Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Ein Hadroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau

Dyddiad y ciplun – 31 Mawrth 2021.

Mae’r adroddiad hwn wedi’i baratoi yn seiliedig ar y gweithlu ar 31 Mawrth 2021 a’r cyfnod cymharydd uniongyrchol yw 31 Mawrth 2020. Gallwn gadarnhau bod y data ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau sydd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn yn gywir ac yn unol â’r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg. Nid diben y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw tynnu sylw at yr anghydbwysedd rhwng cyflog cyfartal am rolau cyfwerth ond cymharu’r gwahaniaeth rhwng dynion a menywod o fewn ein strwythur graddau cyflog mewnol. Mae’r adroddiad hwn yn nodi ers dyddiad yr adroddiad diwethaf bod ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi codi o 2.3% i 2.9%. Fel sefydliad rydym yn fach bod ein ffigurau yn llawer is na chyfartaledd y DU gyfan o 13.1 yn 2020/21 ond yn cydnabod bod angen i ni wneud cynnydd pellach i leihau’r bwlch.

Mae esboniad clir am y newid yn y bwlch cyflog y gellir ei weld yn ffigurau’r chwartel. Cyfanswm y bobl a gyflogwyd ym mis Mawrth 2021 oedd 620, y gymhareb staff menywod i ddynion oedd 75:25. Fodd bynnag, wrth adolygu cymarebau’r chwartel menywod sydd yn yr 67.1% o swyddi sy’n talu fwyaf, menywod sydd yn 76.28 o’r swyddi sy’n talu isaf a 80% o’r swyddi sy’n talu isaf i ganolig. Hyd nes y bydd y cymarebau hyn yn adlewyrchu’r rhaniad yn y gweithle bydd gennym wastad anghydbwysedd tâl cymedrig. Fel sefydliad rydym yn penodi ar sail teilyngdod ac mae’n ffocws ar addasrwydd a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl. Rydym yn sicrhau bod ein prosesau recriwtio yn cael gwared ar duedd annheg drwy sicrhau bod pob ffurflen gais yn ddienw wrth eu hasesu ac rydym yn defnyddio cyfweliadau strwythuredig a chanolfannau asesu sgiliau lle’n briodol. Yn ystod ein proses recriwtio rydym yn cydnabod anghenion amrywiol yr aelodau amrywiol o’n gweithlu, a’n hegwyddorion sylfaenol yw sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hymwreiddio drwy Gyrfa Cymru.

Heriau’r Gweithlu yn y cyfnod hwn

O’i gymharu â gweithlu 2020 rydym yn nodi gostyngiad bach mewn niferoedd staffio, un ar ddeg yn llai na’r adroddiad blaenorol (saith menyw a phedwar dyn). Y prif wahaniaeth rhwng y ddwy flynedd adrodd yw nifer y staff ar radd tri neu radd pedwar. Gadawodd nifer y gwaith ar radd tri ac mae’r cynghorwyr gyrfa dan hyfforddiant, a ddechreuodd ar radd tri bellach wedi cymhwyso ac wedi ymuno ar y raddfa band is ar radd 5. Gan fod staff ar radd 4 yn symud ymlaen drwy’r bandiau cyflog, bydd hyn yn helpu i leihau’r band cyflog presennol yn y blynyddoedd nesaf, mae 117 o fenywod a fydd yn camu ymlaen drwy’r bandiau o’i gymharu â 24 o ddynion. Mae’r lefelau staffio yn y graddau cyflog eraill wedi parhau’n sefydlog. Mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y staff rheoli ar radd 6-10. Cynnydd o 79 i 86 yn cynrychioli 13.8% o’r gweithlu (pedair menyw a thri dyn ychwanegol).

Bwlch Cyflog Cymedrig

Cyfrifir y bwlch cyflog cymedrig drwy adio cyflog yr awr pob menyw mewn sefydliad a’i rannu gyda nifer y menywod, gan wneud yr un sỳm ar gyfer dynion, yna cymharu’r ddau ffigur. Er bod dynion ond yn cynrychioli 25% o’r gweithlu, mae eu cyflog cymedrig yn 2.9% yn uwch na menywod. Y prif reswm am y bwlch hwn yw bod y graddau cyflog uwch (6-10) yn cynnwys 33% o ddynion o’i gymharu â’r gymhareb dynion i fenywod gyffredinol o 25%.

Tabl yn dangos canran yn ôl rhywedd ym mhob Gradd Gyflog Mawrth 2020 o’i gymharu â Mawrth 2021:
Gradd % Menywod 2020 % Menywod 2021 %Dynion 2020 %Dynion 2021
1 83.8 86.1 16.2 13.9
2 75.5 77.7 24.5 22.2
3 74.7 70.0 25.3 30.0
4 76.8 77.5 23.2 22.5
5 65.7 66.7 34.3 33.3
6 55.3 54.9 44.7 45.1
7 86.4 83.3 13.6 16.6
8 50.0 50.0 50.0 50.0
9 100.0 100.0 0.0 0.0
10 100.0 100.0 0.0 0.0

 

Bwlch Cyflog Canolrifol

Cyfrifir y bwlch cyflog canolrif drwy ganfod yr union bwynt canolig rhwng y fenyw sy’n cael ei thalu isaf ac uchaf mewn sefydliad a’r dyn sy’n cael ei dalu isaf ac uchaf, yna cymharu’r ddau ffigur i gyfrifo’r gwahaniaeth mewn cyflogau. Rydym yn adrodd gwahaniaeth o 0% yn y bwlch cyflog canolrif. Er bod annhebygolrwydd ystadegol o hyn yn digwydd mae esboniad clir am y canlyniad hwn. O’r strwythur graddio a nodir yn y tabl (tabl yn dangos dadansoddiad o Radd a Rhywedd 31/03/2021), mae 58.7% o’r menywod ar y staff a 50.6% o’r dynion ar y staff yn cael eu cyflogi ar radd 4. Mae ein darpariaeth gwasanaeth craidd yn cynnwys darparu cyngor a chyfarwyddyd gyrfa felly mae canran uchaf ein staff yn seiliedig ar rôl yn gynghorwyr gyrfa ar y radd hon. Rhennir y raddfa gyflog yn 4 band cyflog (cynnydd drwy’r bandiau yn ôl nifer y blynyddoedd o wasanaeth, gan gyrraedd y band uchaf yn y bedwaredd flwyddyn o wasanaeth). O 31 Mawrth 2021 - cyrhaeddodd 77.7% o fenywod a 82.2% o ddynion yn y garfan gyflog gradd 4 frig y band graddfa gyflog, felly mae’r aelod staff canolrif ar gyfer dynion a menywod yn perthyn i’r raddfa gyflog hon ac mae’r naill a’r llall wedi cyrraedd brig eu band cyflog.

Tabl yn dangos dadansoddiad o Radd a Rhywedd 31/03/2021:
Gradd Nifer y menywod 2020 Nifer y menywod 2021 Nifer y dynion 2020 Nifer y dynion 2021
1 31 31 6 5
2 37 42 12 12
3 71 42 24 18
4 258 272 78 79
5 23 22 12 11
6 26 28 21 23
7 19 20 3 4
8 4 4 4 4
9 1 2 0 0
10 1 1 0 0

 

Chwarteli Cyflog

Yn hanesyddol, mae darpariaeth cyngor gyrfaoedd wedi’i ddominyddu gan fenywod, a bydd yn cymryd cryn amser i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd hyn. Nid yw’r ganran uchel o fenywod i ddynion yn golygu na allwn sicrhau cydraddoldeb o ran cyflogau, yr allwedd i sicrhau tir gwastad yw’r gyfran o staff ar sail cymhareb chwartel i chwartel. Mae’r gymhareb menywod i ddynion yn y cwmni yn 75:25 yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, menywod sydd yn 67.1% o’r swyddi sy’n talu uchaf yn y sefydliad, menywod sydd yn 76.28 o’r swyddi sy’n talu isaf a 80% yn y swyddi cyflog isaf i ganolig.

Tabl yn dangos Chwarteli Tâl Mawrth 2020 o’i gymharu â Mawrth 2021:
  Menywod 2020 Dynion 2020 Menywod 2021 Dynion 2021
Uwch 68.18 31.82 67.1 32.9
Canol uwch 78.06 21.94 76.13 23.87
Canol is 73.55 26.45 80.0 20.0
Chwartel is 77.42 22.58 76.28 23.72