Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 11 yng Nghymru 2025

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 15 neu 16 oed a oedd ym mlwyddyn olaf eu haddysg statudol, sef Blwyddyn 11 mewn ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig yn ystod blwyddyn academaidd 2024-2025. Roedd yr arolwg, a ddarparodd hynt y disgyblion hyn ar 31 Hydref 2025, yn ymwneud â 33,374 o ddisgyblion a oedd wedi gadael addysg orfodol yn 2025.

  • O'r garfan flwyddyn 11 yn 2025, roedd 51.6% (17,219 o unigolion) yn fechgyn a 48.3% (16,133 o unigolion) yn fenywod
  • Aeth y rhan fwyaf o’r garfan, 93.9% (31,350 o unigolion) i ryw fath o drefniant dysgu parhaus mewn addysg amser llawn, addysg ran-amser (16 awr neu lai yr wythnos) neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith. Roedd hyn yn cynrychioli 92.8% o fechgyn a 95.1% o ferched
  • Parhaodd cyfran fwyaf y garfan, 88.7% (29,619 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • O'r rhai a barhaodd mewn addysg amser llawn, parhaodd 61.7% mewn coleg addysg bellach (18,272 o unigolion) a pharhaodd 38.3% (11,344 o unigolion) â'u haddysg yn yr ysgol
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (64.2%) na merched (59.1%), barhau â'u haddysg yn y coleg addysg bellach - gwahaniaeth o 5.1 pwynt canran
  • Dewisodd cyfran uwch o fenywod (40.9%) na bechgyn (35.7%) aros yn yr ysgol, gwahaniaeth o 5.2 pwynt canran
  • Ymunodd 7.3% o garfan Blwyddyn 11 (2,440 o unigolion) â’r farchnad lafur yn 2025, naill ai i gyflogaeth neu hyfforddiant seiliedig ar waith. Dewisodd mwy o fechgyn na merched y llwybr hwn (8.6% o fechgyn o'i gymharu â 5.9% o fenywod)
  • Fe wnaeth 3.4% o garfan Blwyddyn 11 (1,136 o unigolion) ymuno â hyfforddiant seiliedig ar waith heb statws cyflogedig yn 2025
  • Fe wnaeth 1.4% o garfan Blwyddyn 11 (453 o unigolion) ymuno â hyfforddiant seiliedig ar waith gyda statws cyflogedig yn 2025. Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (2.0%) na merched (0.7%) y llwybr hwn
  • Fe wnaeth 2.5% o garfan Blwyddyn 11 (851 o unigolion) ymuno â chyflogaeth y tu allan i gyllid y Llywodraeth gyda mwy o fechgyn (3.3%) na merched (1.8%) yn dewis y llwybr hwn
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 2.1% o’r garfan (711 o unigolion) mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Bechgyn oedd i gyfrif am 57.5% o gyfanswm y ffigur NEET (409 o unigolion) o'i gymharu â merched ar 42.2% (300 o unigolion)
  • O'r rhai NEET yn 2025, roedd 33.3% (237 o unigolion) yn gallu mynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (EET) o gymharu â’r 66.7% (474 o unigolion) nad oeddent yn gallu mynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd neu resymau eraill
  • Cyfradd y garfan Blwyddyn 11 wnaeth ddim ymateb yn 2025 oedd 0.8% (275 o unigolion)
  • Roedd 0.6% o’r garfan Blwyddyn 11 (187 o unigolion), wedi gadael eu hardal leol

Ffigurau Cyffredinol Bl 11

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 11 yn dangos bod y mwyafrif (88.7%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigurau cyffredinol blwyddyn 11
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Amser Llawn

14,975

87.0

14,627

90.7

17

77.3

29,619

88.7

Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos)

93

0.5

49

0.3

0

0

142

0.4

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig

570

3.3

564

3.5

2

9.1

1,136

3.4

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig

344

2.0

109

0.7

0

0

453

1.4

Cyflogedig - Arall

567

3.3

284

1.8

0

0

851

2.5

Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

409

2.4

300

1.9

2

9.1

711

2.1

Dim ymateb i'r arolwg

170

1.0

104

0.6

1

4.5

275

0.8

Wedi gadael yr ardal

91

0.5

96

0.6

0

0

187

0.6

Cyfanswm y garfan

17,219

100

16,133

100

22

100

33,374

100

Addysg Amser Llawn

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Amser Llawn yn ôl rhywedd
RhyweddCanran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Amser llawn
Bechgyn87.0%
Merched90.7%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Amser Llawn
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau i Flwyddyn 12 yn yr Ysgol

5,352

35.7

5,985

40.9

7

41.2

11,344

38.3

Parhau i Flwyddyn 12 mewn colegau Addysg Bellach

9,620

64.2

8,642

59.1

10

58.8

18,272

61.7

Blwyddyn 11 - Parhau mewn Addysg Uwch

3

<0.5

0

0

0

0

3

<0.5

Cyfanswm

14,975

100

14,627

100

17

100

29,619

100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg amser llawn na hyfforddiant seiliedig at waith i bobl ifanc
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith

145

35.5

92

30.7

0

0

237

33.3

Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd a rhesymau arall

264

64.5

208

69.3

2

100

474

66.7

Cyfanswm

409

100

300

100

2

100

711

100

Ethnigrwydd

O’r rhai o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a nododd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y dewis mwyaf poblogaidd o lwybr i'r rhai sy'n nodi eu bod yn ethnig leiafrifol oedd parhau mewn addysg amser llawn (92.2%) o'i gymharu â 88.3% i'r rhai sy'n nodi eu bod yn wyn
  • Aeth canran uwch o'r rhai sy'n nodi eu bod yn wyn i wahanol gategorïau'r farchnad lafur (7.8%) o'i gymharu â'r rhai sy'n nodi eu bod yn ethnig leiafrifol (3.6%)
  • O’r bobl ifanc NEET, nododd cyfran uwch eu bod yn wyn (2.2% neu 654 o unigolion) o gymharu â’r rhai a nododd eu bod yn ethnig leiafrifol (1.6% neu 51 o unigolion)
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 11 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
StatwsGwyn%Grwpiau lleiafrifoedd ethnig%Dim gwybodaeth am darddiad ethnig%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Amser Llawn (Ysgolion a Cholegau)

26,360

88.3

2,854

92.2

405

91.6

29,619

88.7

Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr)

130

0.4

10

0.3

2

0.5

142

0.4

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith (statws anghyflogedig)

1,059

3.5

69

2.2

8

1.8

1,136

3.4

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith (statws cyflogedig)

443

1.5

9

0.3

1

0.2

453

1.4

Cyflogedig

812

2.7

33

1.1

6

1.4

851

2.5

Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant

654

2.2

51

1.6

6

1.4

711

2.1

Anhysbys

254

0.9

18

0.6

3

0.7

275

0.8

Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal

125

0.4

51

1.6

11

2.5

187

0.6

Cyfanswm y garfan

29,837

100

3,095

100

442

100

33,374

100

% o'r garfan gyfan

 

89.4

 

9.3

 

1.3

 

100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill