Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Dogfen Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Career Choices Dewis Gyrfa Cyfyngedig

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r fframwaith eang y mae'r Cwmni yn gweithredu ynddo a sut rydym yn gweithio gyda Gweinidogion Cymru.

1. Cyflwyniad

1.1 Mae'r ddogfen Fframwaith hon yn nodi'r fframwaith eang y mae Careers Choices/Dewis Gyrfa Cyf. (CCDG) sy'n masnachu fel Gyrfa Cymru (y "Cwmni") yn gweithredu ynddo, yn manylu ar y telerau a'r amodau y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu adnoddau oddi tanynt i'r Cwmni, ac yn diffinio rolau a chyfrifoldebau Gweinidogion Cymru a'r Cwmni’n ogystal â'r berthynas rhyngddynt. Mae erthyglau cymdeithasu'r Cwmni’n rheoli rheolaeth y Cwmni o ddydd i ddydd.

1.2 Mae talu cyllid craidd i'r Cwmni’n amodol ar berfformiad boddhaol y Cwmni o'i holl rwymedigaethau fel y nodir yn y ddogfen Fframwaith hon a'r llythyr cylch gwaith ac unrhyw amodau a gofynion eraill fel y gellid eu gosod o dro i dro gan y [Prif Weinidog yn gweithredu yn unol ag adrannau 70 a 71(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006] [Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru, gan weithredu yn unol â swyddogaethau a roddwyd gan adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

1.3 Mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod y gall rhai o weithgareddau'r Cwmni fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau neu reoliadau penodol, gan gynnwys Deddf Cwmnïau 2006, ac yn cydnabod os oes unrhyw wrthdaro rhwng y Ddogfen Fframwaith hon ac unrhyw gyfreithiau neu reoliadau perthnasol, y cyfreithiau neu'r rheoliadau hynny fydd drechaf. Bydd unrhyw gwestiwn ynghylch dehongli'r Ddogfen Fframwaith hon yn cael ei ddatrys gan Weinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â'r Cwmni.

1.4 Mae gan Weinidogion Cymru swyddogaethau amrywiol a fydd yn parhau i gronni a chael eu diwygio ac mae'n ofynnol i benderfyniadau mewn perthynas â phob swyddogaeth o'r fath gael eu gwneud yng ngoleuni'r holl ystyriaethau perthnasol, a thrwy eithrio pob ystyriaeth amherthnasol. Ni fydd unrhyw beth a gynhwysir nac a awgrymir yn y Ddogfen Fframwaith hon, neu sy'n codi o dan neu mewn cysylltiad â'r Ddogfen Fframwaith hon, yn rhagfarnu, yn llyffetheirio nac yn effeithio ar swyddogaethau Gweinidogion Cymru nac unrhyw un ohonynt nac yn gorfodi Gweinidogion Cymru nac unrhyw un ohonynt i arfer, neu ymatal rhag arfer, unrhyw rai o'u swyddogaethau mewn ffordd benodol. Bydd unrhyw gyfeiriad yn y ddogfen hon at unrhyw ddeddfwriaeth p'un ai’n gyfraith ddomestig, UE neu ryngwladol yn cynnwys pob diwygiad, amnewidiad ac ailddeddfiad i'r ddeddfwriaeth honno sydd mewn grym o bryd i'w gilydd.

1.5 Mae Gweinidogion Cymru yn aelodau o'r Cwmni, ond bydd y berthynas â’r Cwmni o ddydd i ddydd yn cael ei goruchwylio gan y tîm partneriaeth.

1.6 Mae copïau o'r ddogfen hon ynghyd ag unrhyw ddiwygiadau dilynol wedi'u rhoi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac maent ar gael i'r cyhoedd drwy wefan y Cwmni.

2. Diben y Cwmni

2.1 Sefydlwyd y Cwmni ym mis Tachwedd 2010 a daeth yn is-gwmni sy'n eiddo'n llwyr i Lywodraeth Cymru ar 1 Ebrill 2013. Fel corff cyhoeddus, mae'n gweithredu fel asiant darparu i Weinidogion Cymru a'i rôl yw cyflawni ei gyfrifoldebau a bennir yng nghyd-destun nodau strategol Llywodraeth Cymru. Prif ddiben y Cwmni yw darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd i unigolion yng Nghymru fel y nodir yn ei Erthyglau Cymdeithasu.

2.2 2.2 Nodir diben a chylch gwaith y Cwmni yng nghymal gwrthrychau Erthyglau Cymdeithasu'r Cwmni, fel a ganlyn:

  • Cyflawni swyddogaethau ei Aelod drwy ddarparu gwasanaeth gyrfaoedd, addysg ac arweiniad cynhwysfawr i unigolion a sefydliadau, gan gysylltu addysg a busnes gan gynnwys yn benodol bwerau cyfreithiol yr Aelodau a restrir o dan 2.1.1
  • Cymryd unrhyw gamau o gwbl sydd, ym marn yr aelod, yn angenrheidiol neu'n ddymunol er mwyn hyrwyddo'r gwrthrychau gan gynnwys heb gyfyngiad ddarparu unrhyw gymorth sy'n ofynnol gan yr Aelodau mewn perthynas â hynny

2.3 Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi penderfynu y bydd CCDG yn arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru i ddarparu gwasanaethau cyfarwyddyd gyrfaoedd i unigolion yng Nghymru fel y nodir yn y llythyr cylch gwaith, a nodir yn:

  • Adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973
  • Adran 8 a 9 Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973
  • Adran 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973
  • Adran 60(2)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
  • Adrannau 70 a 71 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
  • Adran 33 a 40 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000
  • Adran 12 o Ddeddf Datblygu Diwydiannol 1982
  • Adran 14 o Ddeddf Addysg 2002

2.4 Nodir ei swyddogaethau yn yr Erthyglau Cymdeithasu. Gan weithio gyda'r Cwmni, pennodd Gweinidogion Cymru ei amcanion strategol yn ei lythyr cylch gwaith. Rhaid i'r Cwmni egluro sut y bydd yn cyflawni ei amcanion strategol yn ei gynllun busnes (gweler paragraff 7.2 isod).

2.5 Bydd yr amcanion strategol a'r cynllun busnes yn parhau i fod ar waith am dymor y Llywodraeth y cânt eu pennu oddi tano ond byddant yn dod i ben os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu diddymu, uno neu newid swyddogaeth y Cwmni.

3. Llywodraethiant ac atebolrwydd

3.1 Nodir pwerau a dyletswyddau'r Cwmni’n ei Erthyglau Cymdeithasu.

3.2 Mae'r Cwmni'n gwmni cyfyngedig drwy Warant ac mae'n cael ei lywodraethu gan ei Erthyglau Cymdeithasu (Rhif y Cwmni 07442837). Gweinidogion Cymru yw unig "gyfranddaliwr" Aelod Mwyafrifol y cwmni fel y'i diffinnir yn Erthyglau Cymdeithasu'r Cwmni.

3.3 O ran ei berthynas â Llywodraeth Cymru, bydd rhai o weithgareddau'r Cwmni’n cael eu cynnwys o dan egwyddorion Teckal a ymgorfforir yn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Rhaid i'r Cwmni sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn i'r graddau sy'n gymwys iddo.

3.4 Eiddo llwyr Gweinidogion Cymru yw’r Cwmni. Rhaid iddo ymgymryd â'i weithgareddau’n unol â:

  • Ei wrthrychau fel y nodir yn ei Erthyglau Cymdeithasu
  • Yr holl gyfreithiau a rheoliadau perthnasol
  • Telerau unrhyw gymeradwyaethau Cymorth Gwladwriaethol perthnasol
  • Y llythyr cylch gwaith
  • Cynllun busnes fel y'i cymeradwywyd gan Weinidogion Cymru
  • Yr egwyddorion, y rheolau a'r canllawiau yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru

Cyfrifoldeb gweinidogol

3.5 Mae'r Prif Weinidog wedi dyrannu'r cyfrifoldeb am oruchwylio'r Cwmni i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (y "Gweinidog”). Yn gyffredinol, mae'r Gweinidog yn arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â'r Cwmni ac yn y pen draw mae'n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am ei weithgareddau, a'i ddefnydd o adnoddau. Nid yw'r Gweinidog yn gyfrifol am faterion gweithredol o ddydd i ddydd, y mae’r Cwmni’n gyfrifol amdanynt.

3.6 Mae'r Gweinidog yn pennu'r fframwaith polisi ar gyfer y Cwmni a bydd yn cyfarfod â Bwrdd cyfarwyddwyr y Cwmni [y "Bwrdd") bob blwyddyn i adolygu perfformiad a thrafod gweithgareddau'r presennol a'r dyfodol.

3.7 Mae cyfrifoldebau'r Gweinidog yn cynnwys:

  • Cytuno ar nodau ac amcanion strategol y Cwmni, a thargedau allweddol
  • Cytuno ar y gyllideb i'w thalu i'r Cwmni a sicrhau'r cymeradwyaethau angenrheidiol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Cyflawni cyfrifoldebau mewn deddfwriaeth berthnasol
  • Pennu'r fframwaith polisi ar gyfer y Cwmni a amlinellir yn y llythyr cylch gwaith ac mae'n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am ei weithgareddau
  • Cyfarfod â Chadeirydd Bwrdd CCDG yn ystod y flwyddyn i adolygu perfformiad a thrafod gweithgareddau'r presennol a'r dyfodol. Gall y Gweinidog gymryd rhan hefyd yn uniongyrchol neu drwy ddirprwy mewn unrhyw Gyfarfod Cyffredinol yn ôl y gofyn

3.8 Lle y bo'n briodol, caiff y Gweinidog weithredu drwy swyddogion yn Llywodraeth Cymru wrth gyflawni'r cyfrifoldebau hyn.

Atebolrwydd a chyfrifoldebau'r Prif Swyddog Cyfrifyddu

3.9 Prif Swyddog Cyfrifyddu Gweinidogion Cymru yw Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru. Mae gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu gyfrifoldebau a bennir gan Drysorlys EM ac mae'n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (drwy Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol) ac i Senedd y DU (drwy Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin) am:

  • Reoleidd-dra a phriodoldeb cyllid Llywodraeth Cymru
  • Cadw cyfrifon priodol Gweinidogion Cymru
  • Y defnydd effeithiol ac effeithlon o adnoddau a roddwyd i'r Cwmni o dan Gynnig Cyllideb Blynyddol Llywodraeth Cymru

3.10 Mae'r Prif Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol hefyd am sicrhau bod y rheolaethau cyllid a rheolaethau rheoli eraill a gymhwysir ar draws Llywodraeth Cymru yn briodol ac yn ddigonol i ddiogelu arian cyhoeddus.

Atebolrwyddau a chyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol

3.11 Mae Prif Swyddog Cyfrifyddu Gweinidogion Cymru yn cael ei gynorthwyo gan Gyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, y maent wedi'i ddynodi'n Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol ac y maent wedi dirprwyo cyfrifoldeb iddo am yr Is-adran y mae tîm partneriaeth y Cwmni’n rhan ohoni.

3.12 Mae gan y Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol gyfrifoldeb i gefnogi'r Prif Swyddog Cyfrifyddu i sicrhau:

  • A. Bod y rheolaethau ariannol a rheolaethau eraill a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru yn briodol ac yn ddigonol i ddiogelu arian cyhoeddus ac yn fwy cyffredinol, bod y rhai sy'n cael eu cymhwyso gan y Cwmni’n cydymffurfio â gofynion priodoldeb a rheolaeth ariannol dda
  • B. Bod datganiad digonol o'r berthynas ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cwmni (h.y. y ddogfen Fframwaith hon) a bod y datganiad hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd
  • C. Bod yr amodau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau neu'r cymorth grant a ddyfarnwyd yn cydymffurfio â thelerau'r Gyllideb a bod trefniadau ar waith i fonitro cydymffurfiaeth y Cwmni â'r amodau hynny

3.13 Mae'r Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol yn gyfrifol hefyd am sicrhau bod trefniadau ar waith i:

  • Fynd i'r afael â phroblemau sylweddol yn y Cwmni, gan wneud unrhyw ymyriadau y bernir eu bod yn angenrheidiol
  • Cynnal asesiad o'r risgiau o bryd i'w gilydd i'r Adran ac amcanion a gweithgareddau'r Cwmni
  • Hysbysu'r Cwmni am bolisi perthnasol y llywodraeth mewn modd amserol
  • Tynnu sylw Bwrdd llawn y Cwmni at unrhyw bryderon am weithgareddau'r Cwmni sydd angen esboniadau a sicrwydd y bydd camau adferol yn cael eu cymryd
  • Oni bai bod y Ddeddf yn ei gynnwys fel arall, dynodi Prif Weithredwr y Cwmni’n Swyddog Cyfrifyddu

3.14 Mae'r Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol yn gyfrifol am gynghori'r Gweinidog ar:

  • Amcanion strategol priodol ar gyfer y Cwmni yng ngoleuni nodau strategol ehangach eu Grŵp a dangosyddion cyflawni a pherfformiad allweddol
  • Cyllideb briodol i'r Cwmni yng ngoleuni blaenoriaethau gwariant cyffredinol y Grŵp
  • Pa mor dda mae'r Cwmni’n cyflawni ei amcanion strategol o fewn y fframwaith polisi ac adnoddau a bennir gan y Gweinidog ac a yw’n sicrhau gwerth am arian

3.15 Rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol sicrhau bod trefniadau goruchwylio priodol ar waith.

Tîm partneriaeth

3.16 Mae'r Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol yn dirprwyo'r cyfrifoldeb am reoli cysylltiadau o ddydd i ddydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cwmni i'r Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd a Sgiliau.

3.17 Mae'r Dirprwy Gyfarwyddwr yn arwain y tîm partneriaeth, y Gangen Polisi Gyrfaoedd, yn Llywodraeth Cymru a bydd yn gweithio'n agos gyda Phrif Weithredwr y Cwmni a bydd yn atebol i'r Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol. Y Dirprwy Gyfarwyddwr yw'r brif ffynhonnell gyngor hefyd i Weinidogion Cymru ar gyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas â'r Cwmni.

3.18 Mae cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:

  • Gweithredu fel prif bwynt cyswllt y Cwmni
  • Gweithredu fel y brif ffynhonnell cyngor i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar gyflawni ei gyfrifoldebau mewn perthynas â'r Cwmni
  • Cefnogi Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol Llywodraeth Cymru gyda’i gyfrifoldebau dros y Cwmni
  • Cysylltu'n rheolaidd â'r Cwmni i adolygu ei berfformiad ariannol yn erbyn cynlluniau a chyflawniad yn erbyn targedau
  • Llywio ac esbonio datblygiadau polisi ehangach a allai effeithio ar y Cwmni
  • Ceir rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau tîm partneriaeth Llywodraeth Cymru a'r egwyddorion y bydd yn ceisio'u dilyn yn Atodiad 1

Mae Prif Weithredwr CCDG yn atebol i'r tîm partneriaeth am y canlynol:

  • Sefydlu, mewn cytundeb â'r tîm partneriaeth, Cynllun Busnes a Chynllun Gweithredol Blynyddol CCDG
  • Rhoi gwybod i'r tîm partneriaeth am y cynnydd o ran helpu i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru, a dangos sut y defnyddir adnoddau i gyflawni'r amcanion hynny
  • Sicrhau bod rhagolygon a gwybodaeth fonitro amserol am berfformiad a chyllid yn cael eu darparu i'r tîm partneriaeth a bod y tîm partneriaeth yn cael ei hysbysu'n brydlon os yw gorwariant neu danwariant yn debygol, a bod camau unioni'n cael eu cymryd
  • Sicrhau bod y tîm partneriaeth yn cael eu hysbysu am broblemau sylweddol cyn gynted â phosibl
  • Rhoi unrhyw wybodaeth am ei berfformiad a'i wariant i'r tîm partneriaeth y gallai fod ei hangen yn rhesymol ar y tîm partneriaeth

3.19 Y pwynt cyswllt arferol i'r Cwmni wrth ymdrin â Llywodraeth Cymru yw Sam Evans yn y tîm partneriaeth. Dylai'r Cwmni hysbysu Sam Evans os yw'n bwriadu cyfarfod â maes arall o Lywodraeth Cymru (ac eithrio'r Uned Cyrff Cyhoeddus).

Atebolrwydd a chyfrifoldebau'r Prif Swyddog Gweithredol fel Swyddog Cyfrifyddu'r Cwmni

3.20Mae Prif Swyddog Gweithredol y Cwmni’n adrodd i Gadeirydd y Cwmni. Y Prif Swyddog Gweithredol yw Swyddog Cyfrifyddu'r Cwmni hefyd fel y nodir yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru. Fel Swyddog Cyfrifyddu, mae'r Prif Swyddog Gweithredol yn bersonol gyfrifol am stiwardiaeth briodol o'r arian cyhoeddus y mae ganddo gyfrifoldeb drosto; ar gyfer gweithrediadau a rheolaeth y Cwmni o ddydd i ddydd; ac am sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru. Gall cyflogeion y Cwmni gynorthwyo'r Prif Swyddog Gweithredol i gyflawni ei rôl. Gall y Prif Swyddog Gweithredol ddirprwyo'r gwaith o weinyddu'r cyfrifoldebau hyn o ddydd i ddydd i'r gweithwyr hynny hefyd ond mae'n parhau i fod yn gyfrifol ac yn atebol o dan delerau Memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu. Mae pob Swyddog Cyfrifyddu yn atebol hefyd i'r Ysgrifennydd Parhaol fel Prif Swyddog Cyfrifyddu Llywodraeth Cymru.

3.21 Rhaid i'r Bwrdd fod yn gwbl ymwybodol o'r cyfrifoldebau a osodir ar y Prif Swyddog Gweithredol fel Swyddog Cyfrifyddu ac ystyried y cyfrifoldebau hynny.

3.22 Rhoddir rhagor o fanylion am gyfrifoldebau penodol Swyddog Cyfrifyddu’r Cwmni, gan gynnwys ei atebolrwydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru a Bwrdd y Cwmni, ym Memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu, y bydd y Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol wedi'i anfon at y Swyddog Cyfrifyddu. Mae hwn wedi'i atodi yn Atodiad C er mwyn cyfeirio ato.

Cyfrifoldebau'r Prif Weithredwr i Weinidogion Cymru ac i Fwrdd y Cwmni

3.23 Caiff Prif Swyddog Gweithredol y Cwmni ei benodi a'i gyflogi gan y Bwrdd, gyda chymeradwyaeth y Gweinidog. Y Prif Swyddog Gweithredol yw prif gynghorydd y Bwrdd ar gyflawni ei swyddogaethau ac mae'n atebol i'r Bwrdd. Rôl y Prif Swyddog Gweithredol yw rhoi arweiniad gweithredol i'r Cwmni a sicrhau bod nodau ac amcanion y Bwrdd yn cael eu cyflawni a bod swyddogaethau'r Cwmni’n cael eu cyflawni a bod targedau'n cael eu cyflawni. Dylai'r Swyddog Cyfrifyddu mewn sefydliad gael ei gefnogi gan Fwrdd sydd wedi'i strwythuro yn unol â'r Cod Llywodraethu Corfforaethol.

Cyfrifoldebau mewn perthynas â Bwrdd/Cyngor y Cwmni

3.24 Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol am:

  • Gynghori'r Bwrdd ar gyflawni ei gyfrifoldebau fel y nodir yn y Ddogfen Fframwaith hon, y gyfraith berthnasol, llythyr cylch gwaith y Gweinidog neu ohebiaeth arall â'r Cwmni; ac unrhyw ganllawiau eraill a gaiff eu cyhoeddi o bryd i'w gilydd
  • Cynghori'r Bwrdd ar berfformiad y Cwmni yn erbyn ei nodau a'i amcanion
  • Sicrhau bod ystyriaethau ariannol yn cael eu hystyried yn llawn gan y Bwrdd ar bob cam wrth wneud a gweithredu ei benderfyniadau, a bod technegau gwerthuso ariannol addas yn cael eu dilyn
  • Sicrhau system o lywodraethu corfforaethol a sicrwydd da yn unol ag egwyddorion y Cod Llywodraethu Corfforaethol
  • Sicrhau bod system rheoli risg yn cael ei chynnal i lywio penderfyniadau ar gynllunio ariannol a gweithredol ac i helpu i gyflawni amcanion a thargedau
  • Sicrhau bod rheolaeth fewnol a rheolaethau ariannol cadarn yn cael eu cyflwyno, eu cynnal a'u hadolygu'n rheolaidd, gan gynnwys mesurau i ddiogelu rhag twyll a dwyn (mesurau o'r fath i ymgorffori system gynhwysfawr o awdurdodau dirprwyedig mewnol)
  • Sicrhau bod gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion am y Cwmni
  • Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau ar gyfer polisïau rheoli personél a bod y rhain yn cael eu cynnal a'u darparu'n rhwydd i'r holl staff
  • Cymryd camau fel y bo'n briodol yn unol â thelerau Memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu os yw'r Bwrdd neu ei Gadeirydd yn ystyried camau gweithredu sy'n cynnwys trafodiad y mae'r Prif Weithredwr o'r farn y byddai'n amharu ar ofynion priodoldeb neu reoleidd-dra
  • Nad yw'n cynrychioli gweinyddiaeth ddarbodus nac economaidd nac effeithlonrwydd nac effeithiolrwydd; y gellir amau ei ddichonoldeb
  • Neu'n anfoesegol

3.25 Rhaid i gydraddoldeb a gwaith teg fod wrth wraidd darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cymru ac, o'r herwydd, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r cyrff y mae'n eu hariannu weithredu safonau moesegol o ran cyflogaeth.

3.26 Mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol am benderfyniadau ynghylch staffio yn y Cwmni. Mae hyn yn cynnwys polisïau sy'n cwmpasu telerau ac amodau staff; cynnig cynllun pensiwn; a sicrhau bod arferion gwerthuso a recriwtio swyddi cadarn, priodol a theg yn cael eu dilyn. Fodd bynnag, dylid hysbysu Llywodraeth Cymru am gynigion newid penodol, gan gynnwys trefniadau diswyddo – gweler atodiad A am fanylion.

3.27 Mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol hefyd am sicrhau bod cydnabyddiaeth ariannol yn cyd-fynd ag egwyddorion cyflog sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Dylid rhoi gwybod i Bennaeth Cyflog a Chydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau cyflog – gweler atodiad A. Rhaid i Weinidogion gytuno ar unrhyw gynigion i wneud newidiadau y tu allan i'r egwyddorion cyflog.

3.28 Mae'r Prif Weithredwr yn gyfrifol hefyd am ymdrin ag achosion sy'n ymwneud ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Bwrdd y Cyfarwyddwyr

3.29 Penodir cyfarwyddwyr y Cwmni’n unol â Deddf Cwmnïau 2006 ac Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni.

3.30 Penodir y Cadeirydd ac aelodau'r Bwrdd am gyfnod o dair blynedd gan y Gweinidog. Fel penodiadau a reoleiddir, maent i'w gwneud yn unol â chod ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

3.31 Yn ogystal â phwerau a dyletswyddau cyfarwyddwyr a nodir yn Neddf Cwmnïau 2006, yr Erthyglau Cymdeithasu, a'r Cod Llywodraethu Corfforaethol, rôl y Bwrdd yw:

  • Rhoi arweiniad effeithiol i'r Cwmni, diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a phennu amcanion heriol
  • Sefydlu a datblygu nodau ac amcanion strategol y Cwmni sy'n gyson â'i ddiben cyffredinol ac o fewn y fframwaith polisi ac adnoddau a bennir gan y Gweinidog
  • Gwneud penodiadau uwch weithredol ac anweithredol i'r Bwrdd, gan gynnwys y Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol. Mae angen cymeradwyaeth y Gweinidog cyn ei benodi, yn unol â'r matrics dirprwyaethau a nodir yn atodiad A
  • Sicrhau bod strategaethau'n cael eu datblygu i gyflawni amcanion y Cwmni ar y cyd â Gweinidogion Cymru, a rhanddeiliaid perthnasol eraill, er enghraifft cyflogeion, cwsmeriaid a darparwyr cyllid
  • Sicrhau bod y Gweinidog a'r tîm partneriaeth yn cael eu hysbysu'n llawn am unrhyw newidiadau sy'n debygol o effeithio ar gyfeiriad strategol y Cwmni neu ar gyrraedd ei dargedau, a'r camau sydd eu hangen i ymdrin â newidiadau o'r fath
  • Hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian
  • Sicrhau bod gweithgareddau'r Cwmni'n cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol
  • Monitro perfformiad er mwyn sicrhau bod y Cwmni'n cyflawni ei nodau, ei amcanion a'i dargedau perfformiad
  • Sicrhau bod y Cwmni'n ystyried cyfle cyfartal wrth gymeradwyo polisïau a gwneud penderfyniadau
  • Sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i roi sicrwydd ar reoli risg, gan gynnwys diogelwch gwybodaeth, llywodraethu, archwilio mewnol, archwilio allanol a rheolaeth fewnol yn unol â gofynion statudol a rheoliadol perthnasol a, lle y bo'n berthnasol, Codau Ymarfer neu ganllawiau eraill sy'n berthnasol i'r sector
  • Hyrwyddo egwyddorion bywyd cyhoeddus Nolan: anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonest ac arweinyddiaeth

3.32 Mae'r Bwrdd yn gyfrifol hefyd am:

  • Sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol o ran defnyddio arian cyhoeddus
  • Sicrhau bod y Cwmni'n gweithredu o fewn terfynau ei awdurdod ac unrhyw awdurdod dirprwyedig y cytunwyd arno gyda'r tîm partneriaeth, ac yn unol ag unrhyw amodau eraill sy'n ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus
  • Sicrhau, wrth wneud penderfyniadau, bod y Cwmni'n ystyried canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru
  • Sicrhau ei fod yn derbyn ac yn adolygu gwybodaeth ariannol yn rheolaidd am reoli'r Cwmni
  • Sicrhau bod y Gweinidog yn cael gwybod yn brydlon am unrhyw bryderon am weithgareddau'r Cwmni, gan gynnwys gweithgareddau a allai effeithio ar lefel yr adnoddau sydd eu hangen yn y dyfodol, ac unrhyw newidiadau polisi neu ymarfer a allai fod â goblygiadau ariannol eang
  • Cymryd camau unioni priodol i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon neu newidiadau o'r fath sydd â goblygiadau ariannol eang, a rhoi sicrwydd cadarnhaol i'r Gweinidog drwy'r tîm partneriaeth ynghylch hynny

3.33 Er mwyn gwneud hyn, rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i roi sicrwydd ar reoli risg, llywodraethu a rheolaeth fewnol. Rhaid iddo sefydlu Pwyllgor Archwilio a gadeirir gan aelod anweithredol (ond nid y Cadeirydd) i roi cyngor annibynnol iddo. Rhaid i'r Bwrdd sicrhau ei hun o effeithiolrwydd y systemau rheoli mewnol a rheoli risg.

3.34 Nid yw cyfrifoldeb personol y Prif Swyddog Gweithredol fel Swyddog Cyfrifyddu i sicrhau rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian yn amharu mewn unrhyw ffordd ar gyfrifoldeb aelodau'r Bwrdd, y mae gan bob un ohonynt ddyletswydd i weithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus ac i sicrhau bod gweithgareddau'r Cwmni'n cael eu cynnal mewn modd effeithlon ac effeithiol. Rhaid i'r Bwrdd beidio â rhoi unrhyw gyfarwyddiadau i'r Prif Swyddog Gweithredol sy'n gwrthdaro â'i ddyletswyddau fel Swyddog Cyfrifyddu.

3.35 Mae'r Bwrdd yn gyfrifol hefyd am:

  • Enwebu aelod o'r Bwrdd fel yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) sy'n gyfrifol am sicrhau bod asedau gwybodaeth a risgiau yn y sefydliad yn cael eu rheoli fel proses fusnes yn hytrach nag fel mater technegol. Bydd y SIRO yn sicrhau bod risgiau gwybodaeth sy'n effeithio ar amcanion busnes yn cael eu hamlygu i'r Bwrdd ac yn cael sylw priodol
  • Cydymffurfio â’r Fframwaith Polisi Diogelwch
  • Trefnu i Archwiliad Iechyd Diogelwch Adrannol Swyddfa'r Cabinet gael ei gwblhau'n flynyddol i'w ddychwelyd i'r tîm partneriaeth i'w anfon ymlaen at SIRO Llywodraeth Cymru
  • Sicrhau bod trefniadau diogelwch yn cael eu hardystio'n annibynnol

3.36 I'r graddau a ganiateir gan yr Erthyglau Cymdeithasu, gall y Bwrdd ddirprwyo'r cyfrifoldeb am weinyddu materion rheoli o ddydd i ddydd i staff ond bydd yn parhau i fod yn gyfrifol ac yn atebol am yr holl faterion hynny yn y pen draw. Rhaid i'r Cwmni gadw rhestr o faterion a gadwyd yn ôl i'w penderfynu gan ei Fwrdd yn ogystal â chynllun dirprwyo a gymeradwywyd gan y Bwrdd.

3.37 Bydd y Cadeirydd yn cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru, drwy Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cwmni. Bydd Gweinidogion Cymru, drwy Lywodraeth Cymru, yn cael eu cynrychioli yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol perthnasol, neu ei ddirprwy.

3.38 Rhaid i'r Bwrdd weithredu mewn ffordd agored a thryloyw a rhaid iddo gyhoeddi ei aelodaeth, ei agendâu a'i gofnodion ar ei wefan.

Cyfrifoldebau Aelodau Bwrdd unigol

3.39 Wrth ymgymryd â'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, rhaid i aelodau'r Bwrdd:

  • Gydymffurfio â Chod Ymddygiad y Cwmni ar gyfer Aelodau'r Bwrdd bob amser, a chyda'r holl reolau perthnasol sy'n ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus a gwrthdaro buddiannau
  • Peidio â chamddefnyddio gwybodaeth a gafwyd yn ystod eu gwasanaeth cyhoeddus er budd personol neu elw gwleidyddol, na cheisio defnyddio cyfle gwasanaeth cyhoeddus i hyrwyddo eu buddiannau preifat na buddiannau personau neu sefydliadau y mae ganddynt berthynas â hwy
  • Cydymffurfio â rheolau ar dderbyn rhoddion a lletygarwch a buddiannau busnes allanol
  • Gweithredu bob amser yn ddidwyll ac er budd gorau'r Cwmni

Y Cadeirydd

3.40 Mae'r Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog a gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei ddwyn i gyfrif hefyd. Rhaid i'r cyfathrebu rhwng y Bwrdd a'r Gweinidog, yn ystod busnes arferol, gael ei gynnal drwy'r Cadeirydd. Rhaid i'r Cadeirydd sicrhau bod aelodau eraill y Bwrdd yn cael gwybod am bob cyfathrebiad o'r fath.

3.41 Mae'r Cadeirydd yn gyfrifol am sicrhau bod polisïau a chamau gweithredu'r Bwrdd yn cefnogi polisïau strategol ehangach y Gweinidog, a bod materion y Cwmni'n cael eu cynnal ag uniondeb. Lle y bo'n briodol, rhaid i'r Cadeirydd wneud trefniadau i gyfathrebu a lledaenu'r polisïau a'r camau gweithredu hyn ledled y Cwmni.

3.42 Mae gan y Cadeirydd gyfrifoldebau arwain penodol am:

  • Llunio strategaethau'r Bwrdd
  • Sicrhau bod y Bwrdd yn dod i benderfyniadau, yn rhoi ystyriaeth briodol i ofynion rheoli statudol ac ariannol a'r holl ganllawiau perthnasol gan gynnwys canllawiau a ddarperir gan Weinidogion Cymru
  • Hyrwyddo defnydd darbodus, effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill
  • Sicrhau safonau uchel o reoleidd-dra, priodoldeb a llywodraethu
  • Cynrychioli barn y Bwrdd i'r cyhoedd

3.43 Rhaid i'r Cadeirydd hefyd:

  • Sicrhau bod holl aelodau'r Bwrdd yn cael eu briffio'n llawn ar delerau eu penodiad ac ar eu dyletswyddau, eu hawliau a'u cyfrifoldebau
  • Sicrhau bod aelodau'r Bwrdd yn cael hyfforddiant priodol, gan gynnwys ar ofynion rheoli ariannol ac adrodd cyrff y sector cyhoeddus ac ar y gwahaniaethau a allai fodoli rhwng arferion y sector preifat a'r sector cyhoeddus
  • Sicrhau bod gan y Bwrdd gydbwysedd o sgiliau sy'n briodol i gyfarwyddo busnes y Cwmni
  • Mewn achosion lle mae penodiadau i swyddi gwag ar y Bwrdd i'w gwneud gan y Gweinidog, cynghori'r Gweinidog ar anghenion y Cwmni
  • Asesu perfformiad aelodau unigol o'r Bwrdd yn unol â'r trefniadau y cytunwyd arnynt gyda'r tîm partneriaeth
  • Sicrhau bod Cod Ymddygiad priodol ar waith ar gyfer aelodau'r Bwrdd, gan gynnwys rheolau a chanllawiau ar fuddiannau aelodau'r Bwrdd a gwrthdaro buddiannau

Presenoldeb Llywodraeth Cymru yng nghyfarfodydd y Bwrdd

3.44 Er na ddylent fod yn bresennol fel mater o drefn, mae Gweinidogion Cymru yn cadw'r hawl i'w swyddogion fynychu cyfarfodydd Bwrdd y Cwmni mewn rôl ymgynghorol a/neu sylwedydd. Gall y Bwrdd eu gwahodd i fod yn bresennol i roi cyngor neu wybodaeth benodol hefyd.

3.45 Rhaid i'r Cwmni ddarparu agendâu a phapurau ymlaen llaw i'w dîm partneriaeth ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd er mwyn caniatáu iddo ystyried a yw swyddogion yn dymuno mynychu a chyfrannu at drafodaethau. Dylid darparu papurau i'r tîm partneriaeth ar yr un pryd ag y cânt eu darparu i aelodau'r Bwrdd. Dylai'r Cwmni dynnu sylw hefyd at unrhyw faterion newydd, dadleuol, anodd neu a allai gael sgil-effeithiau i'w trafod yng nghyfarfod y Bwrdd i'r tîm partneriaeth.

3.46 Er mwyn osgoi amheuaeth, ni fydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw ran ym mhroses gwneud penderfyniadau unrhyw Fwrdd. Rhaid datblygu cytundeb ffurfiol sy'n manylu ar rôl swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

4. Gofynion adrodd

Cyfrifyddu ac adrodd statudol

4.1 Mae gofynion cyfrifyddu ac adrodd statudol y Cwmni i’w gweld yn Neddf Cwmnïau 2006. Bydd y Cwmni’n paratoi, cymeradwyo, llofnodi a chyhoeddi ei ddatganiadau ariannol bob blwyddyn ariannol yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â’i sector.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

4.2 Mae’n rhaid i’r Cwmni baratoi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, yn cynnwys Datganiad Llywodraethu, yn unol â Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth a Deddf Cwmnïau 2006.

4.3 Er mwyn cefnogi'r gwaith o baratoi cyfrifon, mae'n ofynnol cadw cofrestri o'r canlynol:

  • Rhoddion a dderbyniwyd ac a roddwyd
  • Lletygarwch a dderbyniwyd ac a gynigiwyd
  • Colledion a thaliadau arbennig fel y disgrifir yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru

Mae'r cofrestri hyn yn galluogi i'r gofynion datgelu a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru gael eu bodloni.

4.4 Yn ogystal â gofynion y Ddeddf Cwmnïau, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddogfen Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon:

  • Amlinellu prif weithgareddau a pherfformiad y Cwmni’n ystod y flwyddyn ariannol flaenorol
  • Adrodd ar berfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol a phethau eraill i’w cyflawni
  • Adrodd ar weithgareddau unrhyw gyrff corfforaethol sydd o dan ei reolaeth
  • Egluro'r berthynas rhwng y Cwmni a Gweinidogion Cymru fel aelodau o'r Cwmni mewn ffordd sy'n glir ac yn ddealladwy

Cyflwyno'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

4.5 Cyn gynted ag y bydd yr archwiliad o'r cyfrifon wedi'i gwblhau, rhaid i'r Cwmni gysylltu ag Archwilydd Cyffredinol Cymru ("ACC") neu archwilydd allanol arall lle y bo'n briodol a'r tîm partneriaeth ynghylch yr union amserlen ar gyfer cyflwyno a chyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.

4.6 Rhaid i'r Cwmni gyflwyno'r cyfrifon wedi'u llofnodi, ynghyd â llythyr cynrychiolaeth, i ACC neu archwilydd allanol arall lle bo hynny'n briodol. Rhaid anfon dau gopi o'r cyfrifon wedi'u llofnodi at y tîm partneriaeth hefyd ar ffurf copi caled.

4.8 Efallai y bydd yn ofynnol hefyd i'r Cwmni ddarparu gwybodaeth gyfrifon benodol ar gyfer proses Cyfrifon Llywodraeth Gyfan ac o bosibl ar gyfer Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru. Caiff amseriad a chwmpas y wybodaeth sy'n ofynnol ei chyfleu'n flynyddol gan Swyddogaeth Gyllid Llywodraeth Cymru drwy rwydwaith Penaethiaid Adnoddau Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

Adroddiad Blynyddol i'r Gweinidog

4.9 Cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, bydd y Cwmni'n cyflwyno adroddiad ar ei weithgareddau i'r Gweinidog. Bydd union fformat yr adroddiad blynyddol a gyhoeddir yn cael ei drafod gyda'r tîm partneriaeth, ond dylai ddangos, o leiaf, sut mae'r Cwmni wedi:

  • Cyflawni'r amcanion a bennwyd ar ei gyfer gan y Gweinidog
  • Defnyddio'r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r cynnydd y mae wedi'i wneud o ran cyfrannu at y saith nod llesiant

4.10 Ar ôl ei gyflwyno i'r Gweinidog, dylai'r Cwmni gyhoeddi ei adroddiad i ganiatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol, cleientiaid eraill a'r cyhoedd farnu ei lwyddiant o ran cyrraedd ei dargedau.

5. Trefniadau Archwilio

Archwilio mewnol

5.1 Rhaid i'r Cwmni sefydlu Pwyllgor Archwilio o'i Fwrdd i gynghori ei Swyddog Cyfrifyddu a'r Bwrdd ar ddigonolrwydd y trefniadau yn y sefydliad ar gyfer materion archwilio mewnol, archwilio allanol a llywodraethu corfforaethol. Wrth sefydlu ei Bwyllgor Archwilio, dylai'r corff gyfeirio at y canllawiau a nodir yn y Llawlyfr Pwyllgorau Archwilio. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cyflwyno adroddiad i'r Bwrdd, ac yn atebol iddo.

5.2 Rhaid i'r Cwmni:

  • Sefydlu a chynnal trefniadau ar gyfer archwilio mewnol yn unol â'r amcanion, y safonau a'r arferion a ddisgrifir yn Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (dolen Saesneg)
  • Sicrhau, pan ddarperir y swyddogaeth archwilio’n fewnol, bod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer adolygiadau ansawdd allanol o leiaf unwaith bob pum mlynedd ac yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a all ddibynnu ar yr adolygiadau hyn i roi sicrwydd ynghylch ansawdd archwiliad mewnol y Cwmni
  • Ar ôl i'r Swyddog Cyfrifyddu a'r pwyllgor archwilio eu cymeradwyo, cyflwyno'r strategaeth archwilio, cynlluniau archwilio cyfnodol ac adroddiad archwilio blynyddol (gan gynnwys barn Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol ar reoli risg, rheoli a llywodraethu) i'r tîm partneriaeth yn flynyddol
  • Hysbysu'r tîm partneriaeth cyn gynted â phosibl am unrhyw newidiadau i gylch gorchwyl ei drefniadau archwilio mewnol a/neu ei bwyllgor archwilio

5.3 Mae gan Lywodraeth Cymru hawl i weld yr holl ddogfennau a baratowyd gan archwilydd mewnol y Cwmni, gan gynnwys lle mae'r gwasanaeth wedi'i gontractio allan.

5.4 Mae gan Weinidogion Cymru'r hawl i enwebu cynrychiolydd i fynychu unrhyw un o gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg. Bydd y cynrychiolydd hwnnw, o ganlyniad i fynychu'r cyfarfodydd, yn cael copïau o holl bapurau'r Pwyllgor Archwilio a Risg, a bydd yn eu rhannu â Gwasanaethau Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros roi sicrwydd ynghylch sefydliadau sy'n dod o fewn cylch gwaith cyfrifyddu Gweinidogion Cymru. Bydd cytundeb sylwedydd ffurfiol sy'n manylu ar rôl Sylwedydd Llywodraeth Cymru yn cael ei greu a'i lofnodi gan Lywodraeth Cymru a'r Cwmni.

5.5 Bydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cael ei gadeirio gan gyfarwyddwr anweithredol (ond nid y Cadeirydd) a bydd ganddo brofiad ariannol diweddar a pherthnasol a chymhwyster proffesiynol gan gorff cyfrifyddu.

Archwilio allanol

5.6 Bydd y Cwmni’n gwneud ei drefniadau ei hun ar gyfer archwilio allanol yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 ac unrhyw ofynion y gall Llywodraeth Cymru eu pennu o bryd i'w gilydd.

5.7 Os bydd gofyn iddo wneud hynny, bydd y Cwmni’n trefnu i'w archwilydd allanol ddarparu'r sail resymegol dros ei farn archwilio i Lywodraeth Cymru ac i archwilwyr allanol Llywodraeth Cymru.

5.8 Bydd y Cwmni’n darparu i Archwilydd Cyffredinol Cymru, fel archwilydd allanol Llywodraeth Cymru, unrhyw gymorth, gwybodaeth neu esboniadau y mae'n rhesymol iddo wneud cais amdanynt wrth gyflawni ei gyfrifoldebau.

Hawl mynediad y tîm partneriaeth

5.9 Rhaid i’r Cwmni, yn ddi-dâl, ganiatáu i unrhyw swyddog neu swyddogion o Lywodraeth Cymru ar unrhyw adeg resymol a gyda rhybudd rhesymol i chi (o dan amgylchiadau eithriadol, megis atal neu ganfod twyll, efallai na fydd yn ymarferol rhoi rhybudd rhesymol i chi) ymweld â'ch safle a/neu archwilio unrhyw weithgareddau a/neu archwilio a chymryd copïau o lyfrau cyfrifon a dogfennau neu gofnodion cyffelyb eraill, ni waeth sut y cânt eu storio - sef rhai a allai, ym marn resymol y swyddog, ymwneud mewn unrhyw ffordd â defnyddio’r cyllid a ddarparwyd. Nid yw hyn yn lleihau dim ar effaith unrhyw hawliau a phwerau statudol eraill sy’n arferadwy gan Lywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru neu'r Comisiwn Ewropeaidd neu unrhyw swyddog, gwas neu asiant unrhyw un o’r uchod, ac mae’r ymgymeriad yn ddarostyngedig i’r cyfryw hawliau a phwerau statudol hynny.

6. Trefniadau rheoli

6.1 Mae rhestr o'r canllawiau a'r cyfarwyddiadau y mae'n rhaid i'r Cwmni gydymffurfio â hwy yn Atodiad A.

6.2 Oni chytunir fel arall ymlaen llaw gan y tîm partneriaeth, rhaid i'r Cwmni ddilyn yr egwyddorion, y rheolau, y canllawiau a'r cyngor yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a'r ddogfen Fframwaith hon bob amser. Rhaid i'r Cwmni gyfeirio unrhyw anawsterau neu geisiadau am eithriadau i'r tîm partneriaeth yn y lle cyntaf.

6.3 O bryd i'w gilydd, bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn am wybodaeth a data penodol gan y Cwmni. Hefyd, gall Ysgrifennydd Parhaol ac Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Thrysorlys EM, roi cyngor ac arweiniad y mae angen i gyrff cyhoeddus eu hystyried.

6.4 Rhaid i'r Cwmni sicrhau bod ei berthynas â Llywodraeth Cymru yn cael ei chydnabod yn briodol bob amser drwy ddefnyddio marc brand Llywodraeth Cymru.

7. Fframwaith cynllunio

Cynllunio busnes

Llythyrau Cylch Gwaith

7.1 Ar ddechrau tymor y Llywodraeth, bydd y Gweinidog yn cyhoeddi llythyr cylch gwaith i'r Cwmni’n nodi'r amcanion strategol y cytunwyd arnynt ar gyfer y Cwmni. Bydd y trefniant hwn yn parhau mewn grym gydol oes y weinyddiaeth (tymor y Llywodraeth), er y gellir diwygio'r cylch gwaith drwy hysbysiad ysgrifenedig os bydd blaenoriaethau gweinidogion yn newid. Ceir crynodeb o broses cylch gwaith Tymor y Llywodraeth yn atodiad B. Ar gyfer 2020-21 bydd y cwmni'n derbyn llythyr cylch gwaith blynyddol.

Cynlluniau Busnes (strategol)

7.2 O fewn tri (3) mis i dderbyn y llythyr cylch gwaith, bydd y Cwmni'n cyflwyno cynllun busnes i'r Gweinidog sy'n nodi sut y mae am gyflawni ei amcanion strategol. Dylai’r cynllun terfynol, y cytunwyd arno gan y Gweinidog, adlewyrchu nodau ac amcanion strategol y Cwmni a bydd yn aros yn ei le ar gyfer tymor cyfan y Llywodraeth (h.y. yn cwmpasu’r pum mlynedd nesaf), oni bai bod y cylch gwaith yn newid fel y nodir ym mharagraff 7.1.

7.3Ar ddiwedd tymor y Llywodraeth, bydd y cynllun busnes yn parhau tan y bydd y Llywodraeth newydd wedi pennu ei hagenda strategol.

Cynlluniau Gweithredol

7.4 Bob blwyddyn ariannol, yng ngoleuni penderfyniadau Gweinidogion Cymru ar ddyrannu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, bydd y Gweinidog yn anfon datganiad ffurfiol at y Cwmni o'i ddarpariaeth gyllidebol yn unol â pharagraff 7.10 isod.

7.5 Mewn ymateb i hyn, bydd y Cwmni'n paratoi cynllun gweithredol blynyddol sy'n nodi lefel y gwasanaeth sydd i'w gyflawni mewn meysydd allweddol a'r wybodaeth am berfformiad ac allbwn sydd i'w chasglu i fonitro cynnydd. Bydd y cynllun gweithredol yn cael ei lywio gan lythyr cylch gwaith y Gweinidog, tymor cynllun busnes y Llywodraeth, a'r lefel o gyllid sydd ar gael. Mater i'r Bwrdd yw penderfynu ar union gynnwys y cynllun hwn. Fodd bynnag, os bydd y Gweinidog neu'r Cwmni’n dymuno hynny, gellir ceisio cymeradwyaeth y Gweinidog i'r cynllun gweithredol drwy'r tîm partneriaeth.

7.6 Rhaid i'r cynllun gweithredu adlewyrchu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a rhaid i'r Cwmni egluro sut y bydd yn defnyddio'r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf a sut y bydd yn cyfrannu at gyflawni'r saith nod llesiant.

Cyhoeddi cynlluniau

7.7 Bydd y Cwmni'n sicrhau bod y cynlluniau busnes a gweithredol ar gael i'r cyhoedd.

Cynllunio'r gyllideb

7.8 Llywodraethir trefniadau cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru gan ofynion Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol.

7.9 Rhaid i'r Cwmni gydweithredu â'r tîm partneriaeth drwy ddarparu'r holl gymorth a gwybodaeth angenrheidiol i Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'i benderfyniadau cynllunio cyllideb.

7.10 Bydd y Gweinidog yn cadarnhau'r cyllidebau refeniw ac adnoddau cyfalaf net a swm y cymorth grant (arian parod) sydd i'w ddarparu i'r Cwmni ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Fel arfer, ni fydd hyn yn hwyrach na mis ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno ar y gyllideb derfynol. Rhaid i unrhyw gyllid ar gyfer y flwyddyn dan sylw gael ei awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol yn ei Gynnig Cyllideb Blynyddol.

7.11 Lle bo modd, bydd y Gweinidog yn darparu cyllidebau dangosol ar gyfer y blynyddoedd dilynol hefyd i lywio'r gwaith o gynllunio'r gyllideb. Fodd bynnag, gall lefelau cyllidebau dangosol leihau neu gynyddu’n unol â blaenoriaethau'r Llywodraeth, newidiadau i bortffolios y Gweinidogion, amrywiadau yn y gyllideb a/neu bryderon am effeithlonrwydd a/neu effeithiolrwydd y Cwmni, y gallai fod ei angen i fodelu gwahanol opsiynau ar gyfer gweithgarwch yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael.

7.12 Wrth bennu cyllidebau refeniw ac adnoddau cyfalaf a gofynion cymorth grant, rhoddir ystyriaeth i lefelau'r cronfeydd wrth gefn (os oes rhai) sydd gan y Cwmni ac incwm a ddisgwylir o ffynonellau eraill.

8. Rheoli perfformiad

8.1 Rhaid i'r Cwmni weithredu systemau rheoli, gwybodaeth a chyfrifyddu sy'n ei alluogi i adolygu ei berfformiad ariannol ac anariannol mewn modd amserol ac effeithiol yn erbyn ei amcanion. Rhaid iddo hysbysu'r tîm partneriaeth am unrhyw newidiadau sy'n ei gwneud yn fwy neu'n llai anodd cyflawni amcanion.

8.2 Yn unol â'r gofynion adrodd a nodir yn y trefniadau goruchwylio sydd i'w cytuno rhwng y Cwmni a'r tîm partneriaeth, mae’n rhaid rhannu dogfennau sicrwydd allweddol, dangosyddion perfformiad allweddol, manylion gwariant gwirioneddol a gwariant a ragwelir, a gwybodaeth fonitro arall y cytunwyd arni gyda'r tîm partneriaeth ar adegau y cytunwyd arnynt i ddangos bod cerrig milltir a thargedau'n cael eu cyflawni, a bod dangosyddion perfformiad allweddol o fewn lefelau derbyniol.

8.3 Bydd y Cadeirydd yn cyfarfod â'r Gweinidog o leiaf ddwywaith y flwyddyn hefyd i drafod cynnydd.

8.4 Mae dyletswydd ar y tîm partneriaeth i gynnal asesiadau cyfnodol o'r sicrwydd risg sydd ar gael iddynt a gall ddiwygio lefel yr oruchwyliaeth yn unol â hynny.

9. Cyllidebau adnoddau refeniw a chyfalaf

9.1 Bydd gwariant yn erbyn cyllidebau refeniw ac adnoddau cyfalaf yn cael ei gofnodi a'i fonitro gan y Cwmni’n unol â Chanllawiau Cyllidebu Cyfunol Trysorlys EM (neu ei olynydd). Dyma'r terfynau gwariant net ar gyfer y Cwmni ym mhob blwyddyn, gan gynnwys unrhyw ddefnydd o gronfeydd wrth gefn y gwnaed darpariaeth gyllidebol ar eu cyfer ac y mae'n rhaid cadw atynt. Ni all gwariant net sy'n uwch na'r terfynau hyn gael ei ymrwymo tan neu oni bai bod y tîm partneriaeth wedi cytuno ar gyllideb ddiwygiedig yn ysgrifenedig.

9.2 Ni chaiff y Cwmni dorri cydrannau'r cyllidebau refeniw ac adnoddau cyfalaf. Rhaid ceisio cymeradwyaeth ymlaen llaw ac yn ysgrifenedig os yw'r Cwmni'n dymuno gwario mwy mewn un categori a llai mewn categori arall.

9.3 Mae cyllidebau refeniw ac adnoddau cyfalaf yn cwmpasu'r holl incwm a gwariant gan y Cwmni, gan gynnwys grantiau wedi'u neilltuo a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ac incwm a dderbynnir o ffynonellau eraill.

9.4 Os yw'r Cwmni wedi'i ddynodi mewn Gorchymyn o dan adran 126A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, y cyllidebau adnoddau net, y terfyn incwm a gedwir, a chymorth grant (pleidleisir ar yr arian a bennwyd ar gyfer y flwyddyn dan sylw yng Nghynnig Cyllideb Cynulliad Cenedlaethol Cymru.) Os nad yw'r Cwmni wedi'i ddynodi, dim ond y cymorth grant a bleidleisir yng Nghynnig y Gyllideb.

Cyllidebau incwm ac adnoddau

9.5 Mae pob ffrwd incwm a dderbynnir gan y Cwmni’n cael ei thrin fel arian cyhoeddus ac mae gofynion y ddogfen hon yr un mor berthnasol iddynt.

9.6 Rhaid i'r Cwmni geisio, cyn belled ag y bo modd, sicrhau'r incwm mwyaf posibl o ffynonellau heblaw'r sector cyhoeddus lle mae hyn yn gyson â'i swyddogaethau (ac mae'n cyd-fynd â'r cynlluniau busnes a gweithredol). Gall gadw incwm hyd at y lefel a nodir yn y llythyr ariannu sy'n deillio, er enghraifft, o enillion o werthu tir ac adeiladau ac asedau eraill, grantiau a roddir gan yr UE, grantiau a roddir drwy gronfeydd y loteri, unrhyw elw o weithgareddau masnachol y Cwmni a'r rhai sy'n deillio o werthu gwasanaethau i farchnadoedd ehangach. Rhaid ymgymryd â gweithgarwch o'r fath yn unol â thelerau Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a'r ddogfen Fframwaith hon.

9.7 Mae'r terfyn ar gyfer incwm y gall y Cwmni ei gadw i’w weld yn y llythyr ariannu. Os bydd cyfanswm yr incwm yn fwy na'r terfyn hwnnw, dylai'r Cwmni drafod gyda'r tîm partneriaeth a cheisio cymeradwyaeth cyfarwyddwr cyllid Llywodraeth Cymru.

9.8 Gall rhai mathau o incwm megis rhoddion, grantiau ar gyfer ymchwil gan sefydliadau nad ydynt yn rhai cyhoeddus, neu gymynroddion a roddir i'r Cwmni gael eu cyfyngu o ran defnydd. Dylid rheoli cronfeydd o'r fath yn unol â thelerau'r rhodd/grant neu'r gymynrodd. Rhaid iddynt barhau i gael eu cynnwys o fewn yr incwm a adroddir gan y Cwmni a bod yn rhan o'r terfyn cadw incwm.

Grantiau, benthyciadau a chontractau a ddyfarnwyd gan y Cwmni i endidau eraill

9.9Rhaid i bob grant gydymffurfio â thelerau Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a chael ei wneud yn ddarostyngedig i delerau ac amodau priodol sy'n darparu diogelwch digonol i'r pwrs cyhoeddus.

9.10 Rhaid i delerau ac amodau, er enghraifft, ganiatáu ar gyfer taliadau fesul cam, atgyfnerthu hawliau mynediad i swyddogion Llywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, sicrhau bod buddiannau ariannol Llywodraeth Cymru yn cael eu diogelu'n ddigonol a chaniatáu adfachu mewn rhai amgylchiadau, e.e. os defnyddir arian grant at ddibenion heblaw dibenion cymeradwy.

9.11 Rhaid i'r Cwmni gymryd camau i arfarnu sefyllfa ariannol yr endid sy'n derbyn, e.e. drwy adolygu datganiadau ariannol a chydymffurfiaeth â chyrff adrodd statudol, a chynnal gwiriadau gydag asiantaethau cyfeirnod credyd.

9.12 Rhaid hysbysu'r tîm partneriaeth am unrhyw gynlluniau benthyca y mae'r Cwmni am ymrwymo iddynt. Pan roddir cymeradwyaeth, rhaid rheoli benthyca o dan drefniadau tebyg i'r rhai ar gyfer grantiau.

Cymorth gwladwriaethol

9.13 Os yw'r Cwmni'n cymryd rhan mewn gweithgareddau economaidd masnachol, bydd angen iddo gydymffurfio â'r rheolau cymorth gwladwriaethol Ewropeaidd a sicrhau bod yr holl grantiau neu ddyfarniadau’n cydymffurfio â'r rheolau cymorth gwladwriaethol hefyd. Mae'r Cwmni'n gyfrifol am sicrhau lefelau priodol o dryloywder wrth adrodd ar y mathau o gymorth a ddarparwyd. Bydd y Cwmni'n cymhwyso'r 5 prawf cymorth gwladwriaethol cyn dyfarnu grantiau ac yn sicrhau bod cymorth gwladwriaethol yn cael ei reoli'n briodol, gan gofio ei fod yn fantais ar unrhyw ffurf o gwbl, wedi'i roi ar sail ddetholus i ymgymeriad sy'n ymwneud â gweithgarwch economaidd, gan roi mantais iddo na fyddai wedi'i chael fel arall. Cyfeiriwch at dudalennau cymorth gwladwriaethol gwefan Llywodraeth Cymru

9.14 Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu system cyn hysbysu ar gyfer unrhyw benderfyniadau y mae'r Cwmni'n eu gwneud a allai effeithio ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru. Nodir manylion y penderfyniadau hyn yn Atodiad B.

10. Cymorth grant a rheoli arian parod

10.1 Cymorth Grant yw swm yr arian parod sy'n daladwy gan Lywodraeth Cymru i'r Cwmni ym mhob blwyddyn i ariannu ei weithrediadau ac mae'n annibynnol ar ffigurau'r gyllideb, er ei fod yn deillio ohonynt. Nid yw'n cynnwys dibrisiant nac unrhyw drefniadau cyllidebol a ddyrennir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer defnydd y Cwmni o'i gronfeydd wrth gefn ei hun.

10.2 Bydd y cymorth grant yn cael ei dalu mewn rhandaliadau misol fel arfer ar sail ceisiadau ysgrifenedig sy'n dangos tystiolaeth o angen am arian parod a chan unigolyn sydd wedi'i awdurdodi i wneud hynny. Bydd y Cwmni'n cydymffurfio â'r egwyddor gyffredinol nad oes taliad cyn bod ei angen. Bydd balansau arian parod a gronnwyd yn ystod y flwyddyn o gymorth grant neu gronfeydd eraill yn cael eu cadw i lefel ofynnol sy'n gyson â gweithrediad effeithlon y Cwmni. Bydd cymorth grant nad yw'n cael ei dynnu i lawr erbyn diwedd y flwyddyn ariannol yn dod i ben. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cynulliad i'r ddarpariaeth Cynnig Cyllideb berthnasol, lle mae oedi o ran cymorth grant er mwyn osgoi balansau arian parod gormodol ar ddiwedd y flwyddyn, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu unrhyw gymorth grant o'r fath sy'n ofynnol i fodloni unrhyw rwymedigaethau ar ddiwedd y flwyddyn, megis credydwyr, yn y flwyddyn ariannol nesaf.

10.3 Fel isafswm, bydd y Cwmni'n parhau i ddarparu gwybodaeth reolaidd i Lywodraeth Cymru drwy ei hawliadau cymorth grant a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fonitro'r canlynol yn foddhaol:

  • Rheolaeth arian parod y Cwmni
  • Y cymorth grant a dynnir i lawr ganddo
  • Rhagolwg alldro yn ôl penawdau adnoddau
  • Data arall sy'n ofynnol ar gyfer systemau adrodd Trysorlys EM

Balansau arian parod

Yn ystod y flwyddyn

10.4 Rhaid cadw balansau arian parod a gronnwyd yn ystod y flwyddyn ariannol ar y lefel isaf sy'n gyson â gweithrediad effeithlon y Cwmni.

10.5 Rhaid i'r Cwmni geisio osgoi cadw balans gweithio sy'n fwy na'r hyn sy'n cyfateb i 4 y cant o'i gyllideb cymorth grant flynyddol pan fydd yn derbyn pob rhandaliad o gymorth grant. Mae unrhyw arian sy'n fwy na'r swm hwnnw sydd gan y Cwmni fel balans gwaith ar ddiwedd pob cyfnod ariannu i'w ystyried wrth bennu swm yr arian parod sydd i'w dalu yn y cyfnod canlynol.

Diwedd Blwyddyn

10.6 Caniateir i'r Cwmni gario drosodd o un flwyddyn ariannol i'r nesaf unrhyw falansau arian parod a dynnwyd i lawr ond nas gwariwyd o hyd at 3 y cant o gyfanswm ei gyllideb cymorth grant flynyddol y cytunwyd arni. Rhaid cytuno'n ysgrifenedig ar unrhyw gynnig i gario symiau sy'n fwy na'r swm hwn drosodd ymlaen llaw gyda Llywodraeth Cymru drwy’r tîm partneriaeth fesul achos. Bydd unrhyw swm sy'n cael ei gario drosodd sy'n fwy na'r swm y cytunwyd arno yn cael ei ystyried yn nyfarniad cyllideb y flwyddyn ddilynol.

Llog a enillwyd ar arian parod a balansau banc

10.7 Bydd yr holl log, yn net o unrhyw daliadau banc, a enillir gan y Cwmni ar ei falansau arian parod a banc a geir o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei ddatgan bob mis ar ffurflen gais y Cwmni i dynnu i lawr a'i ildio i Drysorlys EM drwy Gronfa Gyfunol Cymru.

11. Economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd

Sail dystiolaeth

11.1 Er mwyn sicrhau gwerth am arian, rhaid i'r Cwmni fod â systemau priodol ar waith, a'r gallu, i sicrhau bod ei bolisïau a'i raglenni’n seiliedig ar dystiolaeth mewn perthynas â'u datblygiad, eu gweithredu a'u gwerthuso.

Adolygiadau wedi'u teilwra

11.2 Bydd y tîm partneriaeth yn ystyried yn flynyddol yr angen am Adolygiad wedi'i Deilwra o'r Cwmni, a fydd yn seiliedig ar y fframwaith risg ac yn gymesur â maint y sefydliad. Cynhelir adolygiadau bob pum (5) mlynedd ar y mwyaf a bydd y Cwmni'n cael rhybudd ymlaen llaw am adolygiad sy'n cael ei gynnal. Diben yr adolygiad yw rhoi sicrwydd i'r Gweinidog bod y Cwmni'n addas i'r diben. Bydd yr adolygiad yn ystyried cryfderau a gwendidau a gallu'r Cwmni i gyflawni'n fwy effeithiol ac effeithlon, gan gynnwys nodi'r potensial ar gyfer arbedion effeithlonrwydd, a lle y bo'n briodol, ei allu i gyfrannu at dwf economaidd. Bydd yn ystyried y trefniadau rheoli a llywodraethu sydd ar waith hefyd i sicrhau bod y sefydliad a'i dîm partneriaeth yn cydymffurfio ag egwyddorion cydnabyddedig llywodraethu da.

Cymeradwywyd telerau’r Ddogfen Fframwaith hon gan y Gweinidog ar gyfer [nodwch y Portffolio priodol] ar [nodwch y dyddiad].

Llofnod Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer [Nodwch]

Dyddiedig

Llofnod Prif Weithredwr ar gyfer swyddog arall a enwebwyd ar ran y [Teitl]

Dyddiedig

Atodiad A – dirprwyaethau

Trefniadau galw i mewn cyrff cyhoeddus – trefniadau cymeradwyo, cyn-hysbysu a Cymeradwyaeth

1. Ar gyfer 2019/20 rydym wedi cytuno â threfniadau trosiannol y Prif Weinidog i roi sicrwydd iddo ef a'r Ysgrifennydd Parhaol nad yw dileu'r gweithdrefnau galw i mewn gyda chyrff hyd braich yn peri unrhyw risg i Lywodraeth Cymru, nac i gyflawni Rhaglen y Llywodraeth yn effeithiol. Trefniadau interim yw'r rhain i ddarparu data sylfaenol i Lywodraeth Cymru i asesu nifer y materion lle y trosglwyddir cyfrifoldeb a chael golwg ar y dull y mae pob corff yn ei ddilyn gyda’r trefniadau newydd.

2. Bwriad y trefniadau trosiannol yw rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru sut mae'r broses newydd yn gweithio'n ymarferol, yn hytrach na pharhau â mecanwaith ar gyfer cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

3. Rydym wedi cytuno â'r Prif Weinidog y byddwn yn rhoi trefniadau Cymeradwyo, Cyn-hysbysu a Hysbysu ar waith ar gyfer eleni ar gyfer penderfyniadau a oedd gynt yn destun trefniadau galw i mewn.

4. Bydd Swyddogion Cyfrifyddu mewn Cyrff Cyhoeddus yn atebol am y penderfyniadau y mae angen eu hysbysu. Gall Llywodraeth Cymru roi cyngor ar faterion y mae angen eu hysbysu ymlaen llaw, fel y nodir yn Nhabl B, ond mater i'r Prif Weithredwr yw gwneud y penderfyniad yn y pen draw. Os bydd y Cwmni'n penderfynu diystyru cyngor Llywodraeth Cymru, bydd y tîm partneriaeth yn argymell i'r Gweinidog y dylid cynnal trafodaeth gyda'r Cadeirydd, gyda'r Gweinidog yn cadw'r hawl i wrthod penderfyniad sy'n perthyn i'r categori hwn lle mae'r Cwmni wedi dewis diystyru cyngor Llywodraeth Cymru am ddim rheswm y gellir ei gyfiawnhau.

5. Yr eithriadau fydd y penderfyniadau a geir yn Nhabl A lle bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y penderfyniad.

Tabl A - cymeradwyaethau

Tabl yn dangos penderfyniadau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru a phwy sy’n eu cymeradwyo:
Penderfyniad Cymeradwyaeth
Penodi Prif Weithredwr Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol a'r Gweinidog
Tymor Cynllun Busnes y Llywodraeth Gweinidog

Ar gyfer cwmnïau a ddosberthir fel sefydliadau Llywodraeth ganolog at ddibenion cyfrifyddu:

  • a. Arian parod sy'n cael ei gario drosodd yn ystod y flwyddyn sy'n fwy na 4% o gyfanswm y Cymorth Grant/Arian Parod
  • b. Arian parod sy'n cael ei gario drosodd ar ddiwedd y flwyd dyn sy'n fwy na 3% o gyfanswm y Cymorth Grant/Arian Parod
  • c. Sefydlu is-gwmnïau/cyd-fentrau newydd
  • d. Unrhyw fenthyciadau, benthyca, gwarantau, indemniadau neu fuddsoddiad sy'n gysylltiedig ag arian cyhoeddus
  • e. Cadw incwm yn ychwanegol at yr hyn a nodir yn y llythyr ariannu

Unrhyw benderfyniad a nodir mewn deddfwriaeth sy'n gofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru e.e. Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion gymeradwyo cynllun corfforaethol blynyddol

Cyfarwyddwr Cyllid Llywodraeth Cymru

Gweinidog

Trefniadau dileu swydd yn seiliedig ar Gynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil (cyrff â Phensiwn y Gwasanaeth Sifil) Pennaeth Cyflog a Chydnabyddiaeth Ariannol a fydd yn gofyn am gyngor gan y Gweinidog fel y bo'n briodol

Tabl B - trefniadau cyn hysbysu

Dylai Prif Swyddogion Gweithredol roi gwybod i'w tîm partneriaeth am unrhyw benderfyniadau arfaethedig sy'n dod o dan y categorïau canlynol pan fyddant yn codi er mwyn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddarparu cyngor priodol. Bydd y tîm partneriaeth yn ceisio ymateb o fewn pythefnos cyn belled ag y bo modd. Os bydd y Corff yn penderfynu diystyru cyngor Llywodraeth Cymru, gall y tîm partneriaeth uwchgyfeirio’r mater i'r Gweinidog, sy'n cadw'r hawl i wrthod penderfyniad a wneir gan Gorff Cyhoeddus nad oes modd ei gyfiawnhau, ar ôl trafod.

Dylai'r penderfyniadau hyn fod yn rhan o drafodaeth 'pwyso a mesur' mewn cyfarfodydd monitro chwarterol hefyd:

Tabl yn dangos trefniadau cyn-hysbysu:
Penderfyniad Camau Cyn Hysbysu Cyngor Pellach

Cynigion newydd, dadleuol neu â sgil effeithiau yn unol â Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gynigion:

  • Sy'n arfer ansafonol
  • Sy'n wleidyddol sensitif a/neu'n debygol o ddenu sylw negyddol yn y cyfryngau
  • A allai arwain at ganlyniadau annymunol i'r sefydliad a/neu i'r sector cyhoeddus ehangach
Tîm partneriaeth, ar y cyd â'r timau polisi priodol, i baratoi cyngor i’w drafod gyda'r Uned Cyrff Cyhoeddus, a fydd yn gofyn am gyngor ysgrifenedig gan Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol ac unrhyw Gorff arall sydd ag arbenigedd yn y mater Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol a'r Gweinidog, fel y bo'n briodol
Unrhyw gamau gweithredu a ystyriwyd gan y Bwrdd a fyddai'n mynd yn groes i egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb, gweinyddu darbodus ac economaidd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ac y mae'r Prif Swyddog Gweithredol wedi cynghori yn eu herbyn Tîm partneriaeth i baratoi cyngor i'r Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol
Newid polisi neu ymarfer sydd â goblygiadau ariannol eang Tîm partneriaeth i baratoi cyngor i'r Pennaeth Rheolaeth Gyllidebol gyda chopi i'r Uned Cyrff Cyhoeddus Gweinidog, fel y bo'n briodol
Cydnabyddiaeth ariannol staff a thelerau ac amodau

Tîm partneriaeth i gyflwyno cynigion i'r Pennaeth Cyflog a Chydnabyddiaeth Ariannol, Uned Cyrff Cyhoeddus ar:

  • Newidiadau y tu allan i egwyddorion cyflog sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru
  • Newidiadau cynllunio sefydliadol sy'n debygol o arwain at ddiswyddo
Gweinidog, fel y bo'n briodol
Unrhyw beth a allai effeithio ar lefel yr adnoddau sydd eu hangen yn y dyfodol e.e. pwysau cyllidebol neu danwariant posibl Tîm partneriaeth i ystyried Cyfarwyddwr Cyllid Llywodraeth Cymru, fel y bo'n briodol

Trefniadau hysbysu eraill

Yn ystod y cyfnod pontio, dylai Prif Swyddogion Gweithredol hysbysu timau partneriaeth yn eu cyfarfodydd monitro chwarterol am unrhyw benderfyniadau eraill y maent wedi'u gwneud neu maent yn debygol o'u gwneud yn y chwarter nesaf a fyddai wedi cael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru o'r blaen.

Atodiad B - proses cylch gwaith tymor y Llywodraeth

[Yn y ddogfen wreiddiol, roedd Atodiad B yn gysylltiedig â chyflwyniad PowerPoint nad yw wedi’i atgynhyrchu ar gyfer y fersiwn we hon. I ofyn am gopi o’r cyflwyniad hwn neu gopi gwreiddiol y ddogfen hon, anfonwch e-bost at foi@careerswales.gov.wales.]

Atodiad C - memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu

MEMORANDWM AR GYFER Y SWYDDOG CYFRIFYDDU AR GYFER Careers Choices/ Dewis Gyrfa (CCDG)

Cyflwyniad

1. Mae'r Memorandwm hwn yn egluro cyfrifoldebau uwch swyddog (Prif Weithredwr neu gyfatebol fel arfer) corff cyhoeddus Llywodraeth Cymru sydd wedi'i ddynodi'n Swyddog Cyfrifyddu. Mae ei gynnwys yn berthnasol hefyd i uwch swyddogion cyrff cyhoeddus nad oes Swyddog Cyfrifyddu dynodedig ar eu cyfer. Nid yw'n gymwys i'r uwch swyddogion hynny o Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (fel Tribiwnlysoedd a Chyrff Cynghori) sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru (yn hytrach na chael eu hariannu drwy grant neu gymorth grant) ac y mae Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol Llywodraeth Cymru felly yn atebol amdanynt.

2. Ariennir cyrff cyhoeddus mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft drwy gymorth grant, grant, incwm o ffioedd a thaliadau neu gronfeydd y sector preifat. Mae Swyddog Cyfrifyddu wedi'i ddynodi ar gyfer y cyrff hynny sy'n cael eu hariannu gan grant mawr neu gymorth grant neu lle mae cyfrifon y corff i'w gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Os yw er budd atebolrwydd cyhoeddus, bydd Llywodraeth Cymru yn dynodi Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer corff sy'n derbyn ei brif arian o ffynonellau eraill hefyd. Mae'n egwyddor bwysig, waeth beth fo ffynhonnell y cyllid, fod Swyddogion Cyfrifyddu’n atebol i'r Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru am yr holl adnoddau sydd o dan eu rheolaeth.

3. Prif Swyddog Cyfrifyddu Gweinidogion Cymru, a ddynodwyd yn unol ag Adran 129 (6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006), sy'n gyfrifol am sicrhau bod Swyddogion Cyfrifyddu priodol yn cael eu penodi ar gyfer cyrff cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Prif Swyddog Cyfrifyddu, yn ei dro, wedi dirprwyo cyfrifoldeb i'w Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol (a ddynodwyd o dan Adran 133 (2) o Ddeddf 2006) am ddynodi uwch swyddogion cyrff y mae eu Cyfarwyddiaethau'n eu goruchwylio yn Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol.

Cyfrifoldebau cyffredinol Swyddog Cyfrifyddu'r corff hyd braich

4. Mae eich dynodiad fel Swyddog Cyfrifyddu’n adlewyrchu'r ffaith mai chi sy'n gyfrifol am drefniadaeth, rheolaeth a staffio cyffredinol y corff ac am ei weithdrefnau mewn materion ariannol a materion eraill o dan y Bwrdd (p'un a ydych yn aelod o'r Bwrdd ai peidio).

5. Rhaid i chi sicrhau bod safon uchel o reolaeth ariannol yn y Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd; bod systemau a gweithdrefnau ariannol yn hyrwyddo'r gwaith o gynnal busnes yn effeithlon ac yn ddarbodus ac yn diogelu priodoldeb a rheoleidd-dra ariannol ym mhob rhan o'r corff; a bod ystyriaethau ariannol, gan gynnwys dichonoldeb a chynaliadwyedd, yn cael eu hystyried yn llawn wrth wneud penderfyniadau ar gynigion polisi.

Cyfrifoldebau penodol Swyddog Cyfrifyddu'r corff

6. Hanfod rôl y Swyddog Cyfrifyddu yw cyfrifoldeb personol am briodoldeb a rheoleidd-dra'r arian cyhoeddus yr ydych yn atebol amdano; ar gyfer cadw cyfrifon priodol; ar gyfer gweinyddiaeth ddarbodus ac economaidd; er mwyn osgoi gwastraff ac afradlonedd; ac ar gyfer defnyddio'r holl adnoddau'n effeithlon ac yn effeithiol.

7. Fel Swyddog Cyfrifyddu, rhaid i chi:

  • A. Sicrhau bod system gadarn o reolaeth fewnol yn cael ei chynnal yn eich sefydliad i gefnogi'r gwaith o gyflawni ei bolisïau, ei nodau a'i amcanion a dylech adolygu effeithiolrwydd y system yn rheolaidd
  • B. Sicrhau bod yr adnoddau yr ydych yn gyfrifol amdanynt yn cael eu rheoli'n briodol ac yn dda (gweler paragraff 8 isod) a'u diogelu, gyda gwiriadau annibynnol ac effeithiol o falansau arian parod yn nwylo unrhyw swyddog
  • C. Sicrhau bod asedau yr ydych yn gyfrifol amdanynt, megis tir, adeiladau neu eiddo arall, gan gynnwys storfeydd ac offer, yn cael eu rheoli a'u diogelu gyda gofal tebyg, a chyda gwiriadau fel y bo'n briodol
  • D. Sicrhau, wrth ystyried cynigion polisi sy'n ymwneud â'r gwariant neu'r incwm y mae gennych gyfrifoldeb drosto, bod yr holl ystyriaethau ariannol perthnasol, gan gynnwys dichonoldeb a chynaliadwyedd, yn cael eu hystyried, bod gwerth am arian y cynnig yn cael ei asesu yn unol â'r egwyddorion a nodir yng nghanllawiau Trysorlys EM "Y Llyfr Gwyrdd: Arfarnu a Gwerthuso mewn Llywodraeth Ganolog”; rhoddir ystyriaeth lawn i unrhyw faterion sy'n ymwneud â phriodoldeb a rheoleidd-dra; a defnyddir technegau rheoli rhaglenni a phrosiectau o ansawdd da fel y bo'n briodol i olrhain cynnydd a, lle bo angen, addasu cynnydd. Lle bo angen, dylid dwyn ystyriaethau o'r fath i sylw'r Bwrdd
  • E. Sicrhau bod risgiau (boed hynny i gyflawni amcanion busnes, rheoleidd-dra a phriodoldeb neu werth am arian) yn cael eu nodi, bod eu harwyddocâd yn cael ei asesu, a bod systemau priodol ar waith i'w rheoli
  • F. Sicrhau bod eich rheolaeth o gyfleoedd a risg yn sicrhau'r cydbwysedd cywir sy'n gymesur â busnes eich sefydliad a'r parodrwydd i dderbyn risg yr ydych yn barod i'w ysgwyddo
  • G. Bod â threfniadau ar waith i atal twyll a sicrhau y cydymffurfir â gweithdrefnau ar gyfer ymdrin ag achosion tybiedig
  • H. Sicrhau bod eich sefydliad yn cydymffurfio â gofynion y Ddogfen Fframwaith

8. Dylech sicrhau hefyd bod rheolwyr ar bob lefel:

  • A. â barn glir am eu hamcanion, a'r modd i asesu a, lle bo modd, i fesur allbynnau neu berfformiad mewn perthynas â'r amcanion hynny
  • B. Yn cael cyfrifoldebau wedi'u diffinio'n dda ar gyfer gwneud y defnydd gorau o adnoddau (y rhai a ddefnyddir gan eu gorchmynion eu hunain ac unrhyw rai sydd ar gael i sefydliadau neu unigolion y tu allan i'r corff) gan gynnwys craffu beirniadol ar allbwn a gwerth am arian
  • C. Cael y wybodaeth (yn enwedig am gostau), hyfforddiant a mynediad i'r cyngor arbenigol sydd ei angen arnynt i arfer eu cyfrifoldebau'n effeithiol
  • D. Rhaid i chi sicrhau bod eu trefniadau dirprwyo’n hyrwyddo rheolaeth dda a'u bod yn cael eu cefnogi gan y staff angenrheidiol sydd â chydbwysedd priodol o sgiliau. Dylai'r trefniadau ar gyfer archwilio mewnol gyd-fynd â'r amcanion, y safonau a'r arferion sydd yn Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus

9. Nid oes amheuaeth nad yw'r Swyddog Cyfrifyddu yn cyrraedd y safonau uchaf o ran gonestrwydd heb deyrngarwch rhanedig. Rhaid rheoli gwrthdaro buddiannau posibl yn effeithiol ac yn unol â'r canllawiau sydd yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Atebolrwydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

10. Fel Swyddog Cyfrifyddu, rydych yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am:

  • Sicrhau safonau uchel o ran uniondeb wrth reoli a rheoli arian cyhoeddus yn eich sefydliad. Byddwch yn adrodd ar hyn yn eich Datganiad Llywodraethu wedi'i lofnodi, a fydd yn rhan o'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
  • Sicrhau bod gweithdrefnau ariannol priodol yn cael eu dilyn a bod cofnodion cyfrifyddu’n cael eu cadw ar ffurf sy'n addas i ofynion y rheolwyr yn ogystal ag ar y ffurf a ragnodir ar gyfer cyfrifon cyhoeddedig
  • Llofnodi'r cyfrifon a neilltuwyd i chi ac, wrth wneud hynny, derbyn cyfrifoldeb personol am eu cyflwyniad priodol fel y pennir mewn deddfwriaeth, cyfarwyddyd y cyfrif a'r canllawiau perthnasol
  • Llofnodi datganiad o gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu i'w gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
  • Rhoi tystiolaeth, gan gynnwys mynychu gwrandawiadau, ar faterion sy'n ymwneud â'r Corff sy'n codi gerbron Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, pwyllgorau eraill y Cynulliad Cenedlaethol, Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin neu Bwyllgorau Seneddol eraill, i roi cyfrif am stiwardiaeth y Corff o adnoddau cyhoeddus
  • Ymateb i unrhyw argymhellion gan y pwyllgorau hynny a wneir yn uniongyrchol i'r Corff, a gweithredu ar unrhyw argymhellion a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru

Ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin

11. Gall Archwilydd Cyffredinol Cymru ac, mewn rhai amgylchiadau, y Rheolwr a'r Archwilydd Cyffredinol gynnal archwiliadau i ba mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y mae eich sefydliad wedi defnyddio ei adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau. Fel Swyddog Cyfrifyddu, efallai y byddwch yn disgwyl cael eich galw i ymddangos gerbron y Pwyllgor priodol o bryd i'w gilydd, fel arfer gyda'r Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol neu o bosibl gyda'r Prif Swyddog Cyfrifyddu, i roi tystiolaeth ar yr adroddiadau sy'n deillio o'r archwiliadau hyn, ac i ateb cwestiynau'r Pwyllgorau ar eich Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.

12. Gall Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin ofyn i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gymryd tystiolaeth ar eu rhan ac adrodd yn ôl iddynt ar y dystiolaeth a gafwyd. Fel Swyddog Cyfrifyddu, efallai y cewch eich cefnogi gan swyddogion eraill, a all ymuno â chi i roi'r dystiolaeth. Wrth roi tystiolaeth, bydd disgwyl i chi roi esboniadau i'r naill Bwyllgor neu'r llall am unrhyw arwyddion o wendid yn y materion a drafodir ym mharagraffau 4-9 uchod, y tynnwyd eu sylw atynt gan Archwilydd Cyffredinol Cymru neu'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol neu y gallent ddymuno eich holi yn eu cylch.

13. Yn ymarferol, bydd gan Swyddog Cyfrifyddu awdurdod dirprwyedig eang fel arfer, ond ni all wadu cyfrifoldeb ar y mater hwn. Nid yw'r Swyddog Cyfrifyddu presennol ychwaith, yn ôl confensiwn, yn gwrthod ateb cwestiynau am ddigwyddiadau a ddigwyddodd cyn iddo ddechrau'r penodiad. Efallai y bydd disgwyl i'r Pwyllgorau beidio â rhoi pwysau ar gyfrifoldeb personol y deiliad mewn amgylchiadau o'r fath.

14. Mae pwysigrwydd mawr ynghlwm wrth gywirdeb tystiolaeth, a chyfrifoldeb tystion i sicrhau hyn. Fel Swyddog Cyfrifyddu, dylech sicrhau eich bod yn cael eich briffio'n ddigonol ac yn gywir ar faterion sy'n debygol o godi yn y cyfarfod. Gellir gofyn i'r Pwyllgorau am ganiatâd i ddarparu gwybodaeth nad yw o fewn ei wybodaeth uniongyrchol drwy gyfrwng nodyn diweddarach. Pe bai'n cael ei ddarganfod wedyn bod y dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgorau yn cynnwys gwallau, dylid rhoi gwybod i'r Pwyllgorau am y rhain cyn gynted â phosibl.

15. Yn gyffredinol, mae rheolau a chonfensiynau sy'n llywodraethu ymddangosiad swyddogion gerbron Pwyllgorau Seneddol yn berthnasol i'r Pwyllgorau hyn, gan gynnwys y confensiwn cyffredinol nad yw swyddogion yn datgelu cyngor y maent wedi'i roi i'r Bwrdd. Serch hynny, mewn achos lle y cyhoeddwyd cyfarwyddyd yn ymwneud â mater o briodoldeb neu reoleidd-dra, byddai cyngor y Swyddog Cyfrifyddu, a'i wrthod gan y Bwrdd, yn cael ei ddatgelu.

16. Mewn achos lle mae cyngor Swyddog Cyfrifyddu wedi'i wrthod mewn mater o werth arian neu ddichonoldeb (yn hytrach na rheoleidd-dra neu briodoldeb), bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru neu'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol wedi egluro i'r Pwyllgor perthnasol bod cyngor y Swyddog Cyfrifyddu wedi'i wrthod. Fodd bynnag, dylech osgoi datgelu'r cyngor a roddwyd neu ei ddatgysylltu oddi wrth y penderfyniad. Yn amodol, lle bo'n briodol, ar gytundeb y Bwrdd, dylech fod yn barod i esbonio penderfyniad o'r fath a gellir galw arnoch i fodloni'r Pwyllgor bod yr holl ystyriaethau ariannol perthnasol wedi'u dwyn i sylw'r Bwrdd cyn i'r penderfyniad gael ei wneud. Mater i'r Pwyllgor wedyn fydd mynd ar drywydd y mater ymhellach gyda'r Bwrdd os yw'n dymuno gwneud hynny.

Absenoldeb Swyddog Cyfrifyddu

17. Dylai Swyddog Cyfrifyddu sicrhau ei fod ar gael yn gyffredinol ar gyfer ymgynghori ac, mewn unrhyw gyfnod dros dro o absenoldeb oherwydd salwch neu achos arall, neu yn ystod cyfnodau arferol o wyliau blynyddol, y bydd uwch swyddog yn y sefydliad a all weithredu ar ei ran os bydd angen.

18. Os yw swydd y Prif Weithredwr (neu gyfatebol) yn wag neu os daw'n amlwg bod y Swyddog Cyfrifyddu’n analluog ac yn methu â chyflawni'r cyfrifoldebau hyn, dylid hysbysu'r Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol fel y gellir dynodi Swyddog Cyfrifyddu dros dro yn ffurfiol, hyd nes y bydd y Swyddog Cyfrifyddu yn dychwelyd neu pan benodir un newydd.

19. Efallai y bydd disgwyl i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ'r Cyffredin ohirio gwrandawiad os nad yw’r Swyddog Cyfrifyddu perthnasol ar gael dros dro. Os nad yw'r Swyddog Cyfrifyddu’n gallu llofnodi'r cyfrifon mewn pryd i'w cyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru, gellir cyflwyno copïau heb lofnod hyd nes y bydd y Swyddog Cyfrifyddu’n dychwelyd. Os na all y Swyddog Cyfrifyddu lofnodi'r cyfrifon mewn pryd ar gyfer argraffu, dylai'r Swyddog Cyfrifyddu dros dro lofnodi yn lle hynny.

Atebolrwydd i'r Bwrdd

20. Rhaid i chi gymryd gofal i ddwyn i sylw'r Bwrdd unrhyw wrthdaro rhwng eu cyfarwyddiadau a'ch dyletswyddau fel Swyddog Cyfrifyddu. Ni allwch dderbyn nodau na pholisïau'r Bwrdd heb eu harchwilio. Nid oes ffurf benodol ar gyfer cofrestru gwrthwynebiadau, er y dylech fod yn benodol am eu natur. Y prawf asid yw a allech gyfiawnhau'r gweithgaredd arfaethedig pe gofynnwyd i chi ei amddiffyn.

21. Os bydd y Bwrdd, er gwaethaf eich cyngor, yn penderfynu parhau â llwybr gweithredu rydych wedi cynghori yn ei erbyn, dylech ofyn i'r Bwrdd am gyfarwyddyd ffurfiol i fwrw ymlaen, gan nodi'r posibilrwydd o ymchwiliad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae cyfarwyddyd o'r fath yn beth prin. Mae enghreifftiau lle mae'r weithdrefn hon yn briodol wedi'u nodi isod:

  • Rheoleidd-dra - os yw cynnig y tu allan i bwerau cyfreithiol eich sefydliad, caniatâd Seneddol neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru, dirprwyaethau Llywodraeth Cymru neu'n anghydnaws â'r cyllidebau gwariant y cytunwyd arnynt
  • Priodoldeb - pe bai cynnig yn torri gweithdrefnau neu ddisgwyliadau rheoli'r Senedd neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Gwerth am Arian – pe bai cynnig arall, neu wneud dim, yn sicrhau gwell gwerth, er enghraifft: canlyniad rhatach, o ansawdd uwch neu fwy effeithiol
  • Dichonoldeb – lle mae amheuaeth ddifrifol ynghylch a ellir gweithredu'r cynnig yn gywir, yn gynaliadwy, neu’n unol â'r amserlen arfaethedig

22. Pan roddir cyfarwyddyd, rhaid i chi:

  • Ddilyn cyfarwyddyd y Bwrdd ar unwaith
  • Anfon copi o’r papurau perthnasol at Archwilydd Cyffredinol Cymru a'ch tîm partneriaeth, a fydd yn tynnu sylw Swyddog Cyfrifyddu Ychwanegol Llywodraeth Cymru at y mater. Fel arfer, bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn tynnu sylw'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at y mater. Cyn belled â'ch bod wedi dilyn y weithdrefn hon, gellir disgwyl i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gydnabod nad oes gennych unrhyw gyfrifoldeb personol yn eich rôl Swyddog Cyfrifyddu am y trafodiad. Rhaid i chi drefnu bod bodolaeth y cyfarwyddyd yn cael ei gyhoeddi yn yr adroddiad a'r cyfrifon, oni bai bod yn rhaid cadw'r mater yn gyfrinachol
  • Os gofynnir, er enghraifft yn ystod gwrandawiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dylech esbonio camau gweithredu'r Bwrdd. Mae hyn yn parchu hawliau'r Bwrdd i gael cyngor gonest gan ddiogelu ansawdd y drafodaeth fewnol

Atebolrwydd i'r tîm partneriaeth

23. Fel Swyddog Cyfrifyddu, rydych yn atebol i'r tîm partneriaeth am:

  • Hysbysu am benderfyniadau pwysig neu arwyddocaol, yn unol â'r canllawiau sydd yn y ddogfen fframwaith
  • Darparu ffynonellau tystiolaeth i alluogi'r tîm partneriaeth i benderfynu ar drefniadau goruchwylio priodol
  • Sicrhau presenoldeb a chyfranogiad effeithiol mewn cyfarfodydd monitro, a bod rhagolygon a gwybodaeth fonitro amserol am berfformiad a chyllid yn cael eu darparu i'r tîm partneriaeth
  • Sicrhau bod y tîm partneriaeth yn cael ei hysbysu am broblemau sylweddol cyn gynted â phosibl
  • Rhoi i'r tîm partneriaeth unrhyw wybodaeth am ei berfformiad a'i wariant y gallai fod ei hangen yn rhesymol ar y tîm partneriaeth

Gweithio mewn partneriaeth

24. Mae cyrff cyhoeddus yn gweithio fwyfwy mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i gyflawni eu nodau a'u hamcanion strategol. Dylech sicrhau bod effaith ehangach y gweithgareddau yr ydych yn gyfrifol amdanynt yn cael eu nodi'n briodol a, lle'n briodol, yn cael eu hystyried cyn bwrw ymlaen. Gall eich sefydliad gyfrannu at weithgaredd cydgysylltiedig a arweinir gan sefydliad arall (boed yn y sector cyhoeddus neu breifat) wrth gyflawni ei amcanion.

25. Gellir ystyried bod cyfraniad o'r fath yn briodol er na fyddai'n cyfrannu'n uniongyrchol at gyflawni amcanion ehangach eich sefydliad. Mewn amgylchiadau o'r fath bydd angen i chi ddangos bod y cyfranogiad yn cynrychioli gwerth da am arian yn gyffredinol a bod rheolaethau priodol ar waith i ddiogelu priodoldeb ac i ddarparu atebolrwydd priodol.

26. Gall Swyddogion Cyfrifyddu ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd am ddarparu gwasanaeth drwy weithio cydgysylltiedig. Pan fyddwch chi a Swyddog Cyfrifyddu arall yn ysgwyddo cyfrifoldeb ar y cyd, mae angen i'r llinellau cyfrifoldeb gael eu dogfennu'n glir er mwyn sicrhau eglurder llwyr o ran yr hyn y mae pob un ohonoch yn gyfrifol ac yn atebol amdano.

Rheoleidd-dra a phriodoldeb gwariant

27. Mae gennych gyfrifoldeb penodol dros sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru o ran rheoli gwariant ac unrhyw ofynion a osodir gan dîm partneriaeth Llywodraeth Cymru. Un o'r gofynion sylfaenol yw mai dim ond i'r graddau ac at y dibenion a awdurdodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y dylid defnyddio'r arian. Rhaid tynnu sylw Cynulliad Cenedlaethol Cymru at golledion neu daliadau arbennig, drwy nodiant priodol ar y cyfrif perthnasol.

28. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod cymeradwyaeth benodol ar gyfer gwariant gan Lywodraeth Cymru ym mhob achos lle mae ei angen, gan gynnwys achosion sy'n ymwneud â thâl, pensiynau ac amodau gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw wariant nad yw'n dod o dan unrhyw awdurdodau a ddirprwyir gan Lywodraeth Cymru i'r corff. Nid yw awdurdod dirprwyedig yn dileu'r rhwymedigaeth i gyflwyno cynigion newydd, dadleuol neu sy’n cael sgil effeithiau i Lywodraeth Cymru. Rydych yn gyfrifol hefyd am sicrhau bod peirianwaith digonol yn bodoli ar gyfer casglu a dwyn i gyfrif mewn ffurf briodol yr holl incwm a derbyniadau o unrhyw fath yr ydych yn gyfrifol amdanynt.