedd cyrsiau a chostau byw
  • Rheolau fisa
  • Gofal iechyd ac yswiriant
  • Gofynion iaith
  • A fydd y cymhwyster yn cael ei gydnabod yn y DU
  • Pa gymorth ariannol sydd ar gael

Os byddwch yn dechrau ac yn cwblhau eich cwrs cyfan tu allan i'r DU, fel arfer ni allwch wneud cais am gyllid gan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Gwiriwch gyda'r brifysgol rydych chi'n gwneud cais iddi, gan y gallent gynnig ysgoloriaethau, bwrsarïau neu fathau eraill o gyllid.

Mae gan Prospects wybodaeth bellach am astudio dramor (Dolen Saesneg yn unig).

Cyllid ar gyfer astudio dramor

Mae’r cyllid sydd ar gael yn dibynnu ar ble rwyt ti’n astudio a’r math o gwrs neu leoliad rwyt ti’n ei wneud. Ar gyfer rhai cynlluniau, rhaid i dy ysgol, coleg neu brifysgol wneud cais am gyllid ar ran myfyrwyr. Edrycha ar Ysgoloriaethau, grantiau a bwrsariaethau: Cyllido lleoliad dramor ar wefan UCAS.

Gall cyllid for ar gael drwy: (Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig)

  • Cyllid Myfyrwyr Cymru – look at their Cymorth ychwanegol i fyfyrwyr sy'n astudio dramor
  • Dy brifysgol neu goleg
  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Taith - Rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru. Mae'n cefnogi dysgwyr a staff yng Nghymru i gymryd rhan mewn profiadau dysgu rhyngwladol, ac mae wedi cael ei ymestyn tan 2028
  • The Turing Scheme - Mae Cynllun Turing yn cefnogi cyfleoedd astudio a lleoliadau gwaith rhyngwladol. Ni all myfyrwyr wneud cais yn uniongyrchol, gan mai darparwyr addysg sy'n gwneud cais am gyllid
  • Erasmus+ - Gall rhai prifysgolion barhau i gynnig cyfleoedd Erasmus+ drwy bartneriaethau neu brosiectau. Gwiriwch gyda'ch prifysgol neu'ch coleg i weld a ydych yn gymwys

Beth gallwch chi ei wneud nesaf

Os ydych chi'n ystyried astudio dramor, dechreuwch drwy:

  1. Siarad â'ch ysgol, coleg neu brifysgol am yr opsiynau sydd ar gael
  2. Gwirio a yw'r cwrs sydd o ddiddordeb i chi yn cynnwys cyfnod dramor neu gyfnewid
  3. Canfod pa gyllid a chymorth y gallech eu cael
  4. Gwirio costau, rheolau fisa, gofal iechyd ac yswiriant
  5. Ymchwilio i'r wlad, y cwrs a chostau byw
  6. Ystyried sut y gallai astudio dramor gefnogi eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Blwyddyn i ffwrdd

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd. 

Mynd i brifysgol

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.