Mae Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, a gyflogir gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cymorth ymarferol i gyflogwyr ledled Cymru gyda chyflogi pobl anabl.
Mae Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn wasanaeth am ddim i bob cyflogwr ledled Cymru, ar gyfer cwmnïau o unrhyw faint.
Gall yr Hyrwyddwyr, gyda chefnogaeth Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, roi gwybodaeth, cyngor a chymorth ar y canlynol:
- Recriwtio cynhwysol
- Cymorth ariannol
- Gwneud addasiadau rhesymol
- Cefnogi gweithwyr presennol os ydyn nhw’n dod yn anabl neu'n datblygu cyflwr iechyd
Os ydych chi’n gyflogwr, a bod gennych ddiddordeb mewn cynyddu amrywiaeth eich gweithle, a'ch bod am gael gwybod mwy am y manteision a'r cymorth sydd ar gael i gyflogi pobl anabl, ewch i Busnes Cymru Cyflogaeth pobl anabl, neu e-bostiwch DPEC@llyw.cymru.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dysgu am reoliadau ar gyfer cyflogi pobl ifanc gan gynnwys oriau gwaith, oedran a chyflog.
Gwybod mwy am y cyllid i brentisiaethau yng Nghymru a sut i hysbysebu swyddi gwag.