Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Amcanion Cydraddoldeb Strategol

Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff rhestredig adolygu eu hamcanion cydraddoldeb presennol o leiaf unwaith bob pedair blynedd.

Yn unol ag argymhellion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Llywodraeth Cymru, mae'r ddyletswydd yn cynrychioli cyfle i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru weithio gyda'i gilydd i nodi a sicrhau eu bod yn cael dylanwad ar y cyd dros yr heriau a nodwyd yn yr adroddiad 'A yw Cymru'n decach?', 2018.

Mae Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru yn cynrychioli grŵp o gyrff cyhoeddus sydd wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i uno y tu ôl i amcanion cydraddoldeb ar y cyd. Mae'r dull hwn o weithredu yn hyrwyddo gweithio doethach ac yn creu cyfleoedd i ymgysylltu ar y cyd, dysgu a chydweithio pellach gan hyrwyddo effaith ehangach ar draws y sector cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan gyfrannu'n sylweddol at gydraddoldeb.

Emma Tobutt,
Cadeirydd – Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus Cymru

Partneriaeth Cydraddoldeb Cyrff Cyhoeddus yng Nghymru - Amcanion Hirdymor

1. Cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu
  • Nod 1 - Dileu anghydraddoldeb sy'n deillio o dlodi
  • Nod 2 - Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru
  • Nod 4 - Bydd Cymru yn arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywedd
  • Nod 5 - Dileu difrïo, aflonyddwch, troseddau casineb a bwlio sy'n seiliedig ar hunaniaeth
  • Nod 7 - Gall pawb yng Nghymru gyfranogi mewn bywyd gwleidyddol, cyhoeddus a bywyd bob dydd
  • Nod 8 - Bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy'n dangos esiampl
2. Dileu bylchau cyflog

3. Ymgysylltu â’r gymuned
  • Nod 1 - Dileu anghydraddoldeb sy'n deillio o dlodi
  • Nod 2 - Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru
  • Nod 3 - Bydd anghenion a hawliau pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig yn flaenllaw yn y broses o gynllunio a darparu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru
  • Nod 4 - Bydd Cymru yn arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywedd
  • Nod 5 - Dileu difrïo, aflonyddwch, troseddau casineb a bwlio sy'n seiliedig ar hunaniaeth
  • Nod 6 - Cymru o gymunedau cydlynus sy'n gydnerth, yn deg ac yn gyfartall
  • Nod 7 - Gall pawb yng Nghymru gyfranogi mewn bywyd gwleidyddol, cyhoeddus a bywyd bob dydd
  • Aim 8 - Bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy'n dangos esiampl
4. Sicrhau bod cydraddoldeb yn rhan o’r broses gaffael / comisiynu ac yn cael ei reoli drwy’r broses ddarparu drwyddi draw
  • Nod 1 - Dileu anghydraddoldeb sy'n deillio o dlodi
  • Nod 2 - Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru
  • Nod 4 - Bydd Cymru yn arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywedd
  • Nod 5 - Dileu difrïo, aflonyddwch, troseddau casineb a bwlio sy'n seiliedig ar hunaniaeth
  • Nod 8 - Bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy'n dangos esiampl
5. Sicrhau bod gwasanaethau yn adlewyrchu anghenion unigol
  • Nod 1 - Dileu anghydraddoldeb sy'n deillio o dlodi
  • Nod 2 - Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru
  • Nod 3 - Bydd anghenion a hawliau pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig yn flaenllaw yn y broses o gynllunio a darparu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru
  • Nod 4 - Bydd Cymru yn arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywedd
  • Nod 5 - Dileu difrïo, aflonyddwch, troseddau casineb a bwlio sy'n seiliedig ar hunaniaeth
  • Nod 6 - Cymru o gymunedau cydlynus sy'n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal
  • Nod 8 - Bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy'n dangos esiampl

Cynllun Cydraddoldeb Strategol - Canlyniadau a Mesuriadau Canlyniadau

1. Cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu

Cydamcan hirdymor

Bydd ein sefydliad yn adlewyrchu amgylchedd teg a chynhwysol, ble gall pawb deimlo’n werthfawr a chael yr un cyfleoedd i wireddu eu potensial yn y sefydliad.

Canlyniad arfaethedig erbyn 2024

  • Erbyn 2022, byddwn wedi cydweddu y modd y byddwn yn  adrodd ar ein data cyflogaeth i gyd-fynd â dull Llywodraeth Cymru o ran fformat a dyddiadau adrodd
  • Erbyn 2024 bydd gennym dystiolaeth o sut yr ydym yn estyn allan i grwpiau lleiafrifol a’r rhai hynny sy’n byw mewn tlodi er mwyn dod i weithio gyda ni

Mesuriad canlyniad

  • Data cyflogaeth
  • Data proffil ymgysylltu

Camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd y canlyniad arfaethedig

  • Safoni prosesau casglu data i alluogi meincnodi i sicrhau cysondeb wrth ddadansoddi ac adrodd ar ddata
  • Dileu rhwystrau a gwella polisïau, gweithdrefnau ac arferion recriwtio a dethol drwy lens cydraddoldeb
  • Sicrhau bod gwerthoedd ac ymddygiad yn hyrwyddo amgylchedd teg, cyfartal a chynhwysol drwy'r sefydliad
  • Datblygu mentrau ar y cyd i dargedu grwpiau heb gynrychiolaeth i gynyddu cyflogadwyedd e.e. profiad gwaith, cyfleoedd mentora, prentisiaeth, academi, interniaethau
2. Dileu bylchau cyflog

Cydamcan hirdymor

Datgelu gwybodaeth yn rhan o ddiwylliant y sefydliad, staff yn deall pam bod data yn cael ei gasglu, sicrhau mai dim ond data sydd ei angen sydd yn cael ei goladu (GDPR).

Canlyniad arfaethedig erbyn 2024

  • Data cywir ar draws y sector cyhoeddus yn darparu dadansoddiad ar draws nodweddion gwarchodedig

Mesuriad canlyniad

  • Data proffil cyflogaeth
  • Methodoleg a dadansoddi bylchau cyflog
  • Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol
  • Gwybodaeth ynghylch niferoedd staff ar wahanol batrymau gwaith ar wahanol lefelau

Camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd y canlyniad arfaethedig

  • Rhannu a safoni systemau ar gyfer coladu a dadansoddi data ar draws y cyrff, cefnogi staff i ddatgelu gwybodaeth
  • Cytuno ar fethodoleg safonol ar gyfer diffinio a choladu bylchau cyflog, dehongli / cyfathrebu
  • Methodoleg talgrynnu safonol
  • Rhannu strategaethau ar gyfer cynllunio'r gweithlu
  • Cydweithio i greu cyfleoedd datblygu'r gweithlu
  • Hyfforddiant rheoli ac arwain ar y cyd (Grŵp AD)
  • Rhannu arferion patrymau gwaith a ffyrdd o weithio
3. Ymgysylltu â’r gymuned

Cydamcan hirdymor

Byddwn yn ymgysylltu’n weithredol gyda chymunedau amrywiol ledled Cymru yng ngwaith ein sefydliadau. Bydd strategaethau, polisïau a phenderfyniadau yn cael eu cydgynhyrchu gydag unigolion amrywiol. Bydd profiadau a safbwyntiau pobl yn siapio ein sefydliadau.

Canlyniad arfaethedig erbyn 2024

  • Erbyn 2024 byddwn yn gallu dangos a darparu tystiolaeth o gydgynhyrchu ein strategaethau, polisïau, newidiadau gwasanaeth a’n penderfyniadau

Mesuriad canlyniad

  • Data proffil ymgysylltu
  • Ymgysylltu a chyfranogi - data nodweddion gwarchodedig yn cael ei gynhyrchu / gyhoeddi, gan gynnwys tystiolaeth atodol fel arolygon, astudiaethau achos fel y bo'n briodol

Camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd y canlyniad arfaethedig

  • Cynnig digwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu ar y cyd
  • Ymgysylltu'n uniongyrchol â chymunedau amrywiol i alluogi cynrychiolaeth mewn digwyddiadau ar y cyd
  • Byddwn yn nodi cyfraniadau o'r ymgysylltu a'r cydgynhyrchu yn benodol yn ein strategaethau, ein polisïau a'n penderfyniadau. (fe ddywedoch wrthym – fe wnaethom ni)
4. Sicrhau bod cydraddoldeb yn rhan o’r broses gaffael / comisiynu ac yn cael ei reoli drwy’r broses ddarparu drwyddi draw

Cydamcan hirdymor

Mae cydraddoldeb wedi'i ymgorffori yn yr egwyddorion caffael sy'n weithredol ac y mae tystiolaeth ohonynt.

Canlyniad arfaethedig erbyn 2024

  • Mae egwyddorion ar waith gyda pholisïau sefydliadol wedi'u diweddaru
  • Bydd data caffael ar waith ac yn dangos tystiolaeth o amrywiaeth wrth gaffael

Mesuriad canlyniad

  • Cyhoeddi egwyddorion caffael cytunedig a data caffael

Camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd y canlyniad arfaethedig

  • Cytuno ar gyfres o egwyddorion caffael i sefydliadau ymrwymo iddynt
  • Adolygu polisïau sefydliadol i adlewyrchu egwyddorion
  • Cydweithio i hyfforddi a chefnogi staff i gyflawni'r egwyddorion
  • Rhannu arferion
5. Sicrhau bod gwasanaethau yn adlewyrchu anghenion unigol

Cydamcan hirdymor

Pobl ac arferion da a rennir yn dylanwadu’n weithredol ar ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigol.

Canlyniad arfaethedig erbyn 2024

  • Erbyn 2024, byddwn yn gallu tystio i systemau gweithredol a ffyrdd o weithio sy'n sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu deall a'u parchu wrth ddefnyddio a derbyn gwasanaethau
  • Erbyn 2024 bydd gennym systemau cydweithredol ar waith er mwyn cydgynhyrchu
  • Fframwaith ar gyfer mabwysiadu a rhannu arferion da

Mesuriad canlyniad

  • Byddwn yn monitro cwynion, pryderon ac adborth gan bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau i adnabod meysydd i'w gwella ac yn adrodd ar hyn
  • Arolygon
  • Holiaduron
  • Taith y Dinesydd
  • Tystiolaeth cydgynhyrchu

Camau y byddwn yn eu cymryd i gyrraedd y canlyniad arfaethedig

  • Rhannu enghreifftiau o newidiadau cadarnhaol i wasanaethau a’r hyn a ddysgwyd, gan ddangos urddas, parch a dealltwriaeth o anghenion cyfathrebu a mynediad
  • Sicrhau bod mecanwaith ar y cyd ar gyfer cydgynhyrchu
  • Sicrhau bod fframwaith ar waith i gofnodi enghreifftiau o rannu a mabwysiadu arferion da
  • Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth cydweithredol ar ddeall defnyddwyr gwasanaethau

Gweithredu’r pum ffordd o weithio - Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

Atal

Mae’r amcanion wedi’u llunio ar sail ein dealltwriaeth o wybodaeth ar anghydraddoldeb a welwyd drwy ‘A yw Cymru’n Decach?’ - Cyflwr cydraddoldeb a hawliau dynol, sef adolygiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn 2019, a gwybodaeth a gymerwyd gan ein sefydliadau ar y cyd. Roedd y broses ymgynghori yn cynnwys ymgysylltu â phobl o ystod o gymunedau a chefndiroedd gwahanol.

Hirdymor

Cydnabyddir yr amcanion lefel uchel fel amcanion hirdymor a fydd yn bodoli y tu hwnt i gylch pedair blynedd y CCS, bydd sefydliadau sy'n uno gyda'i gilydd y tu ôl i'r amcanion yn cael mwy o effaith ar genedlaethau'r dyfodol wrth fwynhau cymdeithas decach a Chymru mwy cyfartal.

Cydweithio

Bydd Cyrff Cyhoeddus yn uno y tu ôl i amcanion a rennir ac maent wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i gyflawni'r amcanion. Mae’r cyrff partner wedi llofnodi ‘memorandwm cyd-ddealltwriaeth’ sy’n amlinellu eu hymrwymiad i weithio ar y cyd.

Integreiddio

Mae'r amcanion lefel uchel wedi'u llywio trwy fewnwelediad, maent yn cyd-fynd â nodau cydraddoldeb hirdymor Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu at Gymru fwy cyfartal (DLlCD) a chymdeithas decach (Deddf Cydraddoldeb, 2010). Mae gweithredu’r pum ffordd o weithio wedi ategu’r broses o integreiddio ar draws y dyletswyddau. Bydd pob un o’r cyrff partner yn integreiddio’r cydamcanion yn eu strategaethau a’u gwaith cynllunio.

Cynnwys

Mae rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi cymryd rhan yn natblygiad amcanion. Drwy wireddu’r amcanion mae’r bartneriaeth wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl a chymunedau wrth gynllunio gwasanaethau a fydd yn sicrhau canlyniadau cyfartal a gwasanaethau sy’n diwallu anghenion pobl.