Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Adroddiad bwlch cyflog rhwng y rhywiau 2022

Paratowyd yr adroddiad hwn ar sail y gweithlu ar 31 Mawrth 2022 a’r cyfnod cymharol uniongyrchol yw 31 Mawrth 2021.

Rydym yn cadarnhau bod y data bwlch cyflog ar sail rhywedd yn yr adroddiad hwn yn gywir ac wedi’i gynhyrchu yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg. Nid diben y bwlch cyflog ar sail rhywedd yw tynnu sylw at anghydbwysedd mewn cyflog cyfartal ar gyfer rolau cyfartal ond yn hytrach darparu cymhariaeth o’r cydbwysedd rhwng dynion a merched o fewn ein strwythur graddfeydd cyflog mewnol.

Cyfanswm y staff yn y cwmni ar 31 Mawrth 2022 oedd 617, ac yn cynnwys 470 o fenywod a 147 o ddynion, cymhareb o 76.1% o fenywod a 23.8% o ddynion. Ar 31 Mawrth roedd gennym gadeirydd a chadeirydd interim, y ddwy yn fenywod. Mae'n bleser gennym adrodd bod ein bwlch cyflog ar sail rhywedd wedi lleihau o 2.9% i 1.9%.

Datganiad - Rwy’n cadarnhau fod ein data wedi’i gyfrifo yn unol â gofynion Rheoliad 2017 Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog ar sail Rhywedd) – Nikki Lawrence Prif Weithredydd.

Trosolwg

Rydym yn weithlu benywaidd ar y cyfan felly gall newid bach yn y cyfrannau o staff benywaidd i staff gwrywaidd gael effaith sylweddol. Lleihaodd y bwlch eleni oherwydd cynnydd yn nifer y dynion yng ngradd 1 o 13.9% i 17.9% a bu gostyngiad yn nifer y dynion yng ngradd 8 o 50% i 37.5%.

Wrth recriwtio, er mwyn sicrhau tegwch i bawb, rydym yn penodi ar sail teilyngdod ac rydym yn canolbwyntio ar y dawn a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni'r rôl. Rydym yn sicrhau bod ein prosesau recriwtio yn cael gwared ar ragfarn annheg drwy sicrhau bod pob ffurflen gais yn ddienw cyn cael ei hasesu ac rydym yn defnyddio cyfweliadau strwythuredig a chanolfannau asesu sgiliau lle bo'n briodol.

Yn ystod ein proses recriwtio rydym yn cydnabod anghenion amrywiol aelodau amrywiol ein gweithlu, a’n hegwyddorion sylfaenol yw sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a thegwch wedi’u gwreiddio ledled Gyrfa Cymru.

Mae ein holl swyddi’n cael eu gwerthuso’n annibynnol i sicrhau bod y rôl yn cael ei thalu’n deg yn unol â’n cyflogau graddfeydd cyflog yn seiliedig ar ofynion manyleb y swydd.

Hunaniaeth o ran rhywedd

Rydym yn cydnabod bod rhywedd yn fwy cymhleth na “dynion” a “menywod”, mae’n debygol bod gennym aelodau staff nad ydyn nhw’n perthyn i’r categorïau deuaidd ac a all ddiffinio eu hunain fel anneuaidd ac eraill a allai ystyried nad ydyn nhw’n cyd-fynd â’r rhywedd a neilltuwyd iddyn nhw adeg eu geni. Fodd bynnag, oherwydd y ddeddfwriaeth sydd ar waith mae’n rhaid inni adrodd ar y bwlch cyflog ar sail rhywedd o ran dynion a menywod. Rydym wedi defnyddio'r data hawl i weithio a ddarparwyd ar ddechrau cyflogaeth i ddyrannu staff i ddynion neu fenywod at ddibenion yr adroddiad hwn.

Newidiadau i'r gweithlu yn y cyfnod hwn

O’i gymharu â gweithlu 2021, rydym yn adrodd gostyngiad bach yn niferoedd staffio 5 yn llai na’r flwyddyn flaenorol (gadawodd 9 o ddynion ac fe ymunodd 4 menyw).

Lleihaodd y bwlch eleni oherwydd cynnydd yn nifer y dynion yng ngradd 1 cynnydd o 13.9% i 17.9% a gostyngiad yn nifer y dynion yng ngradd 8 o 50% i 37.5%. Mae lefelau staffio yng ngweddill y graddfeydd cyflog wedi aros yn sefydlog. Bu cynnydd bach yn nifer y staff rheoli ar raddfeydd 6-10, o 91 i 86 aelod o staff sy’n cynrychioli 14.7% o’r gweithlu (pump o fenywod ychwanegol). Mae hyn wedi helpu i gau'r bwlch cyflog ar sail rhywedd.

Bwlch cyflog cymedrig

Mae’r bwlch cyflog cymedrig yn cael ei gyfrifo drwy adio cyflog fesul awr yr holl fenywod mewn sefydliad a’i rannu â nifer y menywod, gan wneud yr un peth ar gyfer y dynion, yna cymharu’r ddau ffigur. Er bod dynion ond yn cynrychioli 25% o'r gweithlu mae eu cyflog cymedrig 2.3% yn uwch na menywod.

Rydym wedi nodi dau reswm posibl dros y gwahaniaeth hwn. Yn gyntaf, yn adroddiad 2018 roedd 37% o’r staff a gyflogwyd ar radd 6 ac uwch yn ddynion ac mae hyn wedi cynyddu i 44.7% ac mae gradd 8 hefyd wedi cynyddu o 37.5% i 50%. Yn ail, mae'r graddau cyflog uwch (6-10) yn cynnwys 17.5% o'r gweithlu gwrywaidd o’i gymharu â 10% o'r gweithlu benywaidd.

Ffigur 1 Canran rhywedd ar bob gradd Cyflog 2022 Mawrth o’i gymharu â Mawrth 2021

Ffigur 1 Canran rhywedd ar bob gradd Cyflog 2022 Mawrth o’i gymharu â Mawrth 2021
Gradd % Menywod 2022% Menywod 2021% Dynion 2022% Dynion 2021
182.186.117.913.9
277.177.722.922.2
376.070.02430.0
478.277.521.822.5
566.766.733.333.3
658.554.941.545.1
785.283.314.816.6
862.550.037.550.0
9100100.000.0
10100100.000.0

Bwlch cyflog canolrifol

Mae’r bwlch cyflog canolrifol yn cael ei gyfrifo drwy ganfod yr union bwynt canol rhwng y fenyw ar y cyflog isaf ac uchaf mewn sefydliad a’r dyn ar y cyflog isaf ac uchaf, yna cymharu’r ddau ffigur i gyfrifo’r gwahaniaeth mewn cyflogau. Rydym yn adrodd am wahaniaeth o 0% yn y bwlch cyflog canolrifol.

Er ei bod yn annhebygol y bydd hyn yn digwydd yn ystadegol mae esboniad clir am y canlyniad hwn. Ar y strwythur graddio (Ffigur 2) mae 59.6% o’r staff benywaidd a 53.1% o’r staff gwrywaidd yn gyflogedig ar radd 4. Mae ein darpariaeth gwasanaeth craidd yn cynnwys darparu cyngor ac arweiniad gyrfaoedd felly mae'r ganran uchaf o'n staff, yn seiliedig ar rôl, yn gynghorwyr gyrfa ar y raddfa hon.

Rhennir y raddfa gyflog yn 4 band cyflog (sicrheir cynnydd drwy’r bandiau yn ôl nifer y blynyddoedd o wasanaeth, gan gyrraedd brig y band yn y bedwaredd flwyddyn o wasanaeth). O 31 Mawrth 2021 – cyrhaeddodd 77.1% o fenywod a % o ddynion yn y garfan gyflog gradd 4 frig y band cyflog, felly mae’r aelod staff canolrif ar gyfer dynion a menywod yn byw yn y raddfa gyflog hon ac mae’r ddau wedi cyrraedd brig eu graddfa gyflog.

Ffigur 2 Dadansoddiad Gradd a Rhywedd 31/03/2022 (nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys y ddwy gadeirydd benywaidd a oedd yn eu swyddi ar 31 Mawrth, nid yw'r cadeirydd yn dod o fewn y strwythur graddfeydd cyflog y cytunwyd arno gan Lywodraeth Cymru).

Ffigur 2 Dadansoddiad Gradd a Rhywedd 31/03/2022
Gradd2022 - Nifer y menywod2021 - Nifer y menywod2022 - Nifer y dynion2021 - Nifer y dynion
1323175
237421112
338421218
42792727879
520221011
631282223
7232044
85434
92200
101100
Total468464147156

Chwartelau tâl

Yn hanesyddol, menywod oedd yn bennaf gyfrifol am ddarparu cyngor gyrfa, a bydd yn cymryd peth amser i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn. Nid yw’r canran uchel o fenywod i ddynion yn golygu na allwn gyrraedd cydraddoldeb cyflog, yr allwedd i gael chwarae teg yw cyfran y staff ar sail cymhariaeth chwartel-i-chwartel.

Cymhareb y staff menywod i ddynion yw 75:25 ar gyfer y cwmni cyfan. Fodd bynnag, fel sefydliad mae menywod yn llenwi 76.77% (o’i gymharu â 67.1% yn 2021) o'r swyddi sydd ar y cyflog uchaf. Mae hyn wedi arwain at gau'r bwlch cyflog ar sail rhywedd.

Chwartelau tâl - 2022 Mawrth o’i gymharu â Mawrth 2021
 BenywaiddGwrywaiddBenywaiddGwrywaidd
Chwartelau tâl2022202220212021
uchaf70.1629.8767.132.9
canol uchaf78.5721.4376.1323.87
canol isaf79.2220.7880.0020.00
chwartel isaf76.7723.2376.2823.72

Nodiadau ychwanegol:

  • Mae'r Cwmni wedi negyddu effaith rhywedd ar gyflog trwy nodi pob gweithiwr ar yr un pwynt o'r raddfa gynyddrannol, peidio â gwahaniaethu cyflog rhwng gwaith o werth cyfartal a symud yr holl weithwyr trwy'r pwyntiau cynyddrannol ar gyfnodau cyfartal
  • Mae gweithwyr newydd neu weithwyr sy’n symud i’r strwythur graddfeydd cyflog bob amser yn dechrau ar bwynt cynyddrannol cyntaf y raddfa ar gyfer eu rôl
  • Nid oes tâl ar sail oedran
  • Mae'r graddfeydd cynyddrannol yn fyr, a chyrhaeddir y pwynt uchaf mewn 4 blynedd
  • Nid oes pwynt cyflog o dan yr isafswm cyflog
  • Nid oes unrhyw fonysau
  • Nid oes unrhyw drafodaethau unigol yn cael eu cynnal
  • Mae gweithwyr yn symud ymlaen yn awtomatig drwy'r raddfa gynyddrannol ar ben-blwydd eu penodiad nes iddyn nhw gyrraedd y gyfradd uchaf ar gyfer eu rôl. Nid yw hyn yn agored i drafodaeth, ac nid yw'n gysylltiedig â pherfformiad
  • Nid yw cynnydd yn cael ei atal gan absenoldeb yn ymwneud â theulu (mabwysiadu/mamolaeth/tadolaeth ac ati)
  • Nid yw cyfnodau o absenoldeb yn ymwneud â salwch yn effeithio ar gynnydd chwaith
  • Mae gan rai rolau raddau hyfforddai lle nad oes cynnydd i'r radd gymwysedig nes cyrraedd y cymhwyster gofynnol
  • Mae'r raddfa yn llinol ac nid oes graddfeydd gwahanol ar gyfer rolau corfforaethol/cyflawni/technegol
  • Gwneir taliad cyfartal am waith o werth cyfartal a werthusir yn annibynnol
  • Ceir cynnydd i fyny'r raddfa trwy gais cystadleuol am swyddi hyrwyddo
  • Mae yna fecanwaith apelio i'w ddefnyddio gan unigolion neu grwpiau