Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cyfarfod bob chwarter. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol. Isod mae cofnodion cyfarfod Bwrdd CCDG a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021.
Yn bresennol
Erica Cassin
Andrew Clark
Neil Coughlan
Sam Evans (Llywodraeth Cymru)
Dave Hagendyk
Liz Harris
Sue Maguire
Ceri Noble
Sue Price
Emma Richards
Tony Smith
Richard Thomas
Helen White
Debra Williams (Cadeirydd)
O Gyrfa Cymru
Nikki Lawrence
Shirley Rogers
Ruth Ryder
Yn bresennol
Emma Blandon, Gyrfa Cymru
Ymddiheuriadau
Dave Mathews
Mary Van Den Heuvel
Yn absennol
Taslima Begum
Ysgrifenyddiaeth
Jayne Pritchard
1. Datganiadau o Fuddiant
Ni nodwyd unrhyw ddatganiadau pellach o fuddiant.
2. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol – 19 Awst 2021
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol yn amodol ar y newidiadau a ganlyn:
Eitem 2.1 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol:
Adroddwyd camgymeriad o dan wrthdaro buddiannau ac roedd angen mân newidiadau i adlewyrchu bod aelod y Bwrdd yn aelod o'r pwyllgor archwilio.
3. Materion yn Codi o Gyfarfodydd Blaenorol
- 3.1 Y Newyddion Diweddaraf gan y Cadeirydd (Cofnod 4) - dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd y byddai'n dosbarthu papur ynghylch aelodaeth Is-bwyllgorau'r Bwrdd, rôl hyrwyddwyr, a'r uwch-berchennog risg gwybodaeth.
- Cam gweithredu 1: Papur i'w ddosbarthu ynglŷn â rôl hyrwyddwyr a’r uwch-berchennog risg gwybodaeth
- 3.2 Geirfa termau Gyrfa Cymru (Cofnod 14) - gofynnodd y Bwrdd am restr termau Gyrfa Cymru.
- Cam gweithredu 2: Rhestr termau i'w dosbarthu i'r Bwrdd
4. Y Newyddion Diweddaraf gan y Cadeirydd
Nodwyd y pwyntiau allweddol canlynol:
- Aelod Bwrdd yn Gadael - cyhoeddodd y Cadeirydd fod aelod o'r Bwrdd ar fin rhoi'r gorau iddi a diolchodd iddo am ei gyfraniadau i Gyrfa Cymru.
- Papurau parthed Pwyllgorau, Rolau Hyrwyddwyr ac Uwch-Berchennog Risg Gwybodaeth - eglurodd y Cadeirydd mai'r rheswm am yr oedi wrth ddosbarthu papur yn amlinellu aelodaeth newydd yr Is-bwyllgorau oedd bod Llywodraeth Cymru yn y broses o benodi Cadeirydd newydd ac felly byddai unrhyw addasiadau eraill yn cael eu cadarnhau yn sgil y penodiad hwnnw. Y gobaith oedd y byddai'r mater yn cael ei ddatrys yn ystod yr wythnosau nesaf. Fodd bynnag, roedd y Cadeirydd yn falch o gyhoeddi bod swydd yr uwch-berchennog risg gwybodaeth bellach wedi'i llenwi gan Mr Dave Mathews.
- Diwrnod Bwrdd wedi’i gynllunio - esboniodd y Cadeirydd yr heriau o amgylch diwrnod y Bwrdd a phwysleisiodd bwysigrwydd cynnal diogelwch yn ystod y pandemig ac am y rheswm hwn y cafodd y diwrnod Bwrdd ei ganslo.
5. Adroddiad y Prif Weithredydd
Roedd yr aelodau wedi derbyn papur a ddosbarthwyd yn flaenorol gan y Prif Weithredydd, a nodwyd. Tynnwyd sylw at yr eitemau canlynol ar lafar:
- Codiad cyflog - nodwyd bod aelodau UNSAIN wedi gwrthod y cynnig codiad cyflog diweddaraf.
- ESTYN - dywedwyd wrth yr aelodau bod disgwyl i ESTYN gwblhau cyfweliadau erbyn 17 Rhagfyr 2021, gyda’r Pwyllgor Gwaith ac aelodau’r tîm uwch-reolwyr i gael adborth cychwynnol ar 30 Tachwedd.
- Cyfarfodydd y Gweinidog - roedd y Prif Weithredydd yn y broses o drefnu cyfarfodydd gyda Gweinidog yr Economi a hefyd gyda'r Gweinidog Addysg.
- Canmoliaeth a chwynion - mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd yn flaenorol, nodwyd bod y Cwmni wedi derbyn cyfanswm o 13 o gwynion am y flwyddyn gyfredol. Dywedodd y Prif Weithredydd y byddai papur yn cael ei ddwyn ymlaen i gyfarfod nesaf y Bwrdd yn rhoi trosolwg o'r cwynion a'r ganmoliaeth a dderbyniwyd.
- Cam gweithredu 3: Papur canmoliaeth a chwynion i'w gyflwyno i gyfarfod nesaf Bwrdd CCDG
6. Adroddiad Cynnydd Hanner Blwyddyn
Trafododd y Bwrdd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol. Roedd y meysydd allweddol a drafodwyd yn canolbwyntio ar y pwyntiau isod.
Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o rôl Cynghorydd Gyrfa dan hyfforddiant gofynnodd y Cadeirydd i SR siarad â'r Bwrdd am daith Cynghorydd Gyrfa dan hyfforddiant. Rhoddodd SR ddisgrifiad o daith cynghorydd gyrfa a gwahoddodd SR sylwadau gan y Bwrdd.
- 6.1 Strategaeth Gwybodaeth am y Farchnad Lafur - cafwyd trafodaeth ynglŷn â chynghorwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad lafur, a dywedwyd wrth y Bwrdd sut mae hyn yn digwydd. Nodwyd hefyd bod y cwmni wedi cynhyrchu strategaeth gwybodaeth am y farchnad lafur wedi'i diweddaru yn ddiweddar, a gellid cynnwys hon ar agenda cyfarfod nesaf y Bwrdd.
- Cam gweithredu 4: Strategaeth Gwybodaeth am y Farchnad Lafur wedi'i diweddaru i'w chyflwyno yng nghyfarfod nesaf Bwrdd CCDG
- 6.2 Rhagfynegiadau'r farchnad lafur - trafododd y Bwrdd bryderon am y farchnad lafur a bylchau yn y dyfodol.
- 6.3 Cymru’n Gweithio - gofynnodd y Bwrdd p’un a oedd Cymru’n Gweithio yn darparu cymorth canol gyrfa i’r grŵp oedran 50+ a hysbyswyd fod gwaith archwilio’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i dargedu dysgwyr amser llawn a rhan-amser mewn addysg bellach, ac y byddai hyn yn effeithio ar gymorth gwaith a fyddai’n cynnwys y grŵp canol gyrfa. (50+ oed).
- 6.4 Disgwyliadau cyflogwr – sgiliau a datblygiad - cafwyd trafodaeth ar waith ymgysylltu â chyflogwyr. Nodwyd bod darn o waith wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn edrych i mewn i'r maes gwaith hwn, a fydd yn helpu i lywio cyfeiriad gwaith y cwmni yn y maes hwn.
7. Strategaeth Ddigidol
Amlygwyd nodweddion allweddol y Strategaeth Ddigidol, a gwahoddwyd y Bwrdd i gyflwyno sylwadau a chwestiynau.
- 7.1 Risg - gofynnodd y Bwrdd beth oedd y risgiau mwyaf gyda chyflawni'r strategaeth newydd. Cydnabu EB fod y strategaeth yn uchelgeisiol ond barnodd mai’r her fwyaf fyddai alinio’r cynlluniau sy’n rhan o’r strategaeth newydd â’r uchelgeisiau a nodir yn y strategaeth ddigidol.
8. Dwyieithrwydd a Dyfodol Disglair
Cafodd y Bwrdd drosolwg o sefyllfa'r Cwmni o ran cyflwyno darpariaeth ddwyieithog a gyflwynwyd yn dilyn cais gan y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg. Yn y Pwyllgor hwnnw teimlwyd bod angen trafodaeth ehangach yn y Bwrdd ynghylch ei sefyllfa a'i feddylfryd mewn perthynas â gwaith y Cwmni yn y maes hwn. Gofynnwyd felly i aelodau'r Bwrdd am eu safbwyntiau a'u barn, ac unrhyw argymhellion y gallent eu gwneud mewn perthynas â'r gweithgaredd sy'n cael ei wneud. Nodwyd dau faes allweddol yn y trafodaethau.
- 8.1 Archwilio sgiliau Cymraeg staff - cafwyd trafodaeth ar archwiliadau'r sefydliad ynghylch sgiliau’r Gymraeg. Nodwyd bod yr archwiliad diwethaf wedi ei gwblhau yn 2020 ac y byddai archwiliad arall yn y flwyddyn fusnes nesaf. Clywodd y Bwrdd hefyd y byddai'r Cwmni’n sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i adolygu holl feysydd darpariaeth ddwyieithog y Cwmni, a fyddai'n cynnwys dadansoddiad wedi'i ddiweddaru o lefel sgiliau ar draws y Cwmni.
- 8.2 Heriau ynghylch recriwtio staff - mynegodd y Bwrdd bryderon ynghylch recriwtio staff dwyieithog oherwydd prinder siaradwyr Cymraeg ac roedd o'r farn bod y mater yn un risg uchel yr oedd angen ei adolygu'n rheolaidd. Cydnabuwyd y risg hon a chynghorwyd y byddai'r grŵp gorchwyl a gorffen yn edrych ar gyflenwad a galw a sut y gallai'r Cwmni gynnig cyfleoedd datblygu pellach i'w staff presennol.
9. Adroddiad ar y Newyddion Diweddaraf am Brosiect Sbardun
Amlygodd y Prif Weithredydd rai o’r materion allweddol yn yr adroddiad ar y newyddion diweddaraf am brosiect Sbardun, gan gynnwys:
- 9.1 Cronfa Ffyniant a Rennir - parhaodd y Prif Weithredydd i gwrdd ag awdurdodau lleol ynghylch y gronfa hon ac roedd yn falch o gyhoeddi bod y cais gyda Chastell-nedd Port Talbot wedi bod yn llwyddiannus.
- 9.2 Profiad Gwaith Wedi'i Deilwra - roedd trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru ynghylch darparu'r agwedd hon ar y prosiect yn y dyfodol.
- 9.3 Cynghorwyr gyrfa - roedd y sefydliad wedi nodi risg bosibl a briodolwyd i lefel annigonol o gynghorwyr gyrfa ac o ganlyniad roedd swyddi cynghorwyr gyrfa yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd.
10. Trawsnewid y Gweithle – Y Newyddion Diweddaraf am y Prosiect
Rhoddwyd trosolwg o'r Prosiect Trawsnewid y Gweithle a gwahoddwyd y Bwrdd i wneud sylwadau a chwestiynau.
- 10.1 Effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd - pwysleisiodd y Bwrdd bwysigrwydd cynnal effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd mewn unrhyw bapurau yn y dyfodol ynghylch gweithio hybrid.
- 10.2 Dyfodol thematig ESTYN - ni threfnwyd cyfarfod adolygu, er y credir y byddai thema ESTYN yn cael ei threfnu yn y flwyddyn fusnes nesaf.
11. Y Newyddion Diweddaraf am Gyfarfodydd Pwyllgor
11.1 Cyfarfod y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg – 15 Tachwedd 2021
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd materion penodol i'w dwyn i sylw'r Bwrdd llawn.
11.2 Cyfarfod y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith – 26 Hydref 2021
Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith yr wybodaeth ddiweddaraf a chanmolodd canfyddiadau'r Adroddiad Tracio Addysg yn y Cartref.
11.3 Cyfarfod Pwyllgor Materion Pobl – 11 Tachwedd 2021
Yn absenoldeb y Cadeirydd, rhoddodd aelod pwyllgor o'r Pwyllgor Pobl sy’n Cyfrif adborth o'r cyfarfod diwethaf a thynnodd sylw at y drafodaeth ar derfynu'r prosiect sbardun.
12. Unrhyw Faterion Eraill
- 12.1 Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr - gofynnodd y Cadeirydd a allai aelodau'r Bwrdd fynychu'r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr. Cadarnhaodd y Prif Weithredydd y byddai'r digwyddiad yn cael ei recordio, a chytunwyd y byddai holl aelodau'r Bwrdd yn cael gwahoddiad i'r digwyddiad rhithwir.
- Cam Gweithredu 5: Holl aelodau'r Bwrdd i dderbyn gwahoddiad i'r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr
- 12.2 Clawr blaen ar gyfer papurau - gofynnodd y Bwrdd i deitlau swyddi gael eu cynnwys ar glawr blaen adroddiadau'r pwyllgor.
- Cam Gweithredu 6: Pob tudalen flaen yn y dyfodol i gynnwys teitl swydd yr awdur