Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cyfarfod ein Prif Weithredydd

Prif Weithredwr Nikki Lawrence

Ein Prif Weithredydd

Mae Nikki Lawrence yn gyfrifydd cymwysedig (ACMA) a ymunodd â Gyrfa Cymru yn 2004. Cyn hynny, bu Nikki yn gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ac yn y diwydiannau gweithgynhyrchu ac adeiladu mewn uwch swyddi. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus.

Yn Gyrfa Cymru, mae Nikki wedi goruchwylio swyddogaethau corfforaethol gan gynnwys cyllid, adnoddau dynol, technoleg gwybodaeth, ansawdd a chynllunio. Roedd hi hefyd yn Brif Weithredydd dros dro am 15 mis cyn cael ei phenodi’n barhaol i’r swydd ym mis Medi 2019.

Fel Prif Weithredydd, mae Nikki yn arwain y weledigaeth bum mlynedd, Dyfodol Disglair. Nod y weledigaeth yw rhoi mynediad yn rhad ac am ddim i bobl ifanc ac oedolion ledled Cymru at gymorth gyrfaoedd diduedd o ansawdd uchel.

Ei huchelgais yw symud Gyrfa Cymru ymlaen a darparu gwasanaeth cymorth gyrfaoedd sy’n arwain y sector i bobl Cymru. Gwasanaeth dwyieithog, pob oed, annibynnol a diduedd.

Mae Nikki yn canolbwyntio ar arwain Gyrfa Cymru i ddiwallu anghenion yr economi sy'n newid. Bydd angen newidiadau pwysig yn y ffordd rydym yn meddwl am waith a sgiliau er mwyn adfer o’r dirwasgiad a achoswyd gan y pandemig.

Mae Nikki yn byw yng ngogledd Cymru ac yn rhedwraig frwd gan gymryd rhan mewn marathonau mynydd a ffordd.