Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Aelodau Bwrdd Gyrfa Cymru

Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol.

Rôl y Bwrdd yw bodloni bod strwythur llywodraethu priodol ar waith i sicrhau bod y cwmni'n gweithredu o fewn y fframwaith polisi a bennir gan Lywodraeth Cymru.

Cwrdd â’r Cadeirydd

Erica Cassin
Erica Cassin

Penodwyd Erica Cassin yn Gadeirydd Bwrdd Gyrfa Cymru ym mis Chwefror 2022 ac mae wedi bod yn aelod o’r Bwrdd ers mis Medi 2020.

Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes Adnoddau Dynol, gan gynnwys rolau fel Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ar gyfer cyflogwyr mawr yn y sector preifat yn sectorau gofal iechyd, fferyllol a gwasanaethau ariannol y DU.

Mae Erica yn fedrus wrth arwain newid a thrawsnewid sefydliadol, newid diwylliant, talent a datblygu arweinyddiaeth.

Mae wedi arwain a gweithio gyda thimau mawr, amrywiol, gan feithrin diwylliant o lawer o ymgysylltu, cynhwysiant, grymuso a chydweithredu.

Pan ofynnwyd iddi beth fyddai Erica yn hoffi i Gyrfa Cymru ei gyflawni, dywedodd:

Rwy'n angerddol dros symudedd cymdeithasol a galluogi pobl i gyrraedd eu llawn botensial - byddwn wrth fy modd i Gyrfa Cymru barhau i ysbrydoli, cynghori a grymuso pobl o bob sector o'n cymuned i fynd y tu hwnt i ffiniau canfyddedig a chyflawni eu potensial, yn enwedig y rheini o ardaloedd o amddifadedd, rhai difreintiedig, neu anos eu cyrraedd. Rydw i hefyd yn gobeithio y byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar anghenion Cymru ffyniannus yn y dyfodol ac yn helpu pobl i feithrin y sgiliau a'r llwybrau gyrfa sydd eu hangen i ddiwallu'r anghenion hynny fel y gall busnesau yng Nghymru dyfu a ffynnu ar dalent gynhenid."

Cymwysterau

Mae cymwysterau Erica yn cynnwys:

  • Cymrawd y Sefydliad Siartredig dros Bersonél a Datblygu
  • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Hyfforddi Personol a Busnes
  • Baglor mewn Gwyddoniaeth (BSc Anrhydedd) Economeg Ddiwydiannol

Rolau eraill

Rolau eraill Erica:

  • Cyfarwyddwr Anweithredol - Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau
  • Mentor - Sefydliad Symudedd Cymdeithasol
  • Ymddiriedolwr - Self Management UK Limited

Cwrdd â’r Bwrdd

Aled Jones-Griffith
Aled Jones -Griffith

Mae Aled Jones-Griffith wedi bod yn Aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru ers Ionawr 2023.

Mae Aled wedi gweithio yn y sector addysg bellach ers pymtheng mlynedd. Bu'n gyfarwyddwr cyfadran yng Ngholeg Menai ac yn Bennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Yn 2018, penodwyd ef yn Bennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.

Cyn ei yrfa mewn addysg bellach, roedd Aled yn dal swyddi rheoli mewn amrywiaeth o sectorau. Yn eu plith roedd rôl Prif Weithredwr Canolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn am bedair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwn traddododd ddarlith i Gymdeithas y Smithsonian yn Washington DC ar Hanes yr Iaith Gymraeg. Gwasanaethodd hefyd fel aelod o Gyngor Cynulleidfa Cymru y BBC dros ddau dymor.

Yn ogystal â’i rôl fel Pennaeth, mae gan Aled gyfrifoldeb ar draws Grŵp Llandrillo Menai am Ddysgu Oedolion a Dysgu Cymunedol. Mae hefyd yn cynrychioli’r Grŵp ar Grŵp Rhanddeiliaid Sgiliau Ffilm a Theledu Cymru Greadigol a Grŵp Llywio’r Gogledd Greadigol.

Mae Aled yn frwd dros chwaraeon. Mae wedi dal rolau amrywiol yn ei glwb pêl-droed lleol. Mae'n mwynhau gweld pobl ifanc yn cyflawni eu potensial a'u nodau ym mhob agwedd o'u bywydau. Mae sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd a chefnogaeth i gyflawni llwyddiant yn flaenoriaeth iddo.

Pan ofynnwyd iddo beth fyddai Aled yn hoffi i Gyrfa Cymru ei gyflawni, dywedodd:

Sicrhau bod pawb sy’n gadael yr ysgol yn cael mynediad i ac yn cael y cyfle i gael sgyrsiau diduedd am addysg bellach neu ddewisiadau gyrfa yn y dyfodol a bod oedolion yn gallu cael mynediad i gyngor ac arweiniad diduedd tebyg trwy Cymru’n Gweithio."

Andrew Clark
Llun pen ac ysgwydd o Andrew Clark  aelod o Bwrdd Gyrfa Cymru

Mae Andrew Clark wedi bod yn aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru ers Awst 2021.

Cyfrifydd Siartredig yw Andrew Clark ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio ar lefel bwrdd.

Mae ganddo hefyd brofiad o bolisi cyhoeddus a chyflawni gweithredol yn ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau oedolion yng Nghymru.

Pan ofynnwyd iddo beth fyddai Andrew yn hoffi i Gyrfa Cymru ei gyflawni, dywedodd:

Darparu cyngor gyrfaol cyfredol a pherthnasol i unrhyw un yng Nghymru sydd angen y cymorth hwnnw."

Cymwysterau

Cymwysterau Andrew Clark yw:

  • Cymrawd Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr

Rolau eraill

Rolau eraill Andrew Clark:

  • Aelod annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Archwilio Cymru
  • Llywodraethwr Coleg Gwent
  • Aelod o fwrdd strategaeth ICAEW ar gyfer Cymru
Azza Ali
Azza Ali

Mae Azza Ali wedi bod yn aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru ers Mehefin 2024.

Mae Azza Ali yn dod â bron i ddau ddegawd o brofiad arwain mewn gwasanaethau cwsmeriaid a rheoli tîm, yn enwedig mewn amrywiaeth a chynhwysiant. Mae ei gyrfa yn rhychwantu rolau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. 

Trwy ei rolau amrywiol, mae Azza wedi dangos ei gallu i lywio amgylcheddau cymhleth a sbarduno newid ystyrlon.

Ar hyn o bryd, mae’n Gydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Heddlu De Cymru, lle mae’n datblygu ac yn cynghori ar bolisïau i gefnogi’r sefydliad i ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona.

Mae Azza yn eiriolwr amrywiaeth gweithgar, ar ôl sefydlu pwyllgor Amrywiaeth a Chynhwysiant cyntaf Legal & General a gweithio gydag OXFAM CYMRU a Busnes yn y Gymuned. Mae hi wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniadau gydag enwebiadau ar gyfer rhestr Arweinwyr y Dyfodol Lleiafrifoedd Ethnig EMpower a gwobrau amrywiaeth amrywiol.

Cymwysterau

Dyma gymwysterau Azza:

  • Ymarferydd Rheoli Newid Ebrill 2023
  • Diploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Hyfforddiant TSW (Tachwedd 2021)
  • Cymwysterau Cyfathrebu ac Atebion y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • Cymwysterau Gweinyddu Buddsoddiadau
  • MBA, Prifysgol Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd
  • BSc Anrhydedd mewn Peirianneg Amaethyddol, Prifysgol Khartoum

Rolau eraill

Mae Azza wedi bod yn Gydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn Heddlu De Cymru ers mis Awst 2023. Yn y rôl hon, mae Azza yn datblygu ac yn hyrwyddo polisïau i wella darpariaeth gwasanaethau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Bu Azza yn gweithio fel Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant gyda Gyrfa Cymru rhwng Mai 2022 a Gorffennaf 2023. Rhoddodd arweiniad ac eiriolaeth, gan rymuso unigolion yn eu penderfyniadau gyrfa.

Cyn hyn, bu Azza yn gweithio i Legal and General fel Rheolydd Gwasanaethau Buddsoddiadau. Hi fu'n rheoli timau, gan ysgogi gwelliannau i brosesau a datblygiad gweithwyr.

David Matthews

Mae David Matthews wedi bod yn aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru ers mis Mawrth 2021.

Helen White
Llun pen ac ysgwydd o Helen White aelod o Bwrdd Gyrfa Cymru

Mae Helen White wedi bod yn aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru ers Ebrill 2021.

Mae’n Brif Weithredwr Cymdeithas Tai Taf ac mae ganddi gefndir cryf ym maes tai.

Arbenigedd Helen yw arweinyddiaeth strategol ar lefelau gweithredol ac anweithredol, yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Mae ganddi hefyd brofiad eang o fod yn aelod o fwrdd gydag amrywiaeth o sefydliadau a chwmnïau. Mae Helen yn rhugl yn y Cymraeg.

Pan ofynnwyd iddi beth fyddai Helen yn hoffi i Gyrfa Cymru ei gyflawni, dywedodd:

Cefnogi pobl ledled Cymru i gyflawni eu huchelgeisiau."

Cymwysterau

Cymwysterau Helen White yw:

  • Baglor yn y Celfyddydau (BA)
  • Aelod o'r Sefydliad Tai Siartredig (DU)

Rolau eraill 

Rolau eraill Helen White:

  • Prif Weithredwr Tai Taf
  • Aelod o Fwrdd TPAS Cymru
  • Aelod o Fwrdd Tec Quality
  • Aelod o Fwrdd CGGC
Joni Ayn Alexander
Joni Ayn Alexander

Mae Joni Ayn Alexander wedi bod yn Aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru ers Ionawr 2023.

Joni yw'r cyfarwyddwr cynorthwyol ar gyfer aelodaeth yn Advance HE. Mae Advance HE yn elusen fyd-eang sydd wedi'i lleoli yn y DU sy'n cefnogi addysg uwch i fod y gorau y gall fod. Mae ganddi gefndir cryf mewn addysg drydyddol a'r cyfryngau.

Mae sgiliau Joni yn cynnwys arwain newid strategol a chyfathrebu mewn rolau gweithredol ac anweithredol. Mae ganddi brofiad amrywiol o weithio ar lefel bwrdd.

Mae Joni'n canolbwyntio ar ddatblygu pobl a sefydliadau sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Dyma'i denodd hi i Gyrfa Cymru.

Pan ofynnwyd beth fyddai Joni yn hoffi i Gyrfa Cymru ei gyflawni, dywedodd:

Trwy gefnogaeth gynhwysol ac arloesol, rydw i eisiau gweld Gyrfa Cymru ar y cyd yn codi uchelgeisiau, galluoedd a chyfleoedd i bobl Cymru.”

Cymwysterau

Mae cymwysterau Joni yn cynnwys:

  • Baglor yn y Celfyddydau mewn Newyddiaduraeth
  • Meistr yn y Celfyddydau mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol
  • Aelod o'r Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus
Dr Kate Daubney
Dr Kate Daubney

Mae Dr Kate Daubney wedi bod yn Aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru ers Rhagfyr 2022. Mae Dr Kate Daubney wedi gweithio ym myd addysg am 30 mlynedd. Roedd hyn yn cynnwys 20 mlynedd mewn addysg gyrfaoedd a datblygu cyflogadwyedd. Yn y rôl hon bu'n cefnogi pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion i ddod o hyd i'w nodau a'u cyrraedd nhw.

Mae ei hymchwil a'i hymarfer yn canolbwyntio ar sut mae unigolion yn gwneud cynnydd ar eu teithiau gyrfa.

Mae arbenigedd Kate mewn dau faes allweddol sy'n berthnasol iawn i gleientiaid Gyrfa Cymru:

  • Wneud cynnydd ar eu teithiau gyrfa?
  • Nodi a mynegi gwerth popeth y maent yn ei ddysgu ac yn ei wneud i'w galluogi i gael mynediad at y swyddi a'r gyrfaoedd y maent eu heisiau?

Mae hi wedi datblygu dull o ddisgrifio’r sgiliau trosglwyddadwy a ddatblygwyd yn y cwricwlwm cyn-18 ac ôl-18 sy’n helpu i gau’r bwlch rhwng addysg a gwaith.

Mae Kate yn cynghori nifer o brifysgolion yn y DU ac yn rhyngwladol ar sut i roi’r dull hwn ar waith.

Mae Kate wedi bod yn bennaeth ar ddau wasanaeth gyrfaoedd prifysgol yn y DU. Ar hyn o bryd hi yw Cyfarwyddwr Ffederasiwn Grŵp Gyrfaoedd gwasanaethau gyrfaoedd y brifysgol.

Mae'n rhedwr brwd ac fe wnaeth gymryd rhan yn Hanner Marathon Y Rhyl yn 2022. Mae hi'n mwynhau cerdded ar hyd arfordir Gogledd Cymru a darllen.

Pan ofynnwyd iddi beth fyddai Kate yn hoffi i Gyrfa Cymru ei gyflawni, dywedodd:

Rwy’n gyffrous iawn ynghylch sut y gall Gyrfa Cymru weithio gyda’r fframwaith yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae thema drawsbynciol Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith ac iaith glir sgiliau trosglwyddadwy yn y Pedwar Diben yn cynnig cyfleoedd sylweddol i alluogi pobl ifanc i archwilio a chyflawni eu nodau."

Cymwysterau

Cymwysterau Kate yw:

  • Baglor mewn Gwyddoniaeth (BSc Anrhydedd) Mathemateg a Cherddoriaeth
  • Meistr yn y Celfyddydau mewn Cymdeithaseg Diwylliant Cyfoes
  • Doethuriaeth mewn Athroniaeth (PhD) mewn Cerddoriaeth
  • Tystysgrif Ôl-raddedig (PGCert) mewn Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch
  • Tystysgrif Ôl-raddedig (PGCert) mewn Addysg Ddigidol

Rolau eraill

Rolau eraill Kate:

  • Cymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau
  • Prif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch
  • Ymgynghorydd Gyrfa a Chyflogadwyedd llawrydd
Natalie Richards

Mae Natalie Richards wedi bod yn aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru ers Mehefin 2024.

Ar hyn o bryd mae Natalie yn Bennaeth ysgol Uwchradd fawr. Cyn hynny bu’n gweithio fel Uwch Arweinydd sy'n gwasanaethu ar draws dwy Ysgol yn Nhrelái, yng Nghaerdydd, rhwng 2016 a 2022. Mae Natalie hefyd wedi bod yn Athrawes Ddrama.

Pan ofynnwyd iddi beth fyddai Natalie yn hoffi i Gyrfa Cymru ei gyflawni, dywedodd:

Rwyf am i Gyrfa Cymru ddod ag uchelgais a ffyniant i bawb, waeth beth fo'u hoedran, ethnigrwydd neu gefndir cymdeithasol."

Cymwysterau

Cymwysterau Natalie yw:

  • BA Anrhydedd Drama Theatr a'r Cyfryngau
  • TAR Drama gyda Saesneg
  • MA Addysg – Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • NPQH
Richard Thomas
Richard Thomas

Mae Richard Thomas wedi bod yn aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru ers mis Chwefror 2020 ac mae hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.

Yn dilyn deng mlynedd yn gweithio fel peiriannydd a rheolwr ym maes gweithgynhyrchu, ymgymerodd Richard â gyrfa mewn addysg ac mae wedi gweithio mewn nifer o brifysgolion a cholegau yng Nghymru a Lloegr, mewn rolau sy’n amrywio o Ddarlithydd i Is-Ganghellor Cynorthwyol.

Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y berthynas rhwng sefydliadau addysgol a chyflogwyr, addysg STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), goblygiadau gyrfa a sgiliau Diwydiant 4.0 ac yn y rôl y mae addysg yn ei chwarae ym maes datblygu economaidd.

Pan ofynnwyd iddo beth fyddai Richard yn hoffi i Gyrfa Cymru ei gyflawni, dywedodd:

Hoffwn i Gyrfa Cymru ddarparu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer arweiniad gyrfaoedd i bobl Cymru - p'un a ydyn nhw’n ifanc neu'n hŷn, p'un a nhw eto i ddechrau gweithio neu'n symud i gyfnod gwahanol o'u bywyd gwaith - gydag effaith gadarnhaol ar fywydau unigolion ac economi Cymru gyfan."

Cymwysterau

Cymwysterau Richard Thomas yw:

  • Baglor yn y Celfyddydau (BA)
  • Baglor mewn Peirianneg (BEng)
  • Athro mewn Gwyddoniaeth (MSc)
Rokib Uddin
Rokib Uddin

Mae Rokib Uddin wedi bod yn aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru ers Mehefin 2024.

Mae Rokib yn Syrfëwr Siartredig sydd â phrofiad amrywiol mewn eiddo masnachol.

Ar hyn o bryd mae'n Uwch Reolydd Masnachol gyda Coastal Housing Group.

Pan ofynnwyd iddo beth fyddai Rokib yn hoffi i Gyrfa Cymru ei gyflawni, dywedodd:

Sicrhau bod cwsmeriaid o grwpiau cymunedol anodd eu cyrraedd yn ymwybodol o'r cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt."

Cymwysterau

Cymwysterau Rokib yw:

  • LLB (Anrh) y Gyfraith
  • Aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfëydd Siartredig
Tony Smith
Tony Smith

Mae Tony Smith wedi bod yn aelod o Fwrdd Gyrfa Cymru ers Medi 2021.

Mae Tony yn gyfrifydd cymwysedig ac yn y gorffennol bu mewn nifer o swyddi uwch ym maes cyllid, risg ac archwilio gan ddarparu cydymffurfiaeth fasnachol, ariannol a rheoleiddiol ar draws gwasanaethau manwerthu ac ariannol.

Ar hyn o bryd mae’n Brif Swyddog Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu'r Principality ac mae'n aelod o'r tîm Gweithredol yno.

Pan ofynnwyd iddo beth fyddai Tony yn hoffi i Gyrfa Cymru ei gyflawni, dywedodd:

Cael y rhai sydd eisiau gweithio i mewn i waith."

Cymwysterau

Cymwysterau Tony Smith yw:

  • LLB (Anrhydedd)
  • ACMA
  • GCMA
Rhian Roberts
Rhian Roberts

Daeth Rhian Roberts yn aelod Cyfetholedig ym mis Mehefin 2024 ac yna'n aelod llawn o’r Fwrdd Gyrfa Cymru ym mis Ngorffennaf 2024.

Mae Rhian wedi bod yn gweithio ym maes Adnoddau Dynol (AD) ers dros 23 mlynedd ac mae ganddi brofiad o ddarparu arweinyddiaeth AD yn y sectorau preifat, cyhoeddus a dielw. Mae hi wedi gweithio'n llwyddiannus gydag uwch arweinwyr i sicrhau bod yr agenda pobl yn flaenoriaeth allweddol mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

Mae gan Rhain brofiad o lunio, arwain a gweithredu strategaethau pobl a rhaglenni gwella yn unol ag amcanion sefydliadol.

Pan ofynnwyd iddi beth fyddai Rhian yn hoffi i Gyrfa Cymru ei gyflawni, dywedodd:

Annog a chefnogi pobl i archwilio cyfleoedd dysgu a chyflogaeth. Eu herio o ran tybiaethau anghywir a ganfyddir weithiau ganddynt am eu potensial personol"

Cymwysterau

Cymwysterau Rhian yw:

  • MSc Rheoli Adnoddau Dynol
  • BA (Anrh) Hanes a Chymdeithaseg
  • Aelod Siartredig o'r Sefydliad Personél a Datblygu