Pobl Ifanc Nad Ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET)
- Yn 2025, roedd 1,134 o'r rhai sy’n gadael yr ysgol o Flwyddyn 11, 12 a 13 y gwyddys eu bod yn NEET yng Nghymru, sef 2.1% o gyfanswm y garfan
- Fel mewn blynyddoedd blaenorol, parhaodd carfan Blwyddyn 13 i fod â chanran uwch o NEET (3.6% - 356 o unigolion) o gymharu â charfannau Blwyddyn 11 (2.1% - 711 o unigolion) a Blwyddyn 12 (0.6% - 67 o unigolion)
- Canran y cwsmeriaid Blwyddyn 11 oedd yn methu â mynd i mewn i Gyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant (NEET) oherwydd salwch, gofalu am eraill neu feichiogrwydd oedd 1.4%. Yn yr un categori, roedd canran cwsmeriaid Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 yn 0.3% a 2.2% yn y drefn honno
- Roedd canran y merched NEET Blwyddyn 11 na allent fynd i mewn i EET yn 2025 yn uwch nag ar gyfer dynion NEET (69.3% o fenywod NEET a 64.5% o ddynion NEET)
Parhau mewn Addysg Amser Llawn
- Mae parhau mewn addysg amser llawn yn parhau i fod y dewis mwyaf poblogaidd o blith hynt disgyblion ym mhob un o'r tri grŵp blynyddoedd
- Dewisodd canran uwch o ferched na bechgyn ar draws y tair carfan barhau mewn addysg amser llawn
| Carfan | Bechgyn | Merched | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Blwyddyn 11 | 87.0% | 90.7% | 3.7 pwynt canran |
| Blwyddyn 12 | 94.6% | 96.5% | 1.9 pwynt canran |
| Blwyddyn 13 | 71.2% | 79.4% | 8.2 pwynt canran |
Roedd cyfran uwch o'r rhai sy'n parhau mewn addysg amser llawn ar ôl Blwyddyn 11 wedi dewis Addysg Bellach (61.7%) dros chweched dosbarth ysgolion (38.3%), gwahaniaeth o 23.4 pwynt canran.
- Chweched Dosbarth 38.3%
- Coleg AB 61.7%
Yn 2025, o’r rhai a ddosbarthwyd fel rhai sy’n parhau mewn Addysg Amser Llawn, roedd mynd i addysg bellach (AB) yn llwybr mwy poblogaidd i fechgyn ac i ferched fel ei gilydd. Roedd y gwahaniaeth yn fwy ar gyfer bechgyn (64.2% yn mynd i AB, o gymharu â 35.7% yn aros yn yr ysgol) nag ar gyfer merched (59.1% yn mynd i AB, o gymharu â 40.9% yn aros yn yr ysgol).
Ym Mlwyddyn 11, Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13, roedd canran uwch o'r rhai mewn grwpiau ethnig leiafrifol yn parhau mewn addysg amser llawn o gymharu â'r rhai sy’n wyn.
| Carfan | Gwyn | Lleiafrifoedd Ethnig |
|---|---|---|
| Blwyddyn 11 | 88.3% | 92.2% |
| Blwyddyn 12 | 95.7% | 96.2% |
| Blwyddyn 13 | 74.5% | 83.0% |
Ymuno â’r Farchnad Lafur – Llwybrau Gwaith a Hyfforddiant
- Roedd canran y bobl ifanc a aeth i mewn i hyfforddiant a gwaith a gefnogir gan y Llywodraeth (statws Cyflogedig ac Anghyflogedig) ar ei uchaf ar gyfer y rheiny ym Mlwyddyn 11 ar 4.8% (1,589 o unigolion). Aeth 0.9% (102 o unigolion) o garfan Blwyddyn 12 a 2.8% (274 o unigolion) o garfan Blwyddyn 13 i mewn i un o’r opsiynau hyn
- Canrannau’r bobl ifanc a aeth yn syth i gyflogaeth oedd 2.5% ar gyfer Blwyddyn 11, 1.7% ar gyfer Blwyddyn 12 a 11.9% ar gyfer Blwyddyn 13
- Roedd ymuno â'r farchnad lafur, (naill ai hyfforddiant yn y gweithle neu gyflogaeth) yn ddewis mwy poblogaidd ymhlith dynion o gymharu â menywod ar draws pob un o'r 3 carfan yn 2025
| Carfan | Bechgyn | Merched |
|---|---|---|
| Blwyddyn 11 | 8.6% | 5.9% |
| Blwyddyn 12 | 3.1% | 2.1% |
| Blwyddyn 13 | 17.2% | 12.5% |
O'r tair carfan, ymunodd canran llawer llai o'r rhai mewn grwpiau ethnig lleiafrifol â’r farchnad lafur (cyflogaeth neu hyfforddiant seiliedig ar waith) na'r rhai sy'n wyn.
| Carfan | Gwyn | Lleiafrifoedd Ethnig |
|---|---|---|
| Blwyddyn 11 | 7.8% | 3.6% |
| Blwyddyn 12 | 2.8% | 1.3% |
| Blwyddyn 13 | 15.6% | 8.2% |
Cyfradd Dim Ymateb
Roedd y gyfradd ‘Dim Ymateb’ gyffredinol ar gyfer yr arolwg yn 1.7% yn 2025 gyda charfan Blwyddyn 13 â’r gyfradd “Dim Ymateb” uchaf, sef 5.4% (529 o unigolion).
| Blwyddyn 11 | 0.8% |
|---|---|
| Blwyddyn 12 | 0.9% |
| Blwyddyn 13 | 5.4% |
Gweld hynt disgyblion yn ôl grwpiau blwyddyn
Gweld ffigurau cyffredinol hynt disgyblion Blwyddyn 11 o ysgolion yng Nghymru 2025.
Gweld ffigurau cyffredinol hynt disgyblion Blwyddyn 12 o ysgolion yng Nghymru 2025.
Gweld ffigurau cyffredinol hynt disgyblion Blwyddyn 13 o ysgolion yng Nghymru 2025.