Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Llythyr Cylch Gwaith

Vaughan Gething AS/MS
Gweinidog yr Economi
Minister for Economy

Erica Cassin, Cadeirydd
Nikki Lawrence, Prif Weithredwr
Careers Choices/ Dewis Gyrfa (CCDG)
ericajthomas75@hotmail.com
nikki.lawrence@gyrfacymru.llyw.cymru

1 Ebrill 2022

Annwyl Erica a Nikki

Llythyr Cylch Gwaith Careers Choices/Dewis Gyrfa (CCDG) grant craidd

Yn unol â chanllawiau gan Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, rwy’n ysgrifennu ynghylch eich Strategaeth Dyfodol Disglair ar gyfer y cyfnod 2022-2026 a’r cynllun gweithredu dilynol sydd ei angen ar gyfer 2022-2023. Mae’r llythyr hwn yn arwain eich blaenoriaethau grant craidd ar gyfer eich gwaith mewn lleoliadau addysgol a phobl ifanc hyd at 18 oed. Bydd trefniadau ariannu Cymru'n Gweithio yn cael eu cyhoeddi ar wahân.

Hoffwn ddiolch i chi ac i’r Bwrdd am eich arweiniad, ac i staff CCDG am y proffesiynoldeb, yr ymroddiad a’r gwydnwch a ddangoswyd yn ystod pandemig Covid. Mae’r angen am gymorth gyrfaoedd proffesiynol, diduedd yn fwy nag erioed felly edrychaf ymlaen at dderbyn adroddiadau chwarterol rheolaidd ar y cynnydd a’r cyflawniadau yn erbyn yr uchelgeisiau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun gweithredol sy’n gysylltiedig â’r “Strategaeth Dyfodol Disglair”.

Amcanion Strategol (Grant Craidd – i ariannu gwaith mewn lleoliadau Addysgol a phobl ifanc hyd at 18 oed)

Cafodd agenda strategol Llywodraeth Cymru ei nodi yn y Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, ac fe’i diweddarwyd ym mis Rhagfyr 2021, i adlewyrchu’r Cytundeb Cydweithredu gyda Phlaid Cymru.

O fewn y Rhaglen Lywodraethu rydym wedi ymrwymo i greu Cymru gryfach, decach, wyrddach a mwy tosturiol. Mae egwyddorion cydweithio, cynhwysiant, gweithio ar y cyd a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd popeth a wnawn, yn ogystal â chydnabod a dathlu amrywiaeth safbwyntiau a phrofiadau ledled Cymru. Gyda’r egwyddorion arweiniol hyn, edrychaf ymlaen at ein gweld yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein harbenigedd a’n gallu ar y cyd yn cael eu defnyddio i wella bywydau pobl yng Nghymru, yn awr ac yn y dyfodol.

Rwy'n cydnabod bod gwaith CCDG, y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel Gyrfa Cymru, yn cyfrannu'n fawr at les economaidd a chymdeithasol Cymru. Mae Gyrfa Cymru yn gwneud cyfraniad pwysig at gyflawni’r dyheadau a nodir yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Mae'n bwysig eich bod yn parhau i gefnogi llawer o'i hamcanion lefel uchel, fel:

  • Cefnogi'r rhaglen hir dymor o ddiwygio addysg, gan gynnwys gweithredu'r Cwricwlwm i Gymru
  • Diwygio addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru a gwaith arfaethedig y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER)
  • Cefnogi uchelgeisiau’r Llywodraeth i adeiladu economi sy’n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol i ddarparu swyddi da, sgiliau perthnasol a chyfleoedd hyfforddi newydd
  • Helpu i gyflwyno’r Gwarant Person Ifanc (YPG) gyda’r nod o roi cymorth i bobl ifanc o dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, neu gymorth i gael gwaith neu hunangyflogaeth
  • Cefnogi uchelgeisiau'r Llywodraeth i greu 125,000 o brentisiaethau pob oed

Mae tri pholisïau strategol arall sy'n hanfodol i'ch trefniadau gwaith.

Dyma nhw:

  • Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’w holl Gyrff Cyhoeddus weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (pum ffordd o weithio) a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd disgwyl i chi ddangos sut mae Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn sail i'ch holl waith
  • Y Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau sydd newydd ei lansio i gyflawni Cymru decach, wyrddach gryfach sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer Cymru decach a mwy cyfartal. Bydd yn adeiladu ar y gwelliannau sylweddol yn y farchnad lafur a sgiliau yng Nghymru ers cyhoeddi’r cynllun diwethaf yn ystod 2018. Rwy’n disgwyl i Gyrfa Cymru chwarae rhan arwyddocaol yn y gwaith o gyflawni’r cynllun newydd hwn gan sbarduno eich gwasanaethau i helpu’r rhai sydd ei angen fwyaf
  • Rwy'n disgwyl i bob corff cyhoeddus chwarae rhan lawn yn ein hymgyrch tuag at Gymru sero net a rhoi ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net ar waith, sydd i’w gyhoeddi yn ystod hydref 2022. Byddwn yn disgwyl gweld Gyrfa Cymru yn addasu arferion ac ymddygiadau a fydd yn gosod y safon, yn gweithredu fel esiampl ac yn galluogi newid yn gadarnhaol i gyflawni cymdeithas sero net yng Nghymru

Cynllun Gweithredol 2022-2023

Rwy'n eich gwahodd i baratoi eich cynllun gweithredol ar gyfer 2022-23. Rhaid i'r cynllun gweithredol gynnwys digon o fanylion i roi sicrwydd wrth fodloni'r blaenoriaethau a nodir yn Atodiad 1. Hefyd, amlinelliad o ddangosyddion perfformiad allweddol a cherrig milltir cyflawni a fydd yn cael eu mesur yn erbyn cyflawni amcanion strategol lefel uchel ‘Dyfodol Disglair’ i:

  • Ddarparu gwasanaeth arweiniad a hyfforddiant gyrfaoedd dwyieithog, cynhwysol a diduedd i bobl hyd at 18 oed
  • Datblygu ein gwaith gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac entrepreneuriaid i ddeall eu gofynion sgiliau a'u cyfleoedd i bobl ifanc
  • Cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion a chyfrannu at gyflawni'r pedwar diben
  • Datblygu gweithlu Gyrfa Cymru medrus, ymroddedig ac ystwyth a galluogi darparu gwasanaethau sy'n perfformio'n dda sy'n canolbwyntio ar y cwsmer

Dylid cyflwyno'r cynllun gweithredol i'ch cangen noddi erbyn diwedd mis Mai 2022. Arweinir eich cangen noddi yn Llywodraeth Cymru gan Emma Edworthy fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd a Sgiliau a’ch pwynt cyswllt arferol o fewn y tîm yw Sam Huckle Pennaeth Cyflenwi Cyflogadwyedd.

Trefniadau Goruchwylio ar gyfer y Cynllun Gweithredol

Bydd eich cangen noddi yn cysylltu â chi yn fuan i drefnu cyfarfod i drafod trefniadau goruchwylio ac adrodd ar gyfer gweddill y cynllun hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu dull goruchwylio sy’n seiliedig ar risg, gan weithio gyda’i chyrff cyhoeddus i nodi’r lefel briodol o oruchwylio a monitro ar gyfer y sefydliad unigol. Bydd y gangen noddi yn cynnal asesiadau cyfnodol o'r sicrwydd risg sydd ar gael iddynt a byddant hefyd yn ystyried yn flynyddol yr angen am adolygiad penodol o'r sefydliad.

Dylid ystyried y llythyr hwn ar y cyd â dogfen fframwaith ar wahân (yn amlinellu ein gofynion ar gyfer cyrff hyd braich) a llythyr cadarnhau cyllid blynyddol. Sylwch y gallai’r cyllid dangosol hwn leihau neu gynyddu yn ôl nifer o ffactorau, gan gynnwys:

  • Newid ym mlaenoriaethau'r Llywodraeth neu bortffolios Gweinidogol
  • Amrywiadau yn y gyllideb
  • Chanlyniadau adolygiadau penodol, y mae’n ofynnol i bob Corff Cyhoeddus gymryd rhan ynddynt o leiaf bob 5 mlynedd. Ceir rhagor o wybodaeth am Adolygiadau wedi’u Teilwra yn eich Dogfen Fframwaith.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Yr eiddoch yn gywir

Vaughan Gething AS/MS
Gweinidog yr Economi
Minister for Economy


Atodiad 1 – Blaenoriaethau i'w hystyried yn y cynllun gweithredol ar gyfer 2022-2023

Ymyriadau Blynyddoedd Cynnar

Er fy mod yn cydnabod na ellir ymestyn y gwaith mewn ysgolion cynradd i gyflawni wyneb yn wyneb, croesawaf y bwriad i ddechrau cefnogi ysgolion a disgyblion yn gynharach drwy gyflwyno mentrau addysg gyrfaoedd newydd ar gyfer ysgolion cynradd. Hoffwn weld manylion eich cynllun gweithredol ar gyfer 2022-2023 eleni yn nodi sut yr ydych yn bwriadu:

  • Wythnosau Rhithiol Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith Rhieni: cyflwyniad i 
    Gyrfa Cymru
  • Dysgu proffesiynol cyfunol ar gyfer athrawon ac adnoddau

Y Cwricwlwm yng Nghymru

Nod y Cwricwlwm i Gymru yw ennyn brwdfrydedd plant a phobl ifanc ynghylch dysgu. Mae pedwar diben y cwricwlwm wrth wraidd ein dyheadau ar gyfer pob dysgwr ifanc yng Nghymru. Mae Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau Cysylltiedig â Byd Gwaith (Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith) wedi cael ffocws go iawn o fewn y cwricwlwm ac mae angen i ysgolion gynllunio eu cwricwlwm i ganiatáu mwy o fynediad i ddysgwyr at wybodaeth am lwybrau gyrfa - a phrofiadau cysylltiedig â gwaith.

Croesawaf eich gwaith yn datblygu pecyn cymorth newydd i gefnogi ysgolion i gyflwyno Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith ar draws ysgolion. O fewn cynllun gweithredol 2022-2023, hoffwn weld amlinelliad o sut y byddwch yn cefnogi ysgolion i ddylunio eu cwricwlwm gyda Gyrfaoedd a Phrofiadau Byd Gwaith wedi’i ymgorffori ar draws y chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Darparu cyfleoedd gwirioneddol ac ystyrlon i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth wrth baratoi ar gyfer heriau a chyfleoedd dysgu pellach a’r byd gwaith sy’n esblygu’n barhaus.

Adnewyddu a Diwygio

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cynllun Adnewyddu a Diwygio ym mis Mehefin 2021, gan nodi ein blaenoriaethau a’n cynllun i gefnogi lles a dilyniant dysgwyr mewn ymateb i bandemig COVID-19. Roedd y cynllun yn nodi’r fframwaith a’r cyllid sydd ar gael i’n galluogi i weithio gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid i gefnogi dysgwyr ac ymarferwyr mewn ymateb i’r pandemig. Byddwn yn disgwyl gweld Gyrfa Cymru yn gweithio’n agos gyda darparwyr addysg i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu gadael ar ôl o ganlyniad i’r pandemig.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Fel y gwyddoch, mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) Deddf 2018 (“y Ddeddf”) yn creu un system ddeddfwriaethol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (“ADY”).

Mae’r system ADY newydd bellach wedi dechrau ei chyfnod gweithredu ar gyfer rhai carfannau o ddysgwyr oedran ysgol gorfodol. Tra bod y trefniadau ar gyfer dysgwyr ôl-16 yn cael eu setlo, gofynnaf i chi barhau i weithio gyda swyddogion a rhanddeiliaid allweddol i  sicrhau bod y cyfnod pontio o’r system bresennol yn rhedeg yn esmwyth a’ch bod yn parhau i gynnig cymorth priodol i bobl ifanc a’u teuluoedd.

Hyd nes y bydd y mesurau newydd yn eu lle yn llawn, gofynnaf i Gyrfa Cymru barhau i ddarparu cymorth i ddysgwyr sydd wedi eu nodi fel rhai sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig ar draws pob Cyfnod Allweddol. Gofynnaf hefyd i Gyrfa Cymru barhau i roi cymorth i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu ac Anableddau (LDD) o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, drwy barhau i lunio Cynlluniau Dysgu a Sgiliau a cheisiadau ar gyfer darpariaeth addysg bellach arbenigol ar gyfer dysgwyr cymwys nad ydynt yn cael eu cefnogi eto gan Ddeddf ADY.

Mewn rhai achosion, fel symud i addysg bellach neu fyw'n annibynnol, efallai y bydd angen dechrau cynllunio llwyddiannus o leiaf ddwy flynedd cyn y cyfnod pontio. Yn y sefyllfaoedd hyn, gall cymorth cynghorwyr gyrfa fod yn arbennig o werthfawr i’r plentyn neu’r person ifanc sy’n pontio a gofynnaf i Gyrfa Cymru barhau i ddarparu cymorth pontio gwell i’r rhai y credwch eu bod yn cyfiawnhau cymorth ychwanegol.

Dysgwyr a Addysgir yn y Cartref

Bydd Gyrfa Cymru yn gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sy’n cael ei addysgu yn y cartref yn cael y cyfle i dderbyn cyngor ac arweiniad gyrfa a fydd yn eu galluogi i gael mynediad at ystod o gyfleoedd dysgu anffurfiol ac achrededig i wella eu dysgu a’u lles. 

Bydd Gyrfa Cymru yn gweithio ar y cyd ac yn cydweithio â Gwasanaethau Ieuenctid a Chynghorwyr Gyrfa i sicrhau bod yr holl bobl ifanc sy’n dod o fewn cylch gorchwyl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gwbl ymwybodol o’r opsiynau a’r hawliau sydd ar gael iddynt. Bydd y cymorth cynllunio gyrfa yn helpu pobl ifanc i gydnabod perthnasedd eu hastudiaethau i’w gyrfaoedd a’u cyfleoedd bywyd yn y dyfodol, a bydd yn eu hannog i fyfyrio’n rheolaidd ar eu sgiliau, eu cryfderau a’u dyheadau. Felly dylai Gyrfa Cymru gymryd rhan weithredol yn y broses adolygu llwybrau.

Data disgyblion

Rwy'n disgwyl i chi wneud defnydd rhagweithiol o ddata cwsmeriaid, boed wedi'i dderbyn gan bartneriaid neu'n deillio o'ch cronfa ddata Atlas newydd, i hysbysu a chyfeirio eich cefnogaeth i gwsmeriaid ac i helpu mesur effaith eich cymorth.

Mae gan y data a roddwyd gennych i bartneriaid a rhanddeiliaid y potensial i lywio penderfyniadau ar sail tystiolaeth gan lunwyr polisi ar lefel genedlaethol a rhanbarthol a hoffwn weld y potensial i Gyrfa Cymru wasanaethu fel ‘canolfan ddata’ ar gyfer materion yn ymwneud â gyrfaoedd a ddatblygir ymhellach.

Pontio Llwyddiannus

Er bod y flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn flwyddyn heriol i lawer, mae tystiolaeth yn dangos bod y pandemig yn effeithio’n anghymesur ar bobl ifanc. Mae eu cyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant wedi newid yn aruthrol, a bydd hyn yn cael effaith ar eu rhagolygon tymor byr a hirdymor. Rwy'n disgwyl gweld Gyrfa Cymru yn cefnogi pobl ifanc i:

  • Symud i gyrchfan gadarnhaol barhaus pan fyddant yn gadael addysg (yn gysylltiedig â rôl barhaus y sefydliad wrth gyflawni’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid a’r Warant i Bobl Ifanc)
  • Cael eu cefnogi ar adegau pontio allweddol i wneud penderfyniadau gwybodus
  • Bod yn ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt
  • Phontio’n esmwyth o addysg orfodol i addysg ôl-orfodol gyda’r wybodaeth, y cymorth a’r arweiniad priodol a diduedd sydd eu hangen arnynt

O fewn cynllun gweithredol Gyrfa Cymru, hoffwn weld sut y byddwch yn targedu’r rhai y bydd angen cymorth dwys arnynt a’r grwpiau difreintiedig hynny sy’n debygol o gael trafferth i bontio’n llwyddiannus. Yn unol â’n disgwyliadau a amlinellir o fewn Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol, rwy’n disgwyl gweld Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd annibynnol o ansawdd uchel i bobl ifanc i’w cynorthwyo nhw i wneud dewisiadau dysgu cadarn, datblygu eu cymwyseddau rheoli gyrfa a llwyddo yn y byd gwaith.

Cefnogi'r rhai Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant (NEET) rhwng 16-18 oed

Rwy’n disgwyl eich gweld yn parhau i gefnogi cwsmeriaid yn Haen 3 sydd â’r perygl mwyaf o ddod yn bobl nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET) neu’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd pontio’n llwyddiannus rhwng gweithgareddau dysgu neu rhwng dysgu a gwaith. Gofynnaf i chi hefyd i barhau i weithio gydag awdurdodau lleol i fonitro cyrchfannau disgyblion ac adrodd arnynt a gweithio gyda’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil unwaith y bydd wedi'i sefydlu i rannu data. Gofynnaf am gael gwybod am unrhyw rwystrau o ran derbyn data sy’n llesteirio eich gallu i gyflawni eich tasg gyhoeddus.

Diwygio Addysg a Hyfforddiant Ôl-Orfodol (PCET)

Cyflwynwyd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) ym mis Tachwedd 2021. Unwaith y daw i rym, bydd yn sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER), un stiward cenedlaethol ar gyfer sector addysg drydyddol ac ymchwil Cymru. Rydym yn disgwyl i Gyrfa Cymru gyfrannu’n llawn at drefniadau gweithredu CTER yn ystod 2022-2023 drwy eich cyfranogiad a’ch camau gweithredu ar grŵp rhanddeiliaid CTER.

Cydlynu cysylltiadau Addysg a Chyflogwyr

Gofynnaf i Gyrfa Cymru barhau i weithio gyda phartneriaid addysg i ddatblygu dulliau effeithiol o gysylltu â chyflogwyr. Dylai cwricwlwm yr ysgol alluogi dysgwyr i ennill profiadau sy'n gysylltiedig â gwaith a gyrfaoedd, gan ddatblygu gwybodaeth am ehangder y cyfleoedd sydd ar gael iddynt drwy gydol eu bywydau. Bydd cydweithio ag unigolion a chyflogwyr hefyd yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am waith, cyflogaeth a'r sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi yn y gweithle.

Gall dysgwyr ddefnyddio'r wybodaeth a'r sgiliau a geir o gymryd rhan mewn profiadau cysylltiedig â'r gwaith i ddatblygu gweithgareddau menter llwyddiannus. Gall y rhain ddarparu profiad dysgu dilys sy'n eu helpu i ddatblygu fel cyfranwyr mentrus, creadigol, gan ffurfio cysylltiadau â byd gwaith a chodi eu dyheadau.

Gofynnaf hefyd i Gyrfa Cymru adeiladu ar gysylltiadau â chyflogwyr a busnesau lleol, a chefnogi i alluogi cyflogwyr i gysylltu’n uniongyrchol ag ysgolion a dysgwyr mewn ysgolion. Mae hyn yn arbennig o hanfodol i wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, ac i sicrhau bod dysgwyr yn datblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiadau sydd eu hangen ar gyfer eu gwaith a’u gyrfaoedd yn y dyfodol, ar draws sectorau presennol, ac mewn cyfleoedd cyflogaeth newydd ac arloesol yn y dyfodol.

Felly, hoffwn weld Cynllun Gweithredol Gyrfa Cymru yn amlinellu sut rydych chi’n bwriadu ymgysylltu â chyflogwyr a chefnogi datblygiad cysylltiadau cryf â dysgu, i gefnogi’r nod hwn o’r Cwricwlwm i Gymru. Byddwn hefyd yn gofyn i Gyrfa Cymru edrych ar gyfleoedd i gydweithio â phartneriaid i osgoi dyblygu a darparu dulliau cyson o ymgysylltu â chyflogwyr o fentrau a ariennir o dan brosiectau Tech Valley a chronfeydd ffyniant a rennir a bargeinion y Ddinas-ranbarth.

Entrepreneuriaeth Ieuenctid

Yn y Cynllun Gweithredu Economaidd, mae ymrwymiad i ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd yng Nghymru a chefnogi pobl ifanc i fod yn hunangyflogedig fel rhan o’r Warant Pobl Ifanc. Mae'r ymrwymiad hwn yn gofyn am well cydweithio rhwng rhanddeiliaid o'r byd academaidd, y llywodraeth, entrepreneuriaid, cyllid a chorfforaethau. Rwyf, felly, yn disgwyl i’ch cynllun gweithredol nodi’n glir sut y byddwch yn gweithio gyda Syniadau Mawr Cymru, sy’n rhan o Fusnes Cymru, gan ddefnyddio ymgysylltu â chyflogwyr a digwyddiadau eraill i gefnogi pobl ifanc i ddeall yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael iddynt yn y dyfodol.

Y Gymraeg

Rwy’n disgwyl i Gyrfa Cymru gyfrannu ac ymateb i nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ar draws ei swyddogaethau yn ogystal â chefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau cyfrwng Cymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Show more

Cysylltwch â foi@careerswales.gov.wales am gopi o’r Llythyr Cylch Gwaith.