Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 13 yng Nghymru 2025

Crynodeb

Mae’r ffigurau ar gyfer disgyblion 17 ac 18 oed yn ail flwyddyn y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n darparu hynt disgyblion ar 31 Hydref 2025, ar gyfer 9,786 o ddisgyblion a oedd yn cwblhau Blwyddyn 13 yn 2025.

  • O'r garfan Blwyddyn 13 yn 2025, roedd 46.8% yn fechgyn a 53.2% yn ferched
  • Fe wnaeth 78.8% o garfan Blwyddyn 13 (7,711 o unigolion) barhau i ddysgu trwy addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith. Roedd hyn yn cynrychioli cyfran uwch o ddisgyblion benywaidd (81.4%) o'i gymharu â disgyblion gwrywaidd (75.8%)
  • Parhaodd 75.5% o garfan Blwyddyn 13 (7,392 o unigolion) â’u haddysg amser llawn (FTE). O'r rheiny, aeth 85.4% (6,316 o unigolion) ymlaen yn uniongyrchol i addysg uwch. Roedd hyn yn cynrychioli 64.5% o’r garfan gyfan
  • Yn 2025, aeth 89.3% o garfan fenywaidd Blwyddyn 13 ymlaen yn syth i addysg uwch o gymharu ag 80.5% o’r garfan wrywaidd.
  • O’r rhai a barhaodd â’u haddysg amser llawn, gwnaeth canran lai barhau â’u haddysg yn yr ysgol, sef 6.1% (454 o unigolion), o gymharu â’r rhai aeth i goleg addysg bellach, sef 7.7% (566 o unigolion)
  • O’r rhai a barhaodd â’u haddysg, dywedodd 0.8% (56 o unigolion) eu bod yn cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda’r bwriad o fynd ymlaen i addysg uwch yn y flwyddyn ganlynol
  • Parhau mewn addysg yn rhan-amser (16 awr neu lai yr wythnos) oedd y llwybr a gymerwyd gan 45 o unigolion (0.5%)
  • Ymunodd 14.7% o garfan Blwyddyn 13 (1,438 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai i gyflogaeth neu hyfforddiant seiliedig ar waith
  • Ymunodd 11.9% o garfan Blwyddyn 13 (1,164 o unigolion) â chyflogaeth y tu allan i hyfforddiant wedi’i ariannu gan y Llywodraeth, gyda 13.2% o fechgyn (603 o unigolion) a 10.8% o fenywod (561 o unigolion) yn dewis y llwybr hwn
  • Ymunodd cyfran fach o garfan Blwyddyn 13, sef 0.2% (24 o unigolion) â hyfforddiant seiliedig ar waith heb statws cyflogedig
  • Ymunodd 2.6% o garfan Blwyddyn 13 (250 o unigolion) â dysgu seiliedig ar waith gyda statws cyflogedig. Penderfynodd canran uwch o fechgyn (3.8%) na merched (1.5%) ddilyn y trywydd hwn
  • Ar ddyddiad yr arolwg, gwyddom nad oedd 3.6% (356 o unigolion) o garfan Blwyddyn 13 mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET). Roedd canran uwch o fechgyn, 4.6% (212 o unigolion) na merched, 2.8% (144 o unigolion) yn cael eu dynodi fel NEET
  • Y gyfradd ‘dim ymateb’ ar gyfer carfan Blwyddyn 13 yn 2025 oedd 5.4% o’r garfan (529 o unigolion)
  • Roedd 0.3% o garfan Blwyddyn 13 (26 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigurau Cyffredinol Bl 13

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 13 yn dangos bod y mwyafrif (75.5%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigurau cyffredinol blwyddyn 13
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Amser Llawn

3,261

71.2

4,130

79.4

1

50.0

7,392

75.5

Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos)

26

0.6

19

0.4

0

0

45

0.5

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig

13

0.3

11

0.2

0

0

24

0.2

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig

173

3.8

76

1.5

1

50.0

250

2.6

Cyflogedig - Arall

603

13.2

561

10.8

0

0

1,164

11.9

Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

212

4.6

144

2.8

0

0

356

3.6

Dim ymateb i'r arolwg

281

6.1

248

4.8

0

0

529

5.4

Wedi gadael yr ardal

13

0.3

13

0.2

0

0

26

0.3

Cyfanswm y garfan

4,582

100

5,202

100

2

100

9,786

100

Addysg Amser Llawn

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Amser Llawn yn ôl rhywedd
RhyweddCanran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Amser llawn
Bechgyn71.2%
Merched79.4%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Amser Llawn
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Symud ymlaen at Flwyddyn 14, ysgolion 11-18

286

8.8

168

4.1

0

0

454

6.1

Gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 13 a symud ymlaen at Goleg Addysg Bellach

330

10.1

236

5.7

0

0

566

7.7

Blwyddyn 13 yn parhau mewn Addysg Uwch (AU)

2,626

80.5

3,689

89.3

1

100

6,316

85.4

Blwyddyn 13 yn cymryd Blwyddyn i Ffwrdd gan fwriadu symud ymlaen at AU

19

0.6

37

0.9

0

0

56

0.8

Cyfanswm

3,261

100

4,130

100

1

100

7,392

100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y Gwyddys Nad Ydynt mewn Gwaith, Addysg Amser Llawn na Hyfforddiant Seiliedig at Waith i Bobl Ifanc
StatwsBechgyn%merched%Arall%Cyfanswm%
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith

80

37.7

58

40.3

0

0

138

38.8

Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd a rhesymau arall

132

62.3

86

59.7

0

0

218

61.2

Cyfanswm

212

100

144

100

0

100

356

100

Ethnigrwydd

O’r rhai a nododd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y llwybr mwyaf poblogaidd ar gyfer y rhai sy'n nodi eu bod yn ethnig leiafrifol oedd parhau mewn addysg amser llawn, ar 83.0%. Mae hyn o'i gymharu â 74.5% ar gyfer unigolion a oedd yn nodi eu bod yn wyn
  • Ymunodd canran uwch o’r rhai sy’n nodi eu bod yn wyn â chyflogaeth y tu allan i gynllun hyfforddiant wedi’i ariannu gan y Llywodraeth (12.6% o’r rhai sy’n nodi eu bod yn wyn o gymharu â 7.3% o’r rhain sy’n nodi eu bod yn ethnig leiafrifol)
  • Gwnaeth canran uwch o’r rhai sy’n nodi eu bod yn wyn ymuno â hyfforddiant seiliedig ar waith â statws cyflogedig (2.8% o gymharu â’r 0.8% sy’n nodi eu bod yn ethnig leiafrifol)
  • Roedd cyfran y bobl ifanc sy’n nodi eu bod yn wyn ac a ystyriwyd fel NEET yr un ffigur â chyfran y rhai sy’n nodi eu bod yn ethnig leiafrifol (3.6%). Mae hyn yn cynrychioli 311 o unigolion gwyn a 38 o unigolion ethnig leiafrifol
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 13 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
StatwsGwyn%Grwpiau lleiafrifoedd ethnig%Dim gwybodaeth am darddiad ethnig%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Amser Llawn (ysgolion a cholegau)

6,387

74.5

876

83.0

129

83.2

7,392

75.5

Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr)

42

0.5

2

0.2

1

0.6

45

0.5

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws anghyflogedig

22

0.3

1

0.1

1

0.6

24

0.2

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws cyflogedig

240

2.8

8

0.8

1

0.6

249

2.5

Cyflogedig

1,079

12.6

77

7.3

9

5.8

1,165

11.9

Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant

311

3.6

38

3.6

7

4.5

356

3.6

Anhysbys

476

5.6

48

4.5

5

3.2

529

5.4

Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal

19

0.2

5

0.5

2

1.3

26

0.3

Cyfanswm y garfan

8,576

100

1,055

100

155

100

9,786

100

% o'r Garfan Gyfan

 

87.6

 

10.8

 

1.6

 

100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill