Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Eich Preifatrwydd a Deallusrwydd Artiffisial – Canllaw i Bobl Ifanc

Mae'r dudalen hon yn esbonio sut mae Gyrfa Cymru yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a sut rydyn ni’n diogelu eich gwybodaeth bersonol. Fe'i hysgrifennwyd ar gyfer pobl ifanc 14 oed a hŷn.

Pwy ydym ni

Mae Gyrfa Cymru yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion ledled Cymru i wneud dewisiadau ynghylch dysgu, hyfforddiant a gwaith. Rydyn ni’n darparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd.

Beth yw Deallusrwydd Artiffisial?

Mae Deallusrwydd Artiffisial yn golygu systemau cyfrifiadurol sy'n gallu cwblhau tasgau sydd fel arfer angen meddwl dynol, fel deall cwestiynau, crynhoi gwybodaeth a chynhyrchu ymatebion ysgrifenedig. Nid yw Deallusrwydd Artiffisial yn gwneud penderfyniadau pwysig amdanoch chi. Mae aelod o staff bob amser yn gwirio'r gwaith.

Pam mae Gyrfa Cymru yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial

Rydyn ni’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i wella cyflymder ac ansawdd gwasanaethau, helpu staff i ddeall gwybodaeth yn haws, crynhoi sgyrsiau am gyfarwyddyd a darparu offer ar-lein fel sgwrsfotiaid. Pobl sydd bob amser yn rheoli’r broses.

Enghreifftiau o sut rydyn ni’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial

Mae hyn yn cynnwys y sgwrsfot Cari ar gyfer dysgwyr ôl-16, ysgrifennu nodiadau cryno ar ôl sesiynau cyfarwyddyd, helpu i deilwra CVs a chrynhoi galwadau neu sgyrsiau ar-lein. Nid yw Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ddefnyddio i'ch sgorio chi neu i ragweld eich ymddygiad.

Pa wybodaeth bersonol y gellir ei defnyddio

Gall hyn gynnwys eich enw, manylion cyswllt a gwybodaeth rydych chi'n dewis ei rhannu wrth ddefnyddio offer Deallusrwydd Artiffisial neu siarad â chynghorydd. Dim ond gwybodaeth sy'n berthnasol ac yn angenrheidiol rydyn ni’n ei defnyddio.

A yw pobl yn rhan o’r broses?

Ydyn. Mae allbynnau Deallusrwydd Artiffisial yn cael eu hadolygu gan staff Gyrfa Cymru. Pobl sy’n gwneud y penderfyniadau terfynol.

A fydda i’n gwybod pryd mae Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ddefnyddio?

Byddwch. Byddwn bob amser yn dweud wrthych pan rydych chi'n rhyngweithio â Deallusrwydd Artiffisial neu pan fydd cynnwys wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial.

A yw fy nata yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi Deallusrwydd Artiffisial?

Nac ydy. Nid yw data personol yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi ein systemau Deallusrwydd Artiffisial.

Pwy all weld fy ngwybodaeth i?

Dim ond staff Gyrfa Cymru sydd angen yr wybodaeth i'ch cefnogi. Nid yw gwybodaeth yn cael ei rhannu â sefydliadau eraill.

Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel

Rydyn ni’n defnyddio systemau diogel, yn cyfyngu ar fynediad at wybodaeth ac yn hyfforddi staff mewn diogelu data.

Pa mor hir y cedwir gwybodaeth?

Dim ond cyhyd ag y mae angen cadw’r wybodaeth, ac yn unol â rheolau cyfreithiol.

Eich hawliau

Gallwch ofyn am gael gweld eich gwybodaeth, gofyn am gywiriadau, gofyn i ni roi'r gorau i'w defnyddio mewn rhai sefyllfaoedd, gofyn am iddi gael ei dileu mewn rhai achosion, a gwneud cwyn.

 phwy i gysylltu

Tîm Diogelu Data Gyrfa Cymru: personal.data@gyrfacymru.llyw.cymru

Ein hymrwymiad

Rydyn ni’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn gyfrifol, yn deg, yn dryloyw ac mae pobl yn goruchwylio’r broses bob amser. Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni.