Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cyfarfod bob chwarter. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol. Isod mae cofnodion cyfarfod Bwrdd CCDG a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023.
Aelodau'r Bwrdd:
- Andrew Clark
- Dave Hagenydk
- Erica Cassin (Cadeirydd)
- Helen White
- James Harvey
- Kate Daubney
- Neil Coughlan
- Richard Thomas
- Tony Smith
Aelodau etholedig o'r Bwrdd:
Toni McLelland
O Lywodraeth Cymru:
Sam Evans
O Gyrfa Cymru:
- Nerys Bourne
- Nikki Lawrence (Prif Weithredydd- PW)
Yn bresennol:
- Sinead Gallagher (Llywodraeth Cymru)
- Phil Bowden
Ymddiheuriadau:
- Dave Mathews
- Joni Ayn-Alexander
- Ruth Ryder
Ysgrifenyddiaeth:
Jayne Pritchard
1.Datganiadau o Fuddiant
Ni nodwyd datganiadau o fuddiant pellach.
2.Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol, 2 Mawrth 2023
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.
Materion yn Codi:
- Cam Gweithredu 1. Llywodraeth Cymru i rannu cynllun gweithredu ‘sefyllfa’r genedl’ gyda Gyrfa Cymru (unwaith y bydd cynllun gweithredu ar gael). Cytunwyd bod y cam gweithredu hwn wedi'i gwblhau.
- Cam Gweithredu 2. Caniateir mynediad i aelodau'r Bwrdd i bob grŵp Bwrdd a phwyllgor perthnasol ar Teams. Cytunwyd bod y cam gweithredu hwn wedi'i gwblhau.
- Cam Gweithredu 3. Aelodau'r Bwrdd i gwblhau'r fframwaith matrics sgiliau trwy sianel y Bwrdd. Cytunwyd bod y cam gweithredu hwn wedi'i gwblhau.
- Cam Gweithredu 4. Y Bwrdd i gael papur yn esbonio'r broses ADY. Cytunwyd bod y cam gweithredu hwn wedi'i gwblhau.
- Cam Gweithredu 5. Arolwg effeithiolrwydd y Bwrdd i'w gwblhau gan y Bwrdd drwy'r ddolen i’r arolwg. Cytunwyd bod y cam gweithredu hwn wedi'i gwblhau.
- Cam Gweithredu 6. TGCh i ddarparu dogfen canllaw defnyddiwr a darparu cymorth ychwanegol. Cytunwyd bod y cam gweithredu hwn wedi'i gwblhau.
- Cam Gweithredu 7. Y Bwrdd i anfon adborth trwy e-bost at y cadeirydd cyn arfarniad gyda’r Prif Swyddog Gweithredol. Cytunwyd bod y cam gweithredu hwn wedi'i gwblhau.
- Cam Gweithredu 8. Y Bwrdd i gwblhau ffurflen a anfonwyd fel dolen i’r arolwg gan y tîm marchnata. Cytunwyd bod y cam gweithredu hwn wedi'i gwblhau.
3. Diweddariad y Cadeirydd – Ar lafar
Ymgysylltu: Cafwyd llawer o ymgysylltu cadarnhaol yn dilyn digwyddiadau a chyfarfodydd amrywiol.
Hyfforddiant am ddim gan Chwarae Teg: Anfonwyd e-bost parthed hyfforddiant amrywiaeth am ddim at holl aelodau'r Bwrdd.
Recriwtio i'r Bwrdd: Nodwyd oedi wrth recriwtio i’r Bwrdd gan fod tîm allanol wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i adolygu a darparu argymhellion ar gyfer recriwtio Bwrdd mwy amrywiol. Nodwyd bod argymhellion yn cael eu cymeradwyo ac y byddai recriwtio newydd i’r Bwrdd ar gyfer aelodau'r Bwrdd yn cael ei gwblhau ym mis Medi.
Nodwyd hefyd bod asesiad sgiliau'r Bwrdd diweddar yn dangos bod prinder sgiliau ac arbenigedd mewn addysg ysgol ac o amgylch polisïau Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn cael ei ystyried fel rhan o'r rownd recriwtio nesaf.
Cafwyd trafodaeth bellach ar y camau a gymerwyd o fewn Gyrfa Cymru ynghylch amrywiaeth y gweithlu a chynrychioli sylfaen cwsmeriaid amrywiol. Nodwyd bod Bwrdd Pobl Ifanc yn y broses o gael ei gytuno a bod nod o’i lansio rhywbryd ym mis Medi/Hydref. Anogodd y Bwrdd drafodaeth bellach ynghylch y maes hwn.
Cam Gweithredu 1. Cyflwyno diweddariad amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys diweddariad cynnydd ar gyfer y Bwrdd Pobl Ifanc, mewn cyfarfod Bwrdd yn y dyfodol.
4. Adroddiad y Prif Weithredydd (adroddiad y PW)
Amlygodd y PW brif bwyntiau’r adroddiad PW.
Cofrestr Risg: Cyflwynwyd y tair risg uchaf yn adroddiad y PW. Nodwyd bod dwy risg yn parhau'n uchel. Roedd un risg wedi'i harchifo (gyda chymeradwyaeth y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg) a dylai risg arall yn ymwneud â chyllidebau gael ei huwchraddio i risg goch.
Ymgysylltu â Chynrychiolwyr Allweddol Llywodraeth Cymru: Nodwyd bod amryw gyfarfodydd cadarnhaol wedi eu cynnal gyda chynrychiolwyr allweddol Llywodraeth Cymru.
Crybwyllwyd Gyrfa Cymru yn Adroddiad Hefin David: Nodwyd bod Gyrfa Cymru wedi cael ei chrybwyll yn nadl Hefin David.
Gwahoddiad i ymchwiliad costau byw Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Derbyniwyd gwahoddiad i ddarparu tystiolaeth i Ymchwiliad Costau Byw a Gwarant i Bobl Ifanc y Pwyllgor ym mis Medi yn y Senedd.
Dogfen Fframwaith Gyrfa Cymru: Nodwyd bod fframwaith Gyrfa Cymru wedi'i gynnwys gyda'r papurau a chynigiwyd y byddai'r fframwaith yn cael ei adolygu mewn cyfarfod Bwrdd CCDG yn y dyfodol pan oedd wedi ei gymeradwyo gan y Gweinidog.
5.Diweddariad gan Llywodraeth Cymru (LlC)
Fframwaith Diweddaru Pontio i Gyflogaeth: Crëwyd fframwaith newydd (Pontio i Gyflogaeth) sy'n ymwneud ag addysg a chyflogwyr, a nodwyd bod gwaith Gyrfa Cymru wedi'i hyrwyddo yn y fframwaith hwn.
Adolygu Dyraniad y Gyllideb: Ar hyn o bryd, roedd Llywodraeth Cymru wrthi'n adolygu dyraniadau'r gyllideb.
Newidiadau Strwythurol: Nodwyd bod LlC yn cael ei hailstrwythuro wrth i'r cynnydd tuag at weithredu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil barhau.e.
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
Nodwyd bod yr adroddiad blynyddol ynghylch Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol wedi'i ddiweddaru gyda dull strategol tair blynedd.
6. Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd
Trafodwyd papur adolygu effeithiolrwydd y Bwrdd gydag aelodau'r Bwrdd. Nododd aelodau'r Bwrdd fod yr adborth yn gadarnhaol.
Arolygon Allanol o Effeithiolrwydd y Bwrdd
Cynghorwyd y gallai'r cwmni gynnal arolwg allanol o effeithiolrwydd y Bwrdd bob tair blynedd a bod y Bwrdd yn gefnogol i'r syniad hwn.
Ymarferion Adeiladu Tîm
Dywedwyd y byddai rhyngweithio mwy anffurfiol a chymdeithasol yn cefnogi cydlyniant y Bwrdd. O gofio bod angen newid dyddiad cyfarfod Chwarter 3 y Bwrdd ym mis Ionawr i fis Rhagfyr, cynigiwyd pryd bwyd Nadolig i gyd-fynd â'r newid dyddiad.
Dylid cyflwyno diweddariad ar amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys diweddariad ar gynnydd ar gyfer y Bwrdd Pobl Ifanc, mewn cyfarfod Bwrdd yn y dyfodol.
7. Adolygiad o Gynnydd Strategaeth
Rhoddwyd cyflwyniad i aelodau'r Bwrdd gan y Prif Weithredydd.
Ffactorau Allanol a Rôl Aelodau'r Bwrdd
Nodwyd bod cyflwyniad Dyfodol Disglair wedi'i roi mewn cynhadledd ryngwladol. Trafododd y Bwrdd werth yr astudiaethau achos, gan ddangos taith lawn i'r cwsmeriaid wrth nodi ymyriadau a wnaed gan Gyrfa Cymru.
Dylanwadu, Olrhain a Mesur Llwyddiant
Gofynnodd y Bwrdd sut y llwyddodd y cwmni i ddylanwadu ar bobl ifanc yn llwyddiannus i fentro i feysydd/diwydiannau a oedd â phrinder sgiliau, gan edrych ar olrhain pobl ifanc, a sut y llwyddodd y cwmni i fesur ei lwyddiant.
Cyfraniad Staff
Trafododd y Bwrdd bwysigrwydd cyfraniad staff. Nodwyd bod gweithwyr yn cael cyfle i gyfrannu yn ystod y sesiynau cynllunio busnes. Cytunwyd y gellid cyflwyno papur i'r Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol yn dangos sut mae'r staff yn cyfrannu at y strategaeth.
Cam Gweithredu 2: Cyflwyno papur adborth ar sesiynau cynllunio busnes i'r Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol.
8. Cynllun Gweithredol
Nodwyd bod y Cynllun Gweithredol wedi cael ei gymeradwyo'n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.
Bydd 28% o Bl 11 yn cael cynnig. Tynnodd y Bwrdd sylw at y datganiad canlynol ar t.9: “bydd tua 28% o garfan Blwyddyn 11 yn cael y cynnig cyffredinol o waith grŵp”. Nodwyd bod y ffigur (28%) mewn perthynas â'r disgyblion nad oedd angen sesiynau wyneb yn wyneb. Argymhellodd y Bwrdd y dylid diwygio'r datganiad hwn i adlewyrchu hyn.
9. Adroddiad chwarterol
Darparwyd diweddariad llafar i'r Bwrdd.
Cofnodi Dangosyddion Perfformiad Allweddol
Argymhellodd y Bwrdd y dylid cyflwyno rhai dangosyddion perfformiad yn raddol a’u cymharu â blynyddoedd cynt.
Cam Gweithredu 3: Ystyried cynnwys ffigurau dangosyddion perfformiad allweddol o flwyddyn i flwyddyn a chynnwys y data yn adroddiad y Prif Weithredydd.
10. Cyfrifon Rheoli
Rhoddwyd diweddariad ar y cyfrifon rheoli fel rhan o'r Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg – gweler isod.
11. Pwyllgor Materion Pobl
Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor Materion Pobl yn dangos gweithgareddau allweddol; nodwyd adroddiad metrigau pobl a chyfraddau absenoldeb. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch y cynllun dysgu a datblygu, prosiect gweithlu'r dyfodol a diwylliant y cwmni. Trafodwyd pwynt olaf am gefnogaeth ynghylch yr argyfwng costau byw parhaus hefyd.
12. Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg
Cyfrifon Rheoli: Nodwyd bod y cyfrifon rheoli diwedd blwyddyn wedi'u cyflwyno i'r Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg. Nodwyd ffigurau cyfraniadau pensiwn, ynghyd â gorwariant ar TGCh.
Diweddariad y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg: Trafododd y pwyllgor Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd disgwyl i bapur mapio mewn perthynas â’r Ddeddf hon gael ei gyflwyno mewn cyfarfod pwyllgor yn y dyfodol, yn ogystal â chyflwyno strategaeth safleoedd, ac roedd gwelliannau i bapur y Rheoliadau Ariannol yn parhau.
13. Pwyllgor Perfformiad ac Effaith
Trafodwyd y Bwrdd Pobl Ifanc, y mae ei banel cyntaf i’w gynnal ym mis Medi/Hydref. Roedd pynciau eraill yn ymwneud â'r dangosyddion perfformiadau allweddol a diogelu. Cafwyd trafodaeth am wendidau person ifanc fel rhan o'r sgwrs ynghylch diogelu.
Adroddiad Diogelu
Mynegodd y Bwrdd ddiddordeb mewn gweld adroddiad diogelu gyda ffigurau mewn perthynas â phobl ifanc sy’n agored i niwed, ynghyd â naratif yn esbonio dull y cwmni.
Cam Gweithredu 4: Cyflwyno adroddiad diogelu yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith.
14. Unrhyw Fusnes Arall
Nodwyd bod angen newid ar gyfer cyfarfod y Bwrdd yn chwarter 3 er mwyn dod ag amseriadau'r cyfarfod yn unol â gofynion yr Erthyglau Cymdeithasu.
Cam Gweithredu 5: Defnyddio arolwg barn ar-lein i aildrefnu cyfarfod chwarter 3 Bwrdd CCDG.
Log Gweithredu | Arweinydd | Diweddariad i'w ddarparu |
---|---|---|
Cam Gweithredu 1. Cyflwyno diweddariad ar amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys diweddariad ar gynnydd ar gyfer y Bwrdd Pobl Ifanc, mewn cyfarfod Bwrdd yn y dyfodol. | NL/NB | Medi 26 |
Cam Gweithredu2. Cyflwyno papur adborth ar sesiynau cynllunio busnes i'r Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol. | PB | Medi 26 |
Cam Gweithredu3. Ystyried cynnwys ffigurau dangosyddion perfformiad allweddol o flwyddyn i flwyddyn a chynnwys y data yn adroddiad y Prif Weithredydd. | PB/NL | Medi 26 |
Cam Gweithredu 4. Cyflwyno adroddiad diogelu i'r Pwyllgor Perfformiad ac Effaith. | NB | Medi 26 |
Cam Gweithredu 5. Defnyddio arolwg barn ar-lein i aildrefnu cyfarfod chwarter 3 Bwrdd CCDG. | JP | Medi 26 |
Ni chofnodwyd unrhyw gamau pellach | Ddim yn berthnasol | Ddim yn berthnasol |