Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Cofnodion Bwrdd CCDG 26 Medi 2023

Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cyfarfod bob chwarter. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol. Isod mae cofnodion cyfarfod Bwrdd CCDG a gynhaliwyd ar 26 Medi 2023.

Aelodau'r Bwrdd

  • Andrew Clark
  • Dave Hagendyk
  • Dave Matthews
  • Erica Cassin (Chair)
  • Helen White
  • James Harvey
  • Joni Ayn-Alexander
  • Kate Daubney
  • Neil Coughlan
  • Toni McLelland
  • Tony Smith

O Gyrfa Cymru

  • Nerys Bourne
  • Nikki Lawrence
  • Ruth Ryder
  • Llywodraeth Cymru

  • Sam Evans
  • Sinead Gallagher

Cyfranwyr

Phil Bowden, Careers Wales

Yn absennol

Richard Thomas

Ysgrifenyddiaeth

Leonora Evans

1. Datganiadau o Fuddiant

Ni nodwyd unrhyw ddatganiadau pellach.

2. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol, 6 Gorffennaf 2023

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

3. Materion yn Codi

3.1 Diweddariad y Cadeirydd – Recriwtio i'r Bwrdd (Cofnod 3)

Cytunwyd bod y camau parthed cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a sefydlu bwrdd pobl ifanc wedi eu cwblhau.

3.2 Adolygiad Cynnydd Strategaeth (Cofnod 7)

Dosbarthwyd crynodeb o ddull y Cwmni o gynnwys yr holl staff yn ei gylch cynllunio busnes. Cytunwyd bod y mater hwn wedi’i gau.

3.3 Adroddiad Chwarterol (Cofnod 9)

Cytunwyd bod y cam gweithredu i’r Prif Weithredydd ystyried cynnwys ffigurau dangosydd perfformiad allweddol o flwyddyn i flwyddyn a chynnwys y data yn adroddiad y Prif Weithredydd yn un parhaus.

3.4 Adroddiad Diogelu (Cofnod 13)

Cyflwyno adroddiad diogelu i'r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith. Cytunwyd bod y mater hwn yn un parhaus.

3.5 Dyddiad y cyfarfod nesaf (Cofnod 14)

Datryswyd y mater ynglŷn â’r newid dyddiad.

4. Diweddariad y Cadeirydd – Ar Lafar

Rhoddodd y cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am yr ystod o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ers cyfarfod diwethaf y bwrdd ac anogodd aelodau'r bwrdd i fynychu digwyddiadau lle bo hynny'n bosibl.

Rhannwyd adborth cadarnhaol hefydss o gyfarfodydd ymgysylltu â rhanddeiliaid diweddar gan ysgolion, cyflogwyr a phartneriaid addysg bellach.

Roedd y broses recriwtio ar gyfer aelodau newydd o'r bwrdd yn parhau, gyda'r hysbyseb yn debygol o gael ei chyhoeddi o fewn y misoedd nesaf.

Yn ogystal, rhoddwyd rhybudd ymlaen llaw y bwriedir cynnal adolygiadau perfformiad blynyddol gydag aelodau ym mis Tachwedd.

5. Adroddiad y Prif Weithredydd

Nododd yr aelodau'r adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol gan y Prif Weithredydd. Amlygwyd y prif weithgareddau a gynhaliwyd ers y cyfarfod diwethaf.

Trafodwyd risg bresennol y Cwmni, gan nodi'r sefyllfa allanol gynyddol heriol ynghylch cyllidebau a'i heffaith bosibl ar y Cwmni a'i allu i gyflawni ei strategaeth Dyfodol Disglair. Cytunwyd y byddai'r aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau rhwng y Cwmni a'i dîm noddi. Cytunwyd hefyd y byddai rhan gyntaf cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg yn agored i holl aelodau'r Bwrdd adolygu unrhyw ddiweddariadau ynghylch cyllidebau yn y dyfodol.

Cam Gweithredu 3, Gwahoddir holl aelodau'r Bwrdd i ran gyntaf cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.

6. Diweddariad Llywodraeth Cymru (LlC)

Rhoddwyd diweddariad ar yr amserlen ar gyfer cyllideb 2024/25 ynghyd ag amlinelliad o waith a fyddai'n digwydd i lywio trafodaethau. Nodwyd dyddiadau allweddol, fel 22 Tachwedd, pan fyddai datganiad yr hydref yn cadarnhau’r cyllid y byddai LlC yn ei gael gan San Steffan, a 19 Rhagfyr, sef y dyddiad y byddai LlC yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft.

Clywodd y Bwrdd fod y Gweinidog yn falch o'r sgwrs yn y digwyddiad bord gron diweddar, a oedd yn nodi bod sail gadarn i ddatblygu ohoni, er bod cynnydd i'w wneud. Roedd arfer da wedi'i amlygu ym Mlaenau Gwent ac roedd y Gweinidog eisiau archwilio mwy am sut y daw trefniadau at ei gilydd ar lefel leol.

Rhoddwyd diweddariadau hefyd ar y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ac ailstrwythuro Llywodraeth Cymru.

7. Gwerthuso / Adenillion o Fuddsoddi

Arweiniwyd yr aelodau drwy ddull y Cwmni o werthuso ei wasanaethau, y cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn, a’r gwaith adenillion o fuddsoddi a oedd yn cael ei wneud.

Gofynnwyd i'r Cwmni ystyried sawl maes, gan gynnwys:

  • Myfyrio ar gymorth cyffredinol a gynigir i bobl ifanc i nodi unrhyw ffyrdd pellach o gefnogi'r rhai a allai fod yn gadael i bethau ‘lithro'
  • Yn sgil absenoldeb hwb data, sut y gallai ymgysylltu ymhellach â rhanddeiliaid gynyddu ei effaith trwy lwybrau data ar gyfer ymholiadau
  • Sut y gallai drosglwyddo ei effaith yn fwy effeithiol a’i throi’n straeon dylanwadol
  • Sut y gallai helpu cyflogwyr i ddatblygu dealltwriaeth bellach o fanteision cyflogi pobl ifanc niwroamrywiol

Amlygwyd ystod yr acronymau a ddefnyddiwyd gan y Cwmni a chytunwyd y byddai geirfa termau'r Cwmni yn cael ei chylchredeg i bob aelod er mwyn hwyluso dealltwriaeth.

Cam Gweithredu 4, Uwchlwytho rhestr txermau i'w chylchredeg a'i hychwanegu at sianel Bwrdd CCDG.

8. Cyfrifon Diwedd y Flwyddyn / Cyfrifon Rheoli

Nodwyd bod archwiliad cyfrifon diwedd y flwyddyn yn parhau ac felly parhaodd y ddogfen a gyflwynwyd i'r Bwrdd fel un drafft. Rhoddwyd awdurdod i'r Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg i gymeradwyo fersiwn derfynol y cyfrifon.

9. Strategaeth Ystadau

Cyflwynwyd a thrafodwyd y Strategaeth Ystadau gan y Bwrdd. Rhoddodd yr aelodau adborth ar elfennau allweddol y ddogfen, a chadarnhawyd y byddai asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn cael ei gynnal cyn cwblhau'r strategaeth.

Cam Gweithredu: Cwblhau asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar y drafft terfynol.

10. Adolygu Strwythur Pwyllgorau

Cynhaliwyd trafodaeth mewn perthynas â strwythurau presennol pwyllgorau. Cytunwyd y byddai adolygiad o'r cylch gorchwyl yn digwydd dros y misoedd nesaf i sicrhau bod eitemau mawr ar yr agenda fel sero net, llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu cynrychioli'n ddigonol.

Trafodwyd hyrwyddwyr ar gyfer meysydd penodol a chynhaliwyd arfer da'r Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth fel enghraiffat o sut y gallai hyn weithio'n ymarferol.

Trafodwyd cyfarfod blynyddol o gadeiryddion pob pwyllgor hefyd i drafod y cynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn.

Cam Gweithredu 5: Cadeiryddion pob pwyllgor i ystyried y cylch gorchwyl presennol ac adrodd yn ôl i'r cyfarfod nesaf.

Cam Gweithredu 6: Trefnu dyddiad rhwng cadeirydd y Bwrdd, y Prif Weithredydd a holl gadeiryddion y tri phwyllgor presennol.

11. Dogfen Fframwaith Ar Gyfer Cwmnïau Sy'n Eiddo i Lywodraeth Cymru

Cafodd yr aelodau'r fframwaith wedi'i ddiweddaru ac amlygwyd newidiadau o fewn y ddogfen.

12. Cyfarfodydd Pwyllgorau’r Bwrdd

12.1 Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg
Amlygodd cadeirydd y pwyllgor fod adolygiad o reoliadau ariannol y Cwmni yn digwydd, a byddai drafft terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd i'w gymeradwyo.

12.2 Pwyllgor Perfformiad ac Effaith
Cyflwynwyd crynodeb o'r trafodaethau o fewn y pwyllgor i'r Bwrdd.

12.3 Materion Pobl
Clywodd yr aelodau fod strategaeth AD ddrafft wedi ei thrafod yn y cyfarfod diwethaf fel un o'i eitemau allweddol a chafwyd trafodaeth dda.

13. Unrhyw Fusnes Arall

13.1 Adborth ar gyfarfodydd y Bwrdd
Mynegodd yr aelodau awydd am gyfarfodydd rhyngweithiol gyda chyfle i gael trafodaethau ehangach. Cytunodd y cadeirydd i adolygu sut y gellid cyflawni hyn ar-lein yn ogystal â mewn cyfarfodydd personol.

Cam Gweithredu 7, Y cadeirydd i adolygu technoleg ryngweithiol i gefnogi trafodaethau’r Bwrdd.

13.2 Cyfieithu ar y pryd ar gyfer TEAMS
Cytunwyd y byddai hyn yn cael ei ystyried er mwyn iddo fod ar waith ar gyfer y cyfarfod nesaf.

Cam Gweithredu 8: Nodi sut y gall TEAMS gefnogi cyfieithiadau Saesneg-Cymraeg ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd ar-lein.

13.3 Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cadarnhawyd y cynhelir y cyfarfod wyneb yn wyneb nesaf yn swyddfa Caerdydd ar 13 Rhagfyr.

Log GweithreduArweinyddDiweddariad i'w ddarparu
Cam Gweithredu1. Ystyriwch gynnwys ffigurau dangosyddion perfformiad allweddol fesul blwyddyn a chynnwys y data yn adroddiad y Prif Weithredydd.NLCwblhawyd
Cam Gweithredu 2. Cyflwyno adroddiad diogelu i'r Pwyllgor Perfformiad ac EffaithNL, NBCwblhawyd
Cam Gweithredu 3. Gwahoddir holl aelodau'r Bwrdd i ran gyntaf cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a RisgJPCwblhawyd
Cam Gweithredu 4. Uwchlwytho rhestr termau i'w chylchredeg a'i hychwanegu at sianel Bwrdd CCDGRRCwblhawyd
Cam Gweithredu 5. Cadeiryddion pob pwyllgor i ystyried y cylch gorchwyl presennol ac adrodd yn ôl i'r cyfarfod nesafECCwblhawyd
Cam Gweithredu 6. Dyddiad i'w drefnu rhwng cadeirydd y Bwrdd, y Prif Weithredydd a holl gadeiryddion y tri phwyllgor presennolNLCwblhawyd
Cam Gweithredu 7. Y Cadeirydd i adolygu technoleg ryngweithiol i gefnogi trafodaethau’r Bwrdd.ECCwblhawyd
Cam Gweithredu 8. Nodi sut y gall TEAMS gefnogi cyfieithiadau Saesneg–Cymraeg ar y pryd ar gyfer cyfarfodydd ar-lein.RRCwblhawyd
Ddim yn berthnasolNi chofnodwyd unrhyw gamau pellachDdim yn berthnasol

Dogfennau
 

Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Gofynnwch am fformat gwahanol o Cofnodion Bwrdd CCDG Chwarter 2 - 26 Medi 2023 Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch post@gyrfacymru.llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd..