Mae'r dudalen hon yn nodi ein hysbysiad preifatrwydd ynghylch data a gasglwn gan ddefnyddwyr ein gwefannau a sut rydym yn ei brosesu. Mae'n egluro sut rydyn ni'n cydymffurfio â rheoliadau Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018, mae'r hysbysiad hwn yn egluro sut mae Gyrfa Cymru yn rheoli ac yn rhannu gwybodaeth a gasglwn pan fyddwch yn cofrestru neu'n cwblhau'r cwisiau sydd ar gael ar wefan gyrfacymru.llyw.cymru.
Bydd y wybodaeth yn yr hysbysiad hwn yn cael ei hadolygu i gynnwys unrhyw newidiadau pellach a gaiff eu cyfleu gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a bydd fersiynau wedi'u diweddaru ar gael ar ein gwefan gyrfacymru.llyw.cymru.
Pwrpas yr hysbysiad hwn yw ein galluogi ni i fod yn agored ac yn onest ynglŷn â pham rydyn yn casglu eich data personol, a hefyd i nodi'r ffynonellau a'r math o ddata a dderbyniwn gan sefydliadau eraill a sut rydyn yn rhannu gwybodaeth am y data sydd gennym. Bydd hyn yn rhoi hyder bod y data personol sydd gennym yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd gywir a bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu.
Rheolydd Data
Career Choices Dewis Gyrfa Ltd sy'n masnachu fel Gyrfa Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer y data personol rydym yn ei brosesu. Rydym wedi cofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, rhif cofrestru: Z276256.
Diben
Diben yr hysbysiad preifatrwydd hwn yw darparu gwybodaeth am sut rydym yn defnyddio, casglu a rhannu'r data sydd gennym fel cwmni pan fyddwch yn rhyngweithio naill ai gwefan gyrfacymru.llyw.cymru neu wefan cymrungweithio.llyw.cymru.
Mae'r hysbysiad hwn yn ymdrin â'r meysydd canlynol:
1. Pam rydym yn prosesu'r data personol
Diben prosesu data personol yw caniatáu i ddefnyddwyr y wefan gael mynediad at y gwasanaethau a ddarparwn. Gall defnyddwyr naill ai fewngofnodi i'r wefan neu gael mynediad at dudalennau'r wefan heb gofrestru i ddefnyddio'r system. Dim ond data sy'n gysylltiedig â defnyddwyr cofrestredig sy'n mewngofnodi i'n gwefan yr ydym yn ei gadw. Pan fyddwch yn cofrestru ar y wefan am y tro cyntaf, rydym yn creu cofnod ar ein cronfa ddata gwybodaeth reoli. Mae'r holl ddata personol a gofnodir ar y wefan yn cael ei ddyrannu i'ch cofnod. Mae ein holl ddata yn cael ei storio'n ddiogel yn y Deyrnas Unedig.
2. Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol
Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol a ddarperir wrth ddefnyddio ein gwefan yw:
- Cydsyniad - Erthygl 6(a) - mae testun y data wedi cydsynio i brosesu ei ddata personol at un neu fwy o ddibenion penodol.
Mae gan unigolion yr hawl i dynnu'r caniatâd hwn yn ôl ar unrhyw adeg. Mae gennych hawl i ofyn a gaiff eich holl gofnod personol gael ei ddileu o'n cronfa ddata. Byddwn yn dileu eich data cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl derbyn cais i ddileu.
3. Gan bwy ac o ble rydym yn cael y data personol
Ar gyfer cofnodion gwefan, dim ond yn casglu data yn uniongyrchol gan y defnyddiwr fyddwn ni. Gall hyn fod drwy ddefnyddio LiveChat, arolygon, trefnu apwyntiadau neu gwblhau'r cwisiau ar y wefan.
4. Y Categorïau o ddata personol rydym yn eu prosesu
WRydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol ar draws ein gwefan:
Cofrestru ar y wefan
gwybodaeth bersonol a gesglir:
- Cyfeiriad E-bost
- Enw Cyntaf
- Cyfenw
Defnyddir y data cofrestru i greu cofnod hunangynhwysol unigryw yn ein cronfa ddata. Rydym yn derbyn data disgyblion gan ysgolion fel rhan o'n gofyniad tasg gyhoeddus i roi cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd i ddisgyblion yn yr ysgol. Pan fyddwn yn derbyn y wybodaeth am ddisgyblion, rydym yn creu cofrestriad defnyddiwr ar ein gwefan i ganiatáu i ddisgyblion gael mynediad i'r wefan. Gall disgyblion wneud cais i'w cofrestriad gwefan gael ei ddileu.
Mae manylion cofrestru'r wefan yn cael eu storio ar Azure Active Directory, B2C. Mae modd gweld eu hysbysiad preifatrwydd drwy glicio ar y ddolen Microsoft Privacy Statement – Microsoft privacy (Saesneg yn unig).
Cwis Paru Gyrfa, Cwis Buzz a'r cyfleuster proffil
Mae'r holl wybodaeth a ddarperir wrth gwblhau'r gweithgareddau hyn yn cael ei storio yn erbyn eich cofnod defnyddiwr ar ein cronfa ddata gwybodaeth reoli.
Darparwyr Trydydd Parti ar y wefan
Rydym yn darparu gwasanaeth gwe-sgwrs, trwy ddarparwr trydydd parti, LiveChat. Rydym yn casglu'r data hwn o dan ganiatâd. Pan fyddwch yn cyrchu livechat gallwn weld cyfeiriad IP eich cyfrifiadur ac felly rydym yn gwybod beth yw’ch lleoliad.
Gwybodaeth bersonol a gesglir:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
- Dyddiad geni
- Manylion y sgwrs
- Cyfeiriad IP
Bydd copi o drawsgrifiad y sgwrs yn cael ei storio ar y parth LiveChat hefyd sy'n cael ei weithredu gan Text Inc sydd wedi'i leoli yn UDA. Maent yn cydymffurfio â deddfau rhannu data trawsffiniol y DU. Rydym yn gallu cael mynediad at y trawsgrifiad o'ch sgwrs am dri mis, bryd hynny bydd yn cael ei dynnu o'n golwg. Os byddwch yn anfon cais at post@gyrfacymru.llyw.cymru gallwn wneud cais i'r trawsgrifiad gael ei ddileu o'r amgylchedd livechat. Unwaith y byddwn wedi cael cadarnhad ei fod wedi'i ddileu, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau.
- Ffurflen Cyswllt E-bost
- Enw
- E-bost
- Lleoliad
- Statws
- Nodwch y rheswm dros ofyn i ni gysylltu â chi
- Ffonio’n ôl
- Enw
- Ffôn
- Cyfeiriad e-bost
- Iaith
- Manylion o'r rheswm yr hoffech i ni eich ffonio
Pan fydd unrhyw un o'r ffurflenni uchod yn cael eu cyflwyno o'r wefan, mae'r wybodaeth yn cael ei hanfon mewn e-bost i'n cyfrif corfforaethol LiveChat fel y gallwn ddyrannu eich cais i un o'n staff i ymateb iddo. Gallwn weld y cais am dri mis. Bryd hynny bydd yn cael ei dynnu o'n storfa archif. Os ydych am i'ch manylion gael eu dileu o'r parth LiveChat, anfonwch gais at post@gyrfacymru.llyw.cymru. Pan fyddwn yn derbyn cadarnhad bod eich manylion wedi'u dileu, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau.
Archebu Apwyntiadau
Gweler ein polisi preifatrwydd ar wahân sydd ar gael ar y dudalen we ar gyfer archebu apwyntiad.
Cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio gwefan gyrfacymru.llyw.cymru, fel y tudalennau rydych yn ymweld â nhw. Nid yw'r cwcis hyn yn cael eu defnyddio i'ch adnabod yn bersonol. Trwy osod y dewisiadau cwcis, gallwch benderfynu pa gwcis nad ydynt yn hanfodol rydych yn hapus i ni eu defnyddio. Gallwch glirio a rheoli eich cwcis yn eich gosodiadau pori. Mae modd gweld ein polisi cwcis drwy’r dudalen we Cwcis.
5. Gyda phwy rydym yn rhannu data personol
Dim ond at ddibenion ymchwil a gwerthuso ac adroddiadau ystadegol y byddwn yn rhannu data a gesglir o'n gwefan. Byddwn yn darparu data i'r cwmnïau ymchwil a gwerthuso at ddiben penodol yn unig ac am gyfnod cyfyngedig o amser, ac ar ôl hynny rhaid i'r cwmni ymchwil neu werthuso gadarnhau bod y data wedi'i ddinistrio. Bydd data’n cael ei rannu gyda darparwyr trydydd parti fel LiveChat.
6. Sut rydym yn cadw eich Data Personol yn Ddiogel?
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli, ei ddefnyddio neu ei gyrchu'n ddamweiniol mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu mynediad i'ch data personol i'r gweithwyr hynny sydd ag angen busnes i wybod. Dim ond yn unol â’n cyfarwyddiadau y bydd ein gweithwyr yn prosesu eich data personol ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd o gyfrinachedd. Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o fynediad diawdurdod at ddata personol a byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am achos o’r fath lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny. Rydym yn cynnal asesiadau diogelwch allanol bob blwyddyn.
7. Am ba hyd rydym yn cadw eich data personol?
Dim ond cyhyd ag y bo'n angenrheidiol i gyflawni'r dibenion ar gyfer ei gasglu y byddwn yn cadw eich data personol, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd. Er mwyn pennu'r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y wybodaeth bersonol, y risg bosibl o niwed o ddefnyddio neu ddatgelu eich gwybodaeth bersonol heb awdurdod, at ba ddibenion rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ac a allwn gyflawni'r dibenion hynny drwy ddulliau eraill, a'r gofynion cyfreithiol perthnasol. Mae manylion y cyfnodau cadw ar gyfer gwahanol agweddau ar eich data personol ar gael yn ein polisi cadw y gallwch ofyn amdano gennym trwy gysylltu â'n tîm preifatrwydd data gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a nodir isod. Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn anonymeiddio eich data personol (fel na ellir ei gysylltu â chi mwyach) at ddibenion ymchwil neu ystadegau, ac os felly gallwn ddefnyddio'r wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb roi rhybudd pellach i chi. Gallwch wneud cais i'r holl ddata sydd gennym o'ch gweithgarwch ar y wefan gael ei ddileu.
8. Hawliau unigol
O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei rhoi. Yn benodol mae gennych yr hawl:
- I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun
- I ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau)
- I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. www.ico.org.uk
9. Rhagor o Wybodaeth
Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Gyrfa Cymru mewn perthynas â materion diogelu data, drwy'r post yn: Uned 4, Tŷ Churchill, 17 Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH, neu E-bostiwch: personal.data@careerswales.gov.wales