Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 12 yng Nghymru 2025

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 16 neu 17 oed a oedd ym mlwyddyn gyntaf y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n darparu hynt y disgyblion hyn ar 31 Hydref 2025, ar gyfer 11,735 o ddisgyblion.

  • O'r garfan Blwyddyn 12 yn 2025, roedd 46.9% (5,498 o unigolion) yn fechgyn a 53.1% (6,226 o unigolion) yn ferched
  • Aeth mwyafrif y garfan, 96.6% (11,339 o unigolion) i ryw fath o ddysgu parhaus mewn addysg amser llawn, addysg ran-amser (16 awr neu lai yr wythnos) neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith. Roedd hyn yn cynrychioli 95.9% o ddisgyblion gwrywaidd a 97.2% o ddisgyblion benywaidd
  • Parhaodd y gyfran fwyaf o'r garfan, 95.6% (11,221 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • O’r rhai sy’n parhau â’u haddysg amser llawn, gwnaeth 92.7% (10,407 o unigolion) barhau â’u haddysg yn yr ysgol a 7.2% (804 o unigolion) barhau mewn coleg addysg bellach
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (8.0%) barhau â’u haddysg mewn colegau addysg bellach na merched (6.5%)
  • Dewisodd cyfran uwch o ferched (93.5%) barhau i Flwyddyn 13 yn yr ysgol na bechgyn (91.9%)
  • Fe wnaeth 2.6% o garfan Blwyddyn 12 (303 o unigolion) ymuno â’r farchnad waith yn 2025, naill ai i gyflogaeth neu hyfforddiant seiliedig ar waith. Dewisodd mwy o fechgyn na merched y llwybr hwn (3.1% o fechgyn o'i gymharu â 2.1% o fenywod)
  • Ymunodd 0.3% o garfan Blwyddyn 12 (35 o unigolion) â hyfforddiant seiliedig ar waith â statws anghyflogedig yn 2025
  • Ymunodd 0.6% o garfan Blwyddyn 12 (67 o unigolion) â hyfforddiant seiliedig ar waith â statws cyflogedig yn 2025. Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (0.8%) na merched (0.4%) y llwybr hwn
  • Ymunodd 1.7% o garfan Blwyddyn 12 (201 o unigolion) â chyflogaeth y tu allan i gynllun wedi’i ariannu gan y llywodraeth gyda 1.9% o fechgyn (107 o unigolion) a 1.5% o fenywod (94 o unigolion) yn dewis y llwybr hwn
  • Ar ddyddiad yr arolwg, nid oedd 0.6% o garfan Blwyddyn 12 (67 o unigolion), mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (NEET). Bechgyn oedd i gyfrif am 62.7% o gyfanswm y ffigur NEET (42 unigolyn) o'i gymharu â merched ar 35.8% (24 unigolyn)
  • O’r NEET hysbys hyn, llwyddodd 43.3% (29 o unigolion) i ymuno â chyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (EET) yn 2025 ond roedd 56.7% (38 o unigolion) yn methu â gwneud hynny oherwydd salwch, beichiogrwydd, neu resymau eraill
  • Y gyfradd ‘dim ymateb’ ar gyfer carfan Blwyddyn 12 yn 2025 oedd 0.9% o’r garfan (107 o unigolion)
  • Roedd 0.2% o garfan Blwyddyn 12 (21 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigurau Cyffredinol Bl 12

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 12 yn dangos bod y mwyafrif (95.6%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigurau cyffredinol blwyddyn 12
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Amser Llawn

5,201

94.6

6,010

96.5

10

90.9

11,221

95.6

Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos)

11

0.2

5

0.1

0

0

16

0.1

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig

20

0.4

15

0.2

0

0

35

0.3

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig

43

0.8

24

0.4

0

0

67

0.6

Cyflogedig - Arall

107

1.9

94

1.5

0

0

201

1.7

Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

42

0.8

24

0.4

1

9.1

67

0.6

Dim ymateb i'r arolwg

64

1.2

43

0.7

0

0

107

0.9

Wedi gadael yr ardal

10

0.2

11

0.2

0

0

21

0.2

Cyfanswm y garfan

5,498

100

6,226

100

11

100

11,735

100

Addysg Amser Llawn

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Amser Llawn yn ôl rhywedd
RhyweddCanran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Amser llawn
Bechgyn94.6%
Merched96.5%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Amser Llawn
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Ymlaen i Flwyddyn 13 yn yr Ysgol

4,779

91.9

5,618

93.5

10

100

10,407

92.7

Ymlaen i Flwyddyn 13 mewn coleg Addysg Bellach

416

8.0

388

6.5

0

0

804

7.2

Blwyddyn 12 parhau i Addysg Uwch (AU)

6

0.1

4

0.1

0

0

10

0.1

Cyfanswm

5,201

100

6,010

100

10

100

11,221

100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y Gwyddys Nad Ydynt mewn Gwaith, Addysg Gmser llawn na Hyfforddiant Seiliedig at Waith i Bobl Ifanc
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith

19

45.2

9

37.5

1

100

29

43.3

Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd a rhesymau arall

23

54.8

15

62.5

0

0

38

56.7

Cyfanswm

42

100

24

100

1

100

67

100

Ethnigrwydd

O’r rhai a nododd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y dewis mwyaf poblogaidd i rai sy’n nodi eu bod yn ethnig leiafrifol yw parhau ag addysg amser llawn, sef 96.2%. Mae hyn yn uwch na’r gyfradd ar gyfer pobl ifanc gwyn (95.7%)
  • Ymunodd canran uwch o'r rhai sy'n nodi eu bod yn wyn â gwahanol gategorïau'r farchnad lafur (2.8%) o'i gymharu â'r rhai sy'n nodi eu bod yn ethnig leiafrifol (1.3%)
  • O bobl ifanc a oedd yn NEET, nododd cyfran uwch eu bod yn wyn (0.6% neu 59 o unigolion) o gymharu ag unigolion a nododd eu bod yn ethnig leiafrifol (0.5% neu 7 unigolyn)
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 12 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
StatwsGwyn%Grwpiau lleiafrifoedd ethnig%Dim gwybodaeth am darddiad ethnig%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Amser Llawn (ysgolion a cholegau)

9,557

95.7

1,384

96.2

280

91.2

11,221

95.6

Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr)

14

0.1

2

0.1

0

0

16

0.1

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws anghyflogedig

30

0.3

5

0.3

0

0

35

0.3

Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws cyflogedig

60

0.6

6

0.4

1

0.3

67

0.6

Cyflogedig

188

1.9

8

0.6

5

1.6

201

1.7

Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant

59

0.6

7

0.5

1

0.3

67

0.6

Anhysbys

74

0.7

17

1.2

16

5.2

107

0.9

Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal

7

0.1

10

0.7

4

1.3

21

0.2

Cyfanswm y garfan

9,989

100

1,439

100

307

100

11,735

100

% o'r Garfan Gyfan

 

85.1

 

12.3

 

2.6

 

100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill