Dyddiad y ciplun – 31 Mawrth 2021.
Mae’r adroddiad hwn wedi’i baratoi yn seiliedig ar y gweithlu ar 31 Mawrth 2021 a’r cyfnod cymharydd uniongyrchol yw 31 Mawrth 2020. Gallwn gadarnhau bod y data ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn yn gywir ac yn unol â’r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg. Nid diben y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw tynnu sylw at yr anghydbwysedd rhwng cyflog cyfartal am rolau cyfwerth ond cymharu’r gwahaniaeth rhwng dynion a menywod o fewn ein strwythur graddau cyflog mewnol. Mae’r adroddiad hwn yn nodi ers dyddiad yr adroddiad diwethaf bod ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi codi o 2.3% i 2.9%. Fel sefydliad rydym yn fach bod ein ffigurau yn llawer is na chyfartaledd y DU gyfan o 13.1 yn 2020/21 ond yn cydnabod bod angen i ni wneud cynnydd pellach i leihau’r bwlch.
Mae esboniad clir am y newid yn y bwlch cyflog y gellir ei weld yn ffigurau’r chwartel. Cyfanswm y bobl a gyflogwyd ym mis Mawrth 2021 oedd 620, y gymhareb staff menywod i ddynion oedd 75:25. Fodd bynnag, wrth adolygu cymarebau’r chwartel menywod sydd yn yr 67.1% o swyddi sy’n talu fwyaf, menywod sydd yn 76.28 o’r swyddi sy’n talu isaf a 80% o’r swyddi sy’n talu isaf i ganolig. Hyd nes y bydd y cymarebau hyn yn adlewyrchu’r rhaniad yn y gweithle bydd gennym wastad anghydbwysedd tâl cymedrig. Fel sefydliad rydym yn penodi ar sail teilyngdod ac mae’n ffocws ar addasrwydd a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl. Rydym yn sicrhau bod ein prosesau recriwtio yn cael gwared ar duedd annheg drwy sicrhau bod pob ffurflen gais yn ddienw wrth eu hasesu ac rydym yn defnyddio cyfweliadau strwythuredig a chanolfannau asesu sgiliau lle’n briodol. Yn ystod ein proses recriwtio rydym yn cydnabod anghenion amrywiol yr aelodau amrywiol o’n gweithlu, a’n hegwyddorion sylfaenol yw sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hymwreiddio drwy Gyrfa Cymru.
Datganiad - Rwy’n cadarnhau fod ein data wedi’i gyfrifo yn unol â gofynion Rheoliad 2017 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog ar sail Rhywedd) – Nikki Lawrence Prif Weithredydd.
Heriau’r Gweithlu yn y cyfnod hwn
O’i gymharu â gweithlu 2020 rydym yn nodi gostyngiad bach mewn niferoedd staffio, un ar ddeg yn llai na’r adroddiad blaenorol (saith menyw a phedwar dyn). Y prif wahaniaeth rhwng y ddwy flynedd adrodd yw nifer y staff ar radd tri neu radd pedwar. Gadawodd nifer y gwaith ar radd tri ac mae’r cynghorwyr gyrfa dan hyfforddiant, a ddechreuodd ar radd tri bellach wedi cymhwyso ac wedi ymuno ar y raddfa band is ar radd 5. Gan fod staff ar radd 4 yn symud ymlaen drwy’r bandiau cyflog, bydd hyn yn helpu i leihau’r band cyflog presennol yn y blynyddoedd nesaf, mae 117 o fenywod a fydd yn camu ymlaen drwy’r bandiau o’i gymharu â 24 o ddynion. Mae’r lefelau staffio yn y graddau cyflog eraill wedi parhau’n sefydlog. Mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y staff rheoli ar radd 6-10. Cynnydd o 79 i 86 yn cynrychioli 13.8% o’r gweithlu (pedair menyw a thri dyn ychwanegol).
Bwlch Cyflog Cymedrig
Cyfrifir y bwlch cyflog cymedrig drwy adio cyflog yr awr pob menyw mewn sefydliad a’i rannu gyda nifer y menywod, gan wneud yr un sỳm ar gyfer dynion, yna cymharu’r ddau ffigur. Er bod dynion ond yn cynrychioli 25% o’r gweithlu, mae eu cyflog cymedrig yn 2.9% yn uwch na menywod. Y prif reswm am y bwlch hwn yw bod y graddau cyflog uwch (6-10) yn cynnwys 33% o ddynion o’i gymharu â’r gymhareb dynion i fenywod gyffredinol o 25%.
Gradd | % Menywod 2020 | % Menywod 2021 | %Dynion 2020 | %Dynion 2021 |
---|---|---|---|---|
1 | 83.8 | 86.1 | 16.2 | 13.9 |
2 | 75.5 | 77.7 | 24.5 | 22.2 |
3 | 74.7 | 70.0 | 25.3 | 30.0 |
4 | 76.8 | 77.5 | 23.2 | 22.5 |
5 | 65.7 | 66.7 | 34.3 | 33.3 |
6 | 55.3 | 54.9 | 44.7 | 45.1 |
7 | 86.4 | 83.3 | 13.6 | 16.6 |
8 | 50.0 | 50.0 | 50.0 | 50.0 |
9 | 100.0 | 100.0 | 0.0 | 0.0 |
10 | 100.0 | 100.0 | 0.0 | 0.0 |
Bwlch Cyflog Canolrifol
Cyfrifir y bwlch cyflog canolrif drwy ganfod yr union bwynt canolig rhwng y fenyw sy’n cael ei thalu isaf ac uchaf mewn sefydliad a’r dyn sy’n cael ei dalu isaf ac uchaf, yna cymharu’r ddau ffigur i gyfrifo’r gwahaniaeth mewn cyflogau. Rydym yn adrodd gwahaniaeth o 0% yn y bwlch cyflog canolrif. Er bod annhebygolrwydd ystadegol o hyn yn digwydd mae esboniad clir am y canlyniad hwn. O’r strwythur graddio a nodir yn y tabl (tabl yn dangos dadansoddiad o Radd a Rhywedd 31/03/2021), mae 58.7% o’r menywod ar y staff a 50.6% o’r dynion ar y staff yn cael eu cyflogi ar radd 4. Mae ein darpariaeth gwasanaeth craidd yn cynnwys darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfa felly mae canran uchaf ein staff yn seiliedig ar rôl yn gynghorwyr gyrfa ar y radd hon. Rhennir y raddfa gyflog yn 4 band cyflog (cynnydd drwy’r bandiau yn ôl nifer y blynyddoedd o wasanaeth, gan gyrraedd y band uchaf yn y bedwaredd flwyddyn o wasanaeth). O 31 Mawrth 2021 - cyrhaeddodd 77.7% o fenywod a 82.2% o ddynion yn y garfan gyflog gradd 4 frig y band graddfa gyflog, felly mae’r aelod staff canolrif ar gyfer dynion a menywod yn perthyn i’r raddfa gyflog hon ac mae’r naill a’r llall wedi cyrraedd brig eu band cyflog.
Gradd | Nifer y menywod 2020 | Nifer y menywod 2021 | Nifer y dynion 2020 | Nifer y dynion 2021 |
---|---|---|---|---|
1 | 31 | 31 | 6 | 5 |
2 | 37 | 42 | 12 | 12 |
3 | 71 | 42 | 24 | 18 |
4 | 258 | 272 | 78 | 79 |
5 | 23 | 22 | 12 | 11 |
6 | 26 | 28 | 21 | 23 |
7 | 19 | 20 | 3 | 4 |
8 | 4 | 4 | 4 | 4 |
9 | 1 | 2 | 0 | 0 |
10 | 1 | 1 | 0 | 0 |
Chwarteli Cyflog
Yn hanesyddol, mae darpariaeth cyngor gyrfaoedd wedi’i ddominyddu gan fenywod, a bydd yn cymryd cryn amser i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd hyn. Nid yw’r ganran uchel o fenywod i ddynion yn golygu na allwn sicrhau cydraddoldeb o ran cyflogau, yr allwedd i sicrhau tir gwastad yw’r gyfran o staff ar sail cymhareb chwartel i chwartel. Mae’r gymhareb menywod i ddynion yn y cwmni yn 75:25 yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, menywod sydd yn 67.1% o’r swyddi sy’n talu uchaf yn y sefydliad, menywod sydd yn 76.28 o’r swyddi sy’n talu isaf a 80% yn y swyddi cyflog isaf i ganolig.
Menywod 2020 | Dynion 2020 | Menywod 2021 | Dynion 2021 | |
---|---|---|---|---|
Uwch | 68.18 | 31.82 | 67.1 | 32.9 |
Canol uwch | 78.06 | 21.94 | 76.13 | 23.87 |
Canol is | 73.55 | 26.45 | 80.0 | 20.0 |
Chwartel is | 77.42 | 22.58 | 76.28 | 23.72 |