Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Sicrhau gwerth

Geiriau Dyfodol Disglair

Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn asesu ac yn adrodd yn barhaus ar yr effaith y bydd ein gwasanaethau yn ei chael ar ganlyniadau addysgol, economaidd a llesiant pobl Cymru.

Sicrhau gwerth a mesur effaith

Byddwn yn:

  • Gwneud y defnydd gorau o ddata, gan olrhain cynnydd pobl ifanc  ac oedolion
  • Meithrin ein cysylltiadau ag academyddion ac ymchwilwyr i ddatblygu dealltwriaeth newydd er mwyn gwella ein gwasanaethau a datblygu polisïau
  • Cynnal astudiaeth ddichonoldeb i ymchwilio i ddatblygu hyb gwybodaeth newydd sy’n hysbysu darparwyr cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill ac sy’n gweithio ar y cyd â nhw
  • Nodi tueddiadau o fewn cymunedau, sectorau a demograffeg ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu rhaglenni a mentrau newydd i fynd i’r afael â materion penodol sy’n dod i’r amlwg

Byddwn yn ymchwilio i’r manteision ariannol y mae gwasanaethau Gyrfa Cymru yn eu darparu i’r economi ehangach a gwerth ychwanegol gweithgareddau fel:

  • Lleihau nifer y bobl sy'n NEET
  • Gwella ymwybyddiaeth o swyddi, paru sgiliau a chysylltu â chyflogwyr o fewn y cwricwlwm a’r tu allan iddo
  • Gwella sgiliau hanfodol, digidol a rheoli gyrfa
  • Cynyddu mynediad at waith, hyfforddiant, entrepreneuriaeth a/neu weithgareddau gwirfoddol
  • Gwella llesiant drwy gymorth gyrfaoedd i helpu i leihau dibyniaeth ar y wladwriaeth

Gweld yr adroddiad llawn a'r fersiwn hawdd i'w ddarllen

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Dyfodol Disglair - Ein Gweledigaeth Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Dyfodol Disglair Ein Gweledigaeth - Hawdd i'w ddarllen Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..