Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cymru'n Gweithio

Mae rhaglen Cymru’n Gweithio yn cael ei chyflwyno gan Gyrfa Cymru ac mae hi’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Cymru'n Gweithio yn deall pa mor heriol yw dod o hyd i swydd, ond mae ein cynghorwyr yma i'ch helpu. Beth bynnag sy'n eich rhwystro rhag cael swydd mae'n cynghorwyr yn gwybod bod angen cyngor ac arweiniad sy'n benodol i chi.

Mae sawl rheswm pam bod cael swydd yn heriol. Efallai eich bod:

  • Gyda phroblemau iechyd neu anabledd fydd angen cymorth pellach mewn swydd
  • Wedi bod yn ddi-waith ers tro ac angen help i fagu hyder eto ac i ennill y sgiliau cywir
  • Wedi colli eich swydd a nawr angen ystyried opsiynau eraill a chyfeiriad gwahanol
  • Gyda phryderon ynglŷn â gofal plant cyn gallu dychwelyd yn ôl i'r gwaith
  • Yn ansicr am eich opsiynau a beth rydych eisiau i'w wneud nesaf

Efallai nad ydych yn gwybod ble mae dechrau arni na beth i’w wneud nesaf. Felly, cysylltwch â Cymru’n Gweithio i newid eich stori. (Bydd y ddolen yma yn eich tywys i safle allanol)


Newid dy stori. Chwilio Cymru'n Gweithio

Mae gan bawb ei stori ac efallai dy fod yn teimlo nad oes modd i ti newid dy un di. Ond mae gen ti opsiynau gyda Cymru’n Gweithio.

Gweld dogfen trawsgrifiad Newid dy Stori (Word 13KB, bydd y ddogfen hon yn lawr lwytho i'ch dyfais neu'n agor mewn porwr)