Mae Bwrdd Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG) yn cyfarfod bob chwarter. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu a chydymffurfio â'r cod llywodraethu corfforaethol. Isod mae cofnodion cyfarfod Bwrdd CCDG a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2024.
Aelodau'r Bwrdd yn bresennol
- Erica Cassin (Cadeirydd)
- Andrew Clark
- Helen White
- James Harvey
- Joni Ayn-Alexander
- Kate Daubney
- Azza Ali
- Rokib Uddin
- Natalie Richards
- Aled Jones-Griffith
- Dave Mathews
- Rhian Roberts
- Richard Thomas
O Gyrfa Cymru
- Nerys Bourne
- Nikki Lawrence (Prif Weithredydd- PW)
- Ruth Ryder
Llywodraeth Cymru (LlC)
Neil Surman
Sam Evans
Cyfieithydd
Delyth Davies (Cymen)
Absennol
Tony Smith
Ysgrifenyddiaeth
Donna Millward
1. Ymddiheuriadau/Datganiadau O Ddiddordeb
Derbyniwyd ymddiheuriad gan Tony Smith.
Ni nodwyd unrhyw ddatganiadau newydd o ddiddordeb.
2. Cofnodion Y Cyfarfod Blaenorol, 17 Gorffennaf 2024
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.
3. Materion yn codi
Cam Gweithredu 1, Cynnydd sero net a strategaeth adeiladau i'w trafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg. Bydd hyn yn rhan o'r agenda ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg. Felly mae'r cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Cam Gweithredu 2, Blaenoriaethu strategol o ran carbon sero net i'w ddwyn yn ôl i gyfarfod bwrdd yn y dyfodol. Cytunwyd bod y cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Cam Gweithredu 3, NL i baratoi dogfen friffio gan gynnwys effeithiau allweddol a risgiau cyllido. Cytunwyd bod y cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Cam Gweithredu 4, EC i gynnal ymweliad swyddfa i gyflwyno aelodau newydd o'r bwrdd i staff Gyrfa Cymru. DM i gefnogi gyda dyddiadau. TM o Swyddfa Caerdydd i gysylltu ag EC gyda dyddiadau arfaethedig. Felly mae'r cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Cam Gweithredu 5, RR i gysylltu ag EB i roi rhestr o ddigwyddiadau Gyrfa Cymru sy’n cael eu cynnal/eu mynychu yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Cytunwyd bod y cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Cam Gweithredu 6, RR i ddosbarthu papur cyfrifon rheolwyr i aelodau'r Bwrdd. Cytunwyd bod y cam gweithredu wedi'i gwblhau.
4. Diweddariad Y Cadeirydd – Ar Lafar
Newidiadau yn y Bwrdd
Ymddiswyddodd DH o'r Bwrdd ac roedd RT wedi bod yn camu i mewn fel Cadeirydd dros dro a bydd nawr yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith. Mae penderfyniad ynghylch cael rhywun parhaol i gymryd lle yr aelod o'r bwrdd DH yn aros am gadarnhad terfynol.
Newidiadau yn Llywodraeth Cymru
Tynnodd y Cadeirydd sylw at y newidiadau allweddol yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Prif Weinidog newydd a Gweinidog Gyrfa Cymru newydd, Jack Sargent.
5. Adroddiad y Prif Weithredydd
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol.
Risgiau Cwmni Allweddol
Nododd yr Aelodau fod y pedwar risg allweddol yn dal heb newid.
Dyfarniad Cyflog 2024/25
Eglurodd y Prif Weithredydd fod cyfarfod pwyllgor taliadau wedi'i drefnu ar gyfer dydd Gwener. Roedd Unsain wedi cyflwyno cais am ddyfarniad cyflog sydd bellach wedi'i gytuno a'i dalu. Fodd bynnag, mae datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn awgrymu cynnydd ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd trafodaethau gyda'r Undeb yn parhau ynghylch hyn.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Tynnodd y Prif Weithredydd sylw at bwysigrwydd gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid, mynychodd gyfarfod wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd gyda’r Cyfarwyddwr, Partneriaethau Cymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg a’r Dirprwy Gyfarwyddwr Sgiliau, a gryfhaodd eu perthynas waith effeithiol. Mae'r cyfarfodydd misol a chwarterol gyda Llywodraeth Cymru yn cynnwys cydweithwyr allweddol eraill yn Llywodraeth Cymru erbyn hyn sydd y tu allan i’r grŵp noddwyr. Mae sgyrsiau ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol yn parhau i sicrhau bod Gyrfa Cymru yn parhau i fod yn flaengar ac yn wybodus trwy ddysgu gan eraill a rhannu ein harferion gorau fel sefydliad blaenllaw yn y sector.
Mae'r cyfarfod "holl staff" ar-lein nesaf wedi'i drefnu ar gyfer wythnos nesaf, lle bydd diweddariad cyffredinol ar newidiadau yn cael ei ddarparu. Mae fideo gan y Prif Weithredydd/Cadeirydd wedi'i recordio a bydd yn cael ei ryddhau i gydweithwyr Gyrfa Cymru.
Diweddariad ar newid allweddol a phrosiect trawsnewidiol
Roedd yr adroddiad yn ymdrin â gwahanol welliannau gweithredol a phrosiectau trawsnewidiol.
Canolfan Deallusrwydd Data
Diweddariad wedi'i ddarparu ar gynnydd ac effaith y Ganolfan Deallusrwydd Data, gyda diweddariad astudiaeth ddichonoldeb i’w gyflwyno gan Wizard erbyn diwedd mis Hydref 2024. Prawf o gysyniad i'w rannu gyda'r Dirprwy Gyfarwyddwr Sgiliau o Lywodraeth Cymru.
Adeiladau
Mae LlC wedi cymeradwyo cynnig ar gyfer swyddfa Parc Menai. Mae achos busnes yn cael ei baratoi i geisio cytundeb ar gadw'r elw.
Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA)
Mae’r DPA yn yr adroddiadau ar y trywydd iawn, heb unrhyw bryderon ynghylch eu cyflawni. Bydd rhai o’r dangosyddion yn cael eu hadrodd yng nghyfarfod nesaf y bwrdd.
Trafododd yr Aelodau a chodi a allai aelod o'r Tîm Profiad Gwaith Gyrfaoedd (CWRE) fynychu cyfarfod bwrdd yn y dyfodol.
Cam Gweithredu 1, CWRE (addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith) i'w drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith. Cyfarwyddwr Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau i ddiweddaru aelodau'r bwrdd yng nghyfarfod nesaf y bwrdd.
Cam Gweithredu 2, Cyflwyno diweddariad ar gynnydd y dull newydd o gysylltu â chyflogwyr am ddigwyddiadau yng nghyfarfod y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith yn y dyfodol.
6. Diweddariad Llywodraeth Cymru (LlC)
Proses y Gyllideb
Mae'r broses gyllidebu fewnol yn parhau, gyda thrafodaethau gweinidogol yn digwydd i fynd i'r afael â phwysau a blaenoriaethau. Bydd canlyniad y trafodaethau hyn yn llywio camau cyllidebu pellach.
Skills England a Diwygiadau Prentisiaethau
Tynnwyd sylw at y cyhoeddiadau diweddar gan y Prif Weinidog ynghylch prentisiaethau a'r ardoll brentisiaethau yn Lloegr, a ffurfio Skills England. Pwysleisiwyd pwysigrwydd deall y newidiadau hyn a'u goblygiadau i Gymru.
Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
Nodwyd ffocws y Prif Weinidog ar gyflawni ac effaith dros y 18 mis nesaf, gyda phwyslais clir ar gysoni â blaenoriaethau'r llywodraeth. Cytunwyd bod gan Gyrfa Cymru rôl sylweddol wrth gefnogi'r blaenoriaethau hyn.
Trafododd aelodau'r Bwrdd bwysigrwydd cydweithio ag adrannau eraill y llywodraeth a'r potensial i weithio gyda Skills England er budd Cymru. Trafodwyd trafodaethau strategol parhaus o fewn Llywodraeth Cymru hefyd.
7. Adolygiad Effeithiolrwydd Y Bwrdd / Cyfarfodydd Yn Y Dyfodol
Roedd aelodau'r bwrdd wedi derbyn y papur ar ganlyniadau adolygiad effeithiolrwydd y Bwrdd. Crynhodd y Cadeirydd yr adborth.
Roedd consensws ynghylch gwerth posibl adolygiad allanol o effeithiolrwydd y bwrdd, gyda'r nod o feincnodi yn erbyn sefydliadau eraill.
Cam Gweithredu 3, Cadeirydd i gysylltu â’r Pennaeth Polisi Gyrfaoedd/Dirprwy Gyfarwyddwr Sgiliau i drafod posibilrwydd o werthusiad bwrdd allanol.
Trafododd y Cadeirydd effeithiolrwydd cyfarfodydd y bwrdd a phenderfynodd symud i bum cyfarfod bwrdd y flwyddyn, gyda dau wyneb yn wyneb a thri rhithwir. Gwnaed y penderfyniad hwn i gydymffurfio â'i erthyglau ynghylch amlder cyfarfodydd ac i gydbwyso materion gweithredol a llywodraethu yn fwy effeithiol.
Cytunodd aelodau'r Bwrdd i gynyddu nifer y cyfarfodydd i bump y flwyddyn, gydag adolygiad o leoliadau ac amseroedd cyfarfodydd.
Cam Gweithredu 4, Cynorthwyydd Gweithredol i arolygu aelodau'r bwrdd ynghylch slotiau amser a lleoliadau a ffefrir ar gyfer cyfarfodydd bwrdd 2025/26.
8. Dadansoddiad Bwlch Dyfodol Disglair / Cynnig Cwsmeriaid
Diweddarodd Cyfarwyddwr Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau aelodau'r Bwrdd ar ddadansoddiad bwlch strategaeth Dyfodol Disglair, a oedd yn canolbwyntio ar werthuso'r cynnydd a nodi bylchau wrth weithredu strategaeth Dyfodol Disglair dros y tair blynedd diwethaf, yn enwedig o ystyried toriadau i'r gyllideb.
Mae cryfderau allweddol yn cynnwys cyrhaeddiad daearyddol a demograffig cynhwysfawr, enw da cryf y brand, staff cymwysedig, technoleg uwch a gwasanaethau digidol, a phartneriaethau cadarn. Fodd bynnag, mae toriadau yn y gyllideb wedi arwain at lai o wasanaethau, heriau staffio, a straen gweithredol. Mae argymhellion y dyfodol yn pwysleisio canolbwyntio ar amcanion craidd, cysoni dangosyddion perfformiad allweddol, buddsoddi mewn dadansoddi data a deallusrwydd artiffisial, gwella cyfranogiad cwsmeriaid, a sicrhau cynwysoldeb gwasanaeth a dwyieithrwydd.
Cam Gweithredu 5, Cyfarwyddwr Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau i archwilio gyda NR - Aelod o'r Bwrdd sut y gall Gyrfa Cymru alinio gyda neu gefnogi adroddiad Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol ysgolion a’r Grant Amddifadedd Disgyblion, a allai wella effaith Gyrfa Cymru ar bobl ifanc.
9. Strategaeth – Dadansoddiad Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd A Bygythiadau (SWOT)
Arweiniodd y Prif Weithredydd drafodaeth ar ddadansoddiad SWOT a gynhaliwyd gan yr uwch dîm rheoli, gyda'r nod o lywio'r strategaeth newydd a gwelliant parhaus.
Cyfrannodd aelodau'r Bwrdd eu barn ar gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau’r sefydliad i gyfoethogi'r broses gynllunio strategol. Amlygodd yr ymarfer hwn feysydd megis dadansoddi data, argaeledd staff dwyieithog, a gwelliannau gweithredol fel meysydd ffocws allweddol.
Bydd adborth aelodau'r Bwrdd yn cael ei ymgorffori yn y dadansoddiad SWOT terfynol.
10. Cyfrifon Rheoli
Derbyniodd aelodau'r Bwrdd y cyfrifon rheoli drafft a drafodwyd ac a adolygwyd yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.
Cyflwynwyd y cyfrifon i gyfarfod y bwrdd er gwybodaeth.
11. Adroddiad Diwedd Y Flwyddyn Blynyddol
Diolchodd y Cyfarwyddwr Adnoddau a Thrawsnewid yn ffurfiol i AC - aelod o'r Bwrdd am ei gyfraniadau sylweddol gyda'r ddogfen hon a thynnu sylw at faint o waith a wnaed gan y tîm cyllid. Cafodd y Pwyllgor Archwilio Cyllid a Risg drafodaeth ac adolygiad trylwyr o'r cyfrifon. Nododd yr adborth cychwynnol a dderbyniwyd gan Archwilio Cymru fân newidiadau yn unig, heb unrhyw beth sylweddol a fyddai'n newid y drafft a gyflwynwyd.
Byddai'r cyfrifon terfynol yn cael eu cynhyrchu gan gynnwys newidiadau. Rhoddodd y Bwrdd awdurdod dirprwyedig i'r cyfrifon diwedd blwyddyn gael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg.
12. Adroddiad Blynyddol
Rhannodd y Cyfarwyddwr Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau uchafbwyntiau'r adroddiad blynyddol gydag aelodau'r bwrdd. Mae'r adroddiad yn pwysleisio gweithgareddau sy'n wynebu'r cwsmer ac ymdrechion mewnol, gan gynnwys cyfraniadau gan y timau creadigol a dysgu a datblygu, yn ogystal â mentrau sero net.
Trafododd aelodau'r Bwrdd strategaethau ar gyfer dosbarthu'r adroddiad blynyddol i wneud y mwyaf o'i effaith. Ymhlith yr awgrymiadau roedd creu fersiwn fyrrach i'w darllen yn haws a'i defnyddio fel modd o ymgysylltu â gweinidogion niferus sydd â diddordeb personol yng ngwaith Gyrfa Cymru.
Pwysleisiodd aelodau'r bwrdd bwysigrwydd defnyddio'r adroddiad ar gyfer cyfathrebu strategol â rhanddeiliaid allweddol.
13. Ch2: Pwyllgor Cyllid, Archwilio A Risg – Cofnodion (Drafft) – 7 Awst, 2024
Rhannwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf, ac amlinellodd y Cadeirydd bwyntiau allweddol y cyfarfod i'r aelodau.
14. Ch2: Pwyllgor Perfformiad Ac Effaith – Cofnodion (Drafft) – 11 Gorffennaf, 2024
Rhannwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf gydag aelodau'r Bwrdd. Amlinellodd y Cadeirydd bwyntiau allweddol y cyfarfod ar gyfer aelodau
15. Ch2: Pwyllgor Materion Pobl – Cofnodion (Drafft) – Medi 19, 2024
Rhannwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf gydag aelodau'r Bwrdd. Amlinellodd y Cadeirydd bwyntiau allweddol y cyfarfod ar gyfer aelodau.
16. Unrhyw Fusnes Arall
Ni nodwyd unrhyw fusnes arall.
Log Gweithredu
- Cam Gweithredu 1, CWRE i'w drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith. Cyfarwyddwr Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau i ddiweddaru aelodau'r bwrdd yng nghyfarfod nesaf y bwrdd. Arweinydd, NB. Diweddariad i'w ddarparu, 11.12.24.
- Cam Gweithredu 2, Cyflwyno diweddariad am gynnydd y dull newydd o gysylltu â chyflogwyr am ddigwyddiadau yng nghyfarfod y Pwyllgor Perfformiad ac Effaith yn y dyfodol. Arweinydd, NB. Diweddariad i'w ddarparu, 11.12.24.
- Cam Gweithredu 3, Cadeirydd i gysylltu â Phennaeth Polisi Gyrfaoedd/Dirprwy Gyfarwyddwr Sgiliau i drafod posibilrwydd o werthusiad bwrdd allanol. Arweinydd, EC. Diweddariad i'w ddarparu, 11.12.24.
- Cam Gweithredu 4, Cynorthwy-ydd Gweithredol i arolygu aelodau'r bwrdd ar gyfer slotiau amser a lleoliadau a ffefrir ar gyfer cyfarfodydd bwrdd 2025/26. Arweinydd, DM. Diweddariad i'w ddarparu, Cyn gynted â phosibl.
- Cam Gweithredu 5, Cyfarwyddwr Strategaeth Cwsmeriaid a Datblygu Gwasanaethau i archwilio gyda NR - Aelod o'r Bwrdd sut y gall Gyrfa Cymru gysoni â neu gefnogi adroddiad Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol ysgolion a Grant Amddifadedd Disgyblion, a allai wella effaith Gyrfa Cymru ar bobl ifanc. Arweinydd, NB. Diweddariad i'w ddarparu, Cyn gynted â phosibl.
- Dim camau pellach wedi'u cofnodi